Alex Morgan
| Alex Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | Alexandra Patricia Morgan 2 Gorffennaf 1989 San Dimas |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, nofelydd, ysgrifennwr, masnachwr |
| Taldra | 170 centimetr |
| Pwysau | 62 cilogram |
| Priod | Servando Carrasco |
| Gwobr/au | U.S. Soccer Athlete of the Year, Best Female Athlete ESPY Award, Gwobr Time 100, Esgid Aur Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol y Merched |
| Gwefan | https://alexmorgansoccer.com/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Tîm pêl-droed cenedlaethol merched yr Unol Daleithiau, Portland Thorns FC, Seattle Sounders Women, Western New York Flash, Portland Thorns FC, Orlando Pride, West Coast FC, United States women's national under-20 association football team, OL Lyonnes, California Golden Bears women's soccer, Orlando Pride, San Diego Wave FC |
| Safle | blaenwr |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Awdures a pêl-droediwr o'r Unol Daleithiau yw Alex Morgan (ganwyd 2 Gorffennaf 1989) sydd hefyd yn nofelydd ac yn awdur. Mae'n flaenwr yn nhîm Orlando Pride sy'n chwarae o fewn y Women's Soccer League (NWSL); ers 2018 mae hi'n gyd-gapten ei thim cenedlaethol, gyda Carli Lloyd a Megan Rapinoe. Ceir ffilm ohoni lle mae'n actio hi ei hun, sef Alex & Me, a ryddhawyd ym Mehefin 2018.
Ganed Alexandra Patricia Morgan Carrasco yn San Dimas, Califfornia, Unol Daleithiau America. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley.[1][2][3][4]
Magwraeth

Ei rhieni oedd Pamela S. a Michael T. Morgan ac fe'i ganed yn San Dimas, California, lle magwyd Morgan gyda'i dwy chwaer hŷn, Jeni a Jeri, ym maestref gyfagos Diamond Bar, a leolwyd tua 30 milltir i'r dwyrain o Los Angeles[5][6][7][8][9][10]. Roedd hi'n athletwr aml-chwaraeon a dechreuodd chwarae pêl-droed Americanaidd yn gynnar gydag AYSO; roedd ei thad ymhlith ei hyfforddwyr cyntaf. Fodd bynnag, ni ddechreuodd chwarae pêl-droed clwb tan oedd yn 14 oed pan ymunodd â Cypress Elite. [11][12]
Mynychodd Morgan Ysgol Uwchradd Diamond Bar, lle cafodd ei dewis deirgwaith ar gyfer yr holl-gynghrair ac fe'i henwyd yn All-American gan Gymdeithas Genedlaethol Hyfforddwyr Pêl-droed America (NSCAA). Yn yr ysgol, roedd yn adnabyddus am ei chyflymder a'i gallu i sbrintio.[13] Morgan played for Olympic Development Program (ODP) regional and state teams as well.[14]

Bu Morgan ym Mhrifysgol UC Berkeley, ble chwaraeodd i'r California Golden Bears o 2007 hyd 2010.[15]
Gyrfa

