1963
19g - 20g - 21g
1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au
1958 1959 1960 1961 1962 - 1963 - 1964 1965 1966 1967 1968
Digwyddiadau
Ionawr
- 14 Ionawr - George C. Wallace yn dod yn llywodraethwr Alabama.
- 22 Ionawr - Cytundeb Elysée rhwng yr Almaen a Ffrainc.
Chwefror
- Cynhaliwyd protest gyhoeddus gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth, pan roddwyd posteri ar adeilad swyddfa bost y dref ac ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan.
- 19 Chwefror - Cyhoeddi The Feminine Mystique gan Betty Friedan.
- 27 Chwefror - Juan Bosch yn dod yn Arlywydd Gweriniaeth Dominica.
Mawrth
- 23 Mawrth - Denmarc yn ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision yn Llundain, gyda Dansevise gan Grethe a Jørgen Ingmann.
Ebrill
- 22 Ebrill - Lester Pearson yn dod yn Brif Weinidog Canada.
Mai
- 4 Mai - Tân mawr yn Theatr Le Monde, Dioirbel, Senegal; 64 o bobl yn colli ei bywydau.
Mehefin
- 16 Mehefin - Valentina Tereshkova, yr ofodwraig gyntaf, yn peilota Vostok 6 i'r gofod.
- 21 Mehefin - Giovanni Battista Montini yn dod yn Bab Pawl VI.
Gorffennaf
- 7 Gorffennaf - Cwffio 7 Gorffennaf
- 26 Gorffennaf - Daeargryn yn Skopje
Awst
- 28 Awst - Llafar "I have a dream" gan Martin Luther King, Jr.
Medi
- 16 Medi - Singapôr yn dod yn dalaith Maleisia
- 29 Medi - Stylianos Mavromichalis yn dod yn brif weinidog Groeg
Hydref
- 18 Hydref - Syr Alec Douglas-Home yn dod yn brif weinidog y Deyrnas Unedig
Tachwedd
- 2 Tachwedd - Coup d'état De Fietnam, 1963
- 22 Tachwedd - Bradlofruddiaeth yr Arlywydd John F. Kennedy yn Dallas, Texas, gan Lee Harvey Oswald
- 24 Tachwedd - Llofruddiaeth Lee Harvey Oswald gan Jack Ruby
Rhagfyr
Genedigaethau
- 11 Ionawr - Arne Dahl (Jan Arnald), nofelydd
- 17 Chwefror - Michael Jordan, chwaraewr pêl-fasged
- 22 Chwefror - Vijay Singh, golffiwr
- 27 Mawrth - Quentin Tarantino, cyfarwyddwr ffilm
- 25 Mai - Mike Myers, comediwr
- 4 Ebrill - Graham Norton, comediwr
- 25 Mehefin - George Michael, cerddor (m. 2016)
- 31 Hydref
- Dermot Mulroney, actor
- Dunga, pêl-droediwr
- 1 Tachwedd - Mark Hughes, chwaraewr a rheolwr pêl-droed
- 19 Rhagfyr - Paul Rhys, actor
- 28 Rhagfyr - Simon Thomas, gwleidydd
Marwolaethau
- 15 Ionawr - Morgan Phillips, gwleidydd, 60[1]
- 11 Chwefror - Sylvia Plath, bardd, 30[2]

- 4 Mawrth - William Carlos Williams, bardd, 79
- 5 Mawrth - Patsy Cline, cantores, 30 (damwain awyren)[3]
- 3 Mehefin - Pab Ioan XXIII, 81
- 17 Mehefin - John Cowper Powys, nofelydd, 90
- 15 Gorffennaf - Muhammad Ali Bogra, Prif Weinidog Pakistan, 54
- 4 Medi - Robert Schuman, gwladweinydd, 77
- 11 Hydref
- Jean Cocteau, awdur, 74
- Édith Piaf, cantores, 47
- 26 Hydref - Horace Evans, meddyg, 60
- 2 Tachwedd - Ngô Đình Diệm, Arglwydd De Fietnam, 62
- 22 Tachwedd
- Aldous Huxley, nofelydd, 69
- John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, 46
- C. S. Lewis, awdur, 64
- 24 Tachwedd - Lee Harvey Oswald, 24
- 14 Rhagfyr - Dinah Washington, cantores, 39
Y celfyddydau
Ffilmiau
Llyfrau
- John Ellis Williams - Inc yn fy Ngwaed[4]
- R. S. Thomas - The Bread of Truth
- Harri Williams - Ward 8[5]
