1896

18g - 19g - 20g
1840au 1850au 1860au 1870au 1880au - 1890au - 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au
1891 1892 1893 1894 1895 - 1896 - 1897 1898 1899 1900 1901


Digwyddiadau

  • 28 Ionawr - Collodd 57 o ddynion eu bywydau yn Nhanchwa Tylorstown, Rhondda
  • 16 Ionawr - Cwymp Cymru Fydd
  • 1 Chwefror - Premiere yr opera La bohème gan Giacomo Puccini, yn Torino
  • 1 Mawrth - Brwydr Adwa yn Ethiopia
  • Ebrill - Ysgrifennodd y Cambrian News and Merionethshire Standard ar 1 Mai 1896 fel hyn: Very large catches of fish have been made in the Estuary Mawddach this year [hyd at ddiwedd Ebrill] by natives and visitors, comprising, principally, mullet and cod. On many days over a hundredweight has been taken.
  • 7 Mai - Meddai Ellis Pierce yn ei golofn "Ebion o Nant Conwy" yn y Cymro ar 7 Mai 1896, wrth gwyno am y tywydd yn ardal Dolwyddelan: "Oer ac oer neillduol ydyw yr hin wedi bod ac yn parhau i fod yn Nant Conwy yma. Bu y gôg yn hir heb ganu yn nhreftadaeth ei hynafiaid. Mae'n barugo, ie, yn rhewi, yn ystod y nos, a phenau uchaf y mynyddoedd yn cael eu gorchuddio yn fynych â chaenen deneu o eira."
  • 4 Mehefin - Adroddodd yr Evening Express 4 Mehefin 1896 (Pink Edition) bod y syched hir wedi dod i ben gyda chawod drom o law yn ystod y bore.
  • 12 Mehefin - Adroddodd y South Wales Daily Post ar y 13 Mehefin 1896 am stwrsiwn 8tr. 4mod. o hyd, 3tr. 4mod. o'i gwmpas, ac yn pwyso 3cwt. yn cael ei ddal mewn dwr bas ar y Tywi ger Alltwaddon.
  • 15 Mehefin - Daeargryn a tsunami yn Sanriku, Japan; 27,000 o bobol yn colli ei bywydau.
  • 1 Gorffennaf - Kuala Lumpur yn dod yn brifddinas Maleisia
  • 25 Gorffennaf - Adroddodd newyddiadur Y Dydd (31 Gorffennaf 1896) am "lifogydd difrifol mewn amryw leoedd dydd Sadwrn [25 Gorffennaf], ac nid yn fwy felly na Dolgellau. Chwyddodd yr Afon Aran yn fwy nac y gwelodd neb hi o`r blaen erioed, a hyny ar ychydig rybudd. Ni wnaeth ragor o niwaid nac ymweled ag amryw dai, a daeth trwy Sarnau y pobty yn llif mawr, fel yr ydoedd Meyrick street fel afon, a`r ffordd i Felin Uchaf yr un modd; ac onibai am fod rhai pontydd yn gryfion, nid oes dadl na buasai collection mawr wedi cymeryd lle. Glanhawyd llawer ar yr afonydd oddiwrth arogl anhyfryd."
  • Awst - Nifer o adroddiadau papurau newyddion am gnwd helaeth o fadarch ar draws y gogledd yn dilyn torri'r sychder hir
  • 1 Medi - Yn Llanelwy, Dinbych, a Threffynnon yn ôl Y Dydd 4 Medi 1896: "LLIFOGYDD. Mewn rhai parthau o Gymru y mae wedi gwneud llifogydd mawrion dydd Llun [31 Awst] a dydd Mawrth [1 Medi], yn enwedig yn Llanelwy, Dinbych, a Treffynon, ac nid oedd modd myned ar hyd yr heolydd yn y lleoedd hyn gan fod y llifogydd mor fawrion."

Genedigaethau

Marwolaethau

Y celfyddydau

Llyfrau

Drama

Cerddoriaeth

Eisteddfod Genedlaethol (Llandudno)

Cyfeiriadau

  1. Jay Parini (2004). The Oxford Encyclopedia of American Literature (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 394. ISBN 978-0-19-515653-9.
  2. André Breton (October 2003). André Breton: Selections (yn Saesneg). University of California Press. t. 165. ISBN 978-0-520-23954-8.
  3. Robert Thomas Jenkins (1959). "Davies, Richard (1818-1896), aelod seneddol". Cyrchwyd 27 Mawrth 2022.
  4. John Dyfnallt Owen (1959). "Evans, Evan Herber (1836-1896), gweinidog Annibynnol a phrifathro coleg diwinyddol". Cyrchwyd 27 Mawrth 2022.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.