Yn fuan ar ôl graddio o Brifysgol Califfornia, Berkeley, lle chwaraeodd dros y California Golden Bears, cafodd Morgan ei drafftio rhif un yn Drafft 2011 y WPS gan y Western New York Flash. Yno, gwnaeth ei gêm broffesiynol gyntaf a helpodd y tîm i ennill pencampwriaeth y gynghrair.
Morgan, a oedd yn 22 ar y pryd, oedd y chwaraewr ieuengaf yn y tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA, 2011 lle enillodd y tîm arian. Yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, sgoriodd y gôl fuddugol yn y 12fed munud o'r gêm gynderfynol yn erbyn Canada. Gorffennodd 2012 gyda 28 gôl a chynorthwyo i sgorio 21 arall, gan ymuno â Mia Hamm fel yr unig fenyw Americanaidd i sgorio 20 gôl a chynorthwyo gyda 20 yn yr un flwyddyn galendr, a'i gwneud y chweched chwaraewr (a'r ieuengaf) i sgorio 20 gôl mewn un flwyddyn. Yn ddiweddarach fe'i henwyd yn Athletwr Benywaidd y Flwyddyn Pêl-droed U.S. ac roedd yn rownd derfynol Chwaraewr y Flwyddyn FIFA.
Yn 2013, ymunodd Morgan, â'r Portland Thorns a helpodd y tîm i ennill teitl y gynghrair y flwyddyn honno. Chwaraeodd Morgan dros y Thorns trwy dymor 2015, ac yna fe'i gwerthwyd i Orlando Pride.
Yn 2015, Morgan oedd chwaraewr pêl-droed menywod benywaidd Americanaidd uchaf ei chyflog, yn ôl Time, yn bennaf oherwydd ei nifer fawr o gytundebau ardystio (endorsement deals). Morgan, ynghyd â Christine Sinclair o Ganada a Steph Catley o Awstralia, oedd y chwaraewyr pêl-droed merched cyntaf i ymddangos ar glawr gemau fideo FIFA, a hynny yn 2015. Ymddangosodd ochr yn ochr â Lionel Messi ar gloriau FIFA 16 a werthwyd yn yr Unol Daleithiau.
Yr awdur
Oddi ar y maes, ymunodd Morgan â'r cyhoeddwyr Simon & Schuster i ysgrifennu cyfres o lyfrau gradd-ganol am bedwar chwaraewr pêl-droed: The Kicks. Daeth y llyfr cyntaf yn y gyfres, sef Saving the Team, yn rhif saith ar restr Gwerthwr Gorau The New York Times ym Mai 2013.
Anrhydeddau
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: U.S. Soccer Athlete of the Year (2012, 2018), Best Female Athlete ESPY Award (2019), Gwobr Time 100 (2019, 2022), Esgid Aur Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol y Merched (2022)[16][17][18][19] .
Cyfeiriadau
- ↑ Cyffredinol: (yn es) datos.bne.es, dynodwr BNE (datos.BNE.es) XX5840349, Wikidata Q50358336, http://datos.bne.es, adalwyd 24 Chwefror 2024
- ↑ Rhyw: http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan. archive URL: https://web.archive.org/web/20150423150548/http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan.+archive Date: 23 Ebrill 2015.
- ↑ Man geni: "Alex Morgan, Christine Sinclair among first seven players added to Portland Thorns FC through allocation process" (yn Saesneg). Portland Thorns FC. 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2015.
- ↑ Kassouf, Jeff (3 Hydref 2018). "USWNT notebook: Scheduling, captains and other updates from World Cup qualifying camp". The Equalizer. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
- ↑ "Alex Morgan, Christine Sinclair among first seven players added to Portland Thorns FC through allocation process". Portland Thorns FC. 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-30. Cyrchwyd 26 Hydref 2015.
- ↑ "2015 U.S. Women's National Team Media Guide" (PDF). U.S. Soccer Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 Ebrill 2015. Cyrchwyd 31 Mawrth 2015.
- ↑ "Orlando Pride Acquires Alex Morgan, Kaylyn Kyle and Sarah Hagen". Orlando City Soccer Club. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2015.
- ↑ "Alex Morgan Biography". A&E Biography. 17 Ionawr 2013. Cyrchwyd 26 Ionawr 2013.
- ↑ U.S. Soccer (16 Gorffennaf 2012), Alex Morgan: Daughter of Diamond Bar [Back Home], https://www.youtube.com/watch?v=Xllc0JHuycw, adalwyd 8 Mai 2019
- ↑ Borden, Sam (22 Gorffennaf 2012). "Rising as Fast as Her Feet Will Take Her". The New York Times. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2013.
- ↑ Galwedigaeth: http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan. archive URL: https://web.archive.org/web/20150423150548/http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan.+archive Date: 23 Ebrill 2015.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.ussoccer.com/stories/2014/03/17/14/00/morgan-wins-2012-female-aoty-award. https://www.ussoccer.com/stories/2018/12/07/18/14/20181207-news-wnt-alex-morgan-2018-us-soccer-female-player-of-the-year-tierna-davidson-young-winner. archive URL: https://web.archive.org/web/20190713083419/https://wnax.com/news/030030-alex-morgan-womens-soccer-team-honored-at-the-espys/.+ https://time.com/collection/100-most-influential-people-2019/5567853/alex-morgan/.
- ↑ Robledo, Fred (17 Ionawr 2012). "Diamond Bar's Alex Morgan continues to prove she belongs, London Olympics are next". Inside So Cal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-18. Cyrchwyd 6 Ebrill 2014.
- ↑ "Alex Morgan". University of California, Berkeley. Cyrchwyd 16 Mawrth 2014.
- ↑ Arnold, Geoffrey (27 Gorffennaf 2013). "Thorns' Alex Morgan embraces stardom and role as face of women's soccer". Oregon Live. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2013.
- ↑ https://www.ussoccer.com/stories/2014/03/17/14/00/morgan-wins-2012-female-aoty-award.
- ↑ https://www.ussoccer.com/stories/2018/12/07/18/14/20181207-news-wnt-alex-morgan-2018-us-soccer-female-player-of-the-year-tierna-davidson-young-winner.
- ↑ archive URL: https://web.archive.org/web/20190713083419/https://wnax.com/news/030030-alex-morgan-womens-soccer-team-honored-at-the-espys/.+
- ↑ https://time.com/collection/100-most-influential-people-2019/5567853/alex-morgan/.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.