- Clough Williams-Ellis - Portmeirion, the Place and its Meaning[6]
Cerddoriaeth
- "Please Please Me" (Y Beatles)
- The Knife (opera) gan Daniel Jones[7]
Eisteddfod Genedlaethol (Llandudno)
- Cadair: dim gwobr
- Coron: Tom Parri Jones
- Medal Ryddiaeth: William Llewelyn Jones, Ar Grwydr
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: Eugene Wigner, Maria Goeppert Mayer a J. Hans D. Jensen
- Cemeg: Karl Ziegler a Giulio Natta
- Meddygaeth: Syr John Eccles, Alan Lloyd Hodgkin ac Andrew Huxley
- Llenyddiaeth: Giorgos Seferis
- Heddwch: Pwyllgor Rhwngwladol y Croes Coch, Cynghrair Cymdeithasoedd y Croes Coch
Tywydd
Heth fawr gaeaf 1962-63
Dyma gip ar fywyd yn ystod y gaeaf caled hwn. Dechreuodd gyda barrug trwm ar 23 Rhagfyr 1962 a’r rhagarwydd o’r tywydd i ddod gyda symudiad o 6,300 o gornchwiglod mewn 39 haid yn hedfan i’r gorllewin 300 ohonyn nhw dros Gaergybi yn anelu am Iwerddon fwyn. Nododd yr adarydd Peter Hope Jones[8] Cofnododd JH Jones, Hiraethog, Cerrigydrudion ar 24 Rhagfyr: “Bwrw codl eira drwy'r dydd, caenen go arw erbyn y nos” gyda thywydd niwlog, sych, barugog yn parhau am rai dyddiau gydag eira tan ddiwedd y mis. Ar ddiwrnod olaf Rhagfyr cofnododd Defi Lango yn ei ddyddiadur Perlau’r Pridd, 2009[9]: "Ychydig o eira wedi disgyn neithiwr eto - a'r gwynt cryf yn para i'w chwythu. Mae lluwchfeydd mawr ar y tir uchel ac ambell luwch chwe troedfedd o uchder ar yr heol fawr - top Rhiw Lango a thop Crachdir”.
- Ionawr 1963
Profodd sir Fôn sychder ac oerfel parhaus yn Ionawr a Chwefror 1963, ac yn wahanol i weddill y wlad, sychder o’r bron a gwelwyd eira ysgafn dros y tir yno am ddau neu dri diwrnod yn unig (PHJ). Ar yr 2 Ionawr dechruodd ffermwyr dorri llwyni fel porthiant: “Torri eiddaw i wintrin”, (Dyddiadur Ellis Morris, Pant y Maen, Cymdu, Llanrhaeadr ym Mochnant). Ar y 3 Ionawr cofnododd EM iddi fwrw “eira drwy'r dydd a drifftio” ac yng Ngherrigydrudion yr un diwrnod roedd hi’n “Bwrw eira drwy'r dydd bron... Mynd efo Landrover Cwmain o'r Cerrig.. Aradr eira yn mynd o flaen y claddedigaeth o Pentre Mawr i'r fynwent” (JHJ). Ar y 6 Ionawr roedd Edwina Fletcher yn mudo o Llanffestiniog yng nghanol eira mawr, a dwyreinwynt yn ôl Ellis Morris - cofnododd y diwrnod wedyn: “Rhew caled iawn. Torri lot o'r eiddew i'r wyn. Oer ofnadwy rhew eto” ac “Oen bach a snow fever”. Parhaodd y tywydd rhewllyd dros Gymru gyda Defi Lango yn Esgairdawe yn nodi iddo dorri “ychydig o'r onnen, Waun Pistyll” ar y 9ed ar gyfer ei dda mae’n siwr pan u bu’n “Mwy o rew nag arfer neithiwr”. Yng Ngherrigydrudion ar y 10ed doedd hi “Ddim mor oer, ond yn oeri yn arw ar ol te. Yn rhy oer i mi gael myned i'r capel...Wedi methu godro neithiwr na bore heddiw y peipiau wedi rhewi” a chymerodd JMJ “blowe [sic] lamp” atynt ond heb lwyddiant
