Anhrefn
| Anhrefn | |
|---|---|
| Y Cefndir | |
| Tarddiad | Bangor, Gwynedd |
| Math o Gerddoriaeth | Roc pync |
| Cyfnod perfformio | 1982–1995, 2007 |
| Label | Anhrefn, Workers Playtime, Crai |
| Perff'au eraill | Mangre |
| Cyn-aelodau | |
| Rhys Mwyn Sion Sebon Hefin Huws Dewi Gwyn Dafydd Ieuan Dylan Hughes Sion Jones Ryan Kift Gwyn Jones | |
Band pync-roc Cymraeg a ffurfiwyd ym 1982 yw Anhrefn. Ym 1987, daeth Anhrefn y band Cymraeg cyntaf eu hiaith i arwyddo i gwmni recordio rhyngwladol (Workers Playtime). Wnaeth y band recordio dwy albwm efo'r cwmni, "Defaid, Skateboards & Wellies" ym 1987 a "Bwrw Cwrw" ym 1989.
Recordiodd y band dair sesiwn i'r gohebydd cerdd enwog, John Peel ac yn eu hanterth roeddent yn perfformio hyd at 300 o gigs y flwyddyn ledled Ewrop. Anhrefn hefyd oedd un o'r bandiau cyntaf i berfformio yn Nwyrain Berlin. Ymddangosodd y band ar raglen gerdd Channel 4, 'The Tube' yn 1987, er i'r cylchgronau Cerddoriaeth Prydeinig anwybyddu llwyddiant Anhrefn ar y cyfan.
Caiff enw'r band (wedi ei gamsillafu fel "Anrhefn") a phortread chwaraewr bâs Rhys Mwyn ei ymddangos ar ochr yr adeilad gwasg Y Lolfa yn Tal-y-bont, Ceredigion. Maent yn ymddangos yn yr awdl 'Gwawr' gan Meirion MacIntyre Huws a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993.
Yn 2007 atgyfodwyd Anhrefn ond y tro hwn heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu.
Recordiau Anhrefn
Yn 1983, lansiodd y band label recordio annibynnol, 'Recordiau Anhrefn' gan ryddhau nifer o recordiau cynnar gan Y Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog, Fflaps a Tynal Tywyll. Diolch i'r label, enillodd fandiau Cymreig adnabyddiaeth a chlod tu hwnt i Glawdd Offa.
Disgyddiaeth
Albymau
- Defaid, Skateboards a Wellies (1987), Workers Playtime
- Bwrw Cwrw (1989), Workers Playtime
- Soft Lights And Loud Guitars (Part 2) (1989) Released Emotions (LP rhanedig gyda Last Rough Cause)
- Bwtleg Powerhaus Llundain 1.3.1990 (1990)
- Rhowch Eich Teitl Eich Hun (1990), - caset albwm byw
- Dragons Revenge (1990), Lithograph, Crai, Probe Plus
- Dial y Ddraig (1990), Incognito
- Rhedeg i Bohemia Live (1991), Pro Art
- Dave Goodman Sessions (1991), Incognito, Crai
- Hen Wlad fy Mamau - Land of My Mothers (1995), Crai
Senglau
- "Action Man" / "Rhywle Yn Moscow" / "Dagrau Yn Eu Llygaid" (1983) ar albwm amlgyfrannog Cam o'r Tywyllwch (12" LP ANHREFN 02)
- "Dim Heddwch" / "Priodas Hapus" (1983) Anhrefn (ANHREFN01; feinyl gwyrdd)
- "Be Nesa 89" / "Bach Dy Ben " (1988) Anhrefn
- "Rhedeg i Paris" / "Y Ffordd Ymlaen" / "Llygad Wrth Lygad" (1990) Crai C008s
- Bwtleg Powerhaus Llundain 1.3.1990 (1990), Information Libre (12" EP)
- Clutter From The Gutter (1994) Incognito, Crai (gyda llais Margi Clarke)
Cyfeiriadau
Dolenni Allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.