Caewyd yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin am dridiau gyda pharhad yn y tywydd “Arctic..... and we're having to feed hay to sheep morning and evening” (DL). Nododd perchen newydd Craflwyn, Beddgelert yn y dyddiadur o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 12 Ionawr, “bloody freezing & getting worse.... went to Caernarvon shopping water still froze”. “Rhewi’n gynddeiriog” meddai EM yn Llanrhaeadr; roedd Llyn Ogwen a Llyn Padarn dan rew yn ôl y cofnodwr tywydd Les Larsen. “13 January 1963 Bitter cold. Doing nothing much. Everything iced up” meddai’r cyn-yrrwr tacsi o Craflwyn. Ar 16 Ionawr bu EM yn Llanrhaeadr yn “Cwympo pren celyn berllan i wintrin” ac ar “Noson felltigedig [y 19eg]....” fe nododd “East wind a chwythu eira yn gymylau. Torri ivy Cae Pig” - ar y 19 Ionawr “y diwrnod oera eto” meddai, yn dal i luwchio ar y 21ain, ac eto ar y 22ain “Rhew fel asgwrn. Torri eiddew hen geubren Alltfawr”. Meiriolodd ychydig ar y 26 Ionawr yn y gogledd (JMJ) ac yn y de: “Y tywydd fel pe'n gwella. Bu tipyn o doddi ar yr eira heddiw - a mannau o'r tir yn dod i'r golwg“ ac ar y 29 Ionawr “The milk lorry took our milk from the stand at the end of the lane today - it's nearly 5 weeks since it was picked up from there (DL). Ond dychwelodd yr eira ddiwedd y mis[10]
- Chwefror 1963
Ar 2 Chwefror cofnododd DL eto “Bwrw eira ar brydiau y bore, gwynt cryf prynhawn yn symud yr eira o'r caeau agored a heno mae'n rhewi'n ffyrnig. Y defaid a'r w^yn menywod [sic] yn bwyta tua phum be^l o wair y dydd - y defaid yn cael ce^c hefyd. Oherwydd fod yr heolydd mor anodd fe grasodd y menywod 'ma bump torth o fara yn hytrach na mynd i Lansawel i mofyn bara.” Ar 6 Chwefror yn ol JMJ y “Noson waethaf eto yn Wales 25 main roads blocked Gwynt mawr”
Parhaodd yr heth yn yr un modd, peipiau wedi rhewi, cario dwr a bywyd yn gyffredinol wedi ei droi wyneb i waered tan yr 8 Mawrth pam gofnododd Goronwy Davies “Hoffwn gyfeirio at Fawrth 1962, mae llawer yn cam ddeallt am y gaeaf caled 1963, wrth edrych ar hen Galendr (fyddai hen gyfaill yn ysgrifen[nu] hanes tywydd ar ei gefn) fe pallodd yr rhew ar ol yr 9fed o Fawrth 1963, ond roedd y llywchfeudd eira yn bodoli am wythnosau lawer wedi hynnu.”[11]
Cyfeiriadau
- ↑ Mary Auronwy James. "Phillips, Morgan Walter (1902-1963), ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 3 Awst 2025.
- ↑ Butscher, Edward (2003). Sylvia Plath: Method and Madness (yn Saesneg). Tucson, Arizona: Schaffner Press. t. 364. ISBN 0-9710598-2-9.
- ↑ Sherry Anderson (Ionawr 2001). "Artist Biography - Patsy Cline". Countrypolitan.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2014.
- ↑ Williams, John Ellis (1963). Inc yn fy Ngwaed. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ "D.T.", "Ward 8", Lleufer, Cyf. 19, rh. 3, Hydref 1963 t.155
- ↑ Directory of British Architects, 1834-1914 (yn Saesneg). 2. Bloomsbury Academic. 2001. t. 1010.
- ↑ Francis Routh (1972). Contemporary British music: the twenty-five years from 1945 to 1970 (yn Saesneg). Macdonald and Company. t. 420.
- ↑ Hope-Jones, P. )1964? Effects of hard weather in January and February 1963 on birds of the Newborough district Nature in Wales
- ↑ Perlau'r Pridd: dyddiadur David Lewis Jones (Defi Lango) 2009
- ↑ Tywyddiadur gwefan Prosiect Llên Natur[1]
- ↑ Tywyddiadur gwefan Prosiect Llên Natur[2]
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.