Bania
| Math | adeilad, ystafell ymolchi, Ystafell stêm |
|---|---|
| Gwladwriaeth | Rwsia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/08213z |

Tŷ pren Rwsiaidd gydag ystafell stêm yw bania (hefyd banya yn ôl orgraff Saesneg)[1] sydd wedi ei wresogi gan stôf goed. Prif bwrpas y bania yw achosi'r ymdrochwr i chwysu er mwyn iddo lanhau ei hun ac ymlacio.[2]
Fel arfer, mae'r bania (tŷ pren) ger afon neu lyn fel gall yr ymdrochwyr neidio i'r dẃr oed ar ôl chwysu. Ceir hefyd bwcedi oer neu ymdrochir mewn eira er mwyn cyflawni'r un profiad os na fydd dẃr naturiol ger llaw.[2]
Hanes
Ceir cyfeiriad cynnar iawn i'r bania o 440 CC pan ysgrifennodd yr hanesydd Groegaidd Hynafol, Herodotus, am bobl sy'n byw yn yr hyn sy'n Rwsia heddiw.[2]
Ceir cyfeiriad cynnar am y bania yn y llawysgrif, Letopis Königsberg[3] a gwelir y disgrifiad llawn cyntaf o bania yng 'Nghroniclau Cynradd Slafaidd y Dwyrain' o'r flwyddyn 1113.[3]
Daw un o'r disgrifiadau cynharaf o'r bania o Gronicl Nestor o Pechersk o'r 12g,[4] mae'r darn a ddyfynnir amlaf yn disgrifio'r Apostol Andreas yn ymweld â thiriogaethau'r Slafiaid Dwyreiniol ar ei ffordd i'r trefedigaethau Groegaidd ar y Môr Du. Yn ôl y sôn, credir bod Andreas wedi teithio o aber Afon Dnieper, heibio i'r bryniau y byddai Kiyv yn cael ei sefydlu arnynt yn ddiweddarach, ac i'r gogledd i ddinas hynafol Novgorod.
"Mae'n hyfryd adrodd fy mod i wedi gweld tir y Slafiaid, a thra roeddwn i yn eu plith, sylwais ar eu baddonau pren. Maent yn eu cynhesu i wres eithafol, yna'n dadwisgo ac, ar ôl eneinio eu hunain â gwêr, yn cymryd canghennau ifanc ac yn chwipio eu cyrff. Mewn gwirionedd, maent yn chwipio eu hunain mor dreisgar fel eu bod prin yn llwyddo i doluro eu hunain. Yna maent yn trochi eu hunain â dŵr oer ac felly'n adfywio. Nid ydynt yn meddwl ddwywaith am wneud hynny, ac mewn gwirionedd maent yn achosi artaith o'r fath iddynt eu hunain yn wirfoddol. Maent yn gwneud y weithred hon nid yn olchi syml, ond yn boen go iawn."

Drwy gydol hanes Rwsia, mae'r bania wedi cael ei ddefnyddio gan bobl ym mhob dosbarth.[5] Byddai gweithwyr tlawd yn ymolchi mewn bania ar ôl gwaith.[5] ac, weithiau, roedd gan Rwsiaid cyfoethog bania preifat.[5]
Heddiw, mae gan banya leoedd ar wahân i ddynion a menywod. Nid oes rhaid i ymdrochwyr fod yn noeth.[5]
Rheolau cyffredin
Mae gan Bania dair ystafell: ystafell newid neu predbannik lle mae pobl yn newid dillad, ystafell olchi dillad, ac ystafell stêm neu parilka.[6]
Os yw'r bania ar gyfer dynion a menywod, dylai ymdrochwyr wisgo siwtiau nofio. Os oes gan y bania leoedd ar wahân i ddynion a menywod, mae ymdrochwyr fel arfer yn noeth.[2]
Mae nodweddion adeiladu a mathau banyas wedi newid yn sylweddol dros amser. Dyma rai enghreifftiau:
Bania Du
Tu mewn i bania du gyda'r dyddodion huddygl nodweddiadol sy'n rhoi ei enw iddo. Y bania du (čërnaja banja) yw'r math hynaf o bania. Fe'i gelwir felly oherwydd bod y mwg o'r tân coed yn aros y tu mewn i'r ystafell, gan gronni dros amser ar y waliau a'r nenfwd.
Bania Gwyn
Mae gan y bania gwyn (belaja banja) system o bibellau sy'n caniatáu i'r mwg ddianc o'r bania ei hun. Heddiw, dyma'r math mwyaf cyffredin o bania.
Bania Dros Dro

Yn ogystal â banias parhaol, mae yna hefyd yr hyn a elwir yn "banias dros dro" (pochodnaja banya) neu "banias heicio." Mae'r strwythurau byrfyfyr hyn yn boblogaidd iawn ymhlith mynyddwyr, cerddwyr, y fyddin, ac unrhyw un sy'n teithio am gyfnodau hir mewn amgylcheddau llym.[7]
Proses
Mae Bania yn aml yn boethach na 93°C.[6]
Mae ymdrochwyr yn eistedd ar fat neu dywel bach i amddiffyn eu croen wrth eistedd ar y meinciau pren poeth yn y bania, a bydd ymdrochwyr yn aml yn gwisgo hetiau ffelt tra byddant yn eistedd yno. Yn ystod y bath bania, mae ymdrochwyr yn defnyddio ysgub a elwir yn 'fenic'. Wrth ymdrochi bydd cyfeillion weithiau'n taro ei gilydd â changhennau'r ysbyg neu, gellir cael tylino proffesiynol i ymlacio ac iachâu'r ymdrochwyr. Y cam olaf wrth fynychu bania yw'r broses o oeri sydyn - gwneir hyn wrth ymdrochi mewn dŵr oer o rhyw fath - cyfaill yn taflu dŵr oer, neidio i'r eira neu plymio i afon neu lyn ger llaw.[8]
Ar rai adegau mewn hanes, byddai menywod yn mynd i'r bania i roi genedigaeth i fabanod. Ar ôl angladd, mae ffrindiau a theulu person marw weithiau'n mynd i bania gyda'i gilydd i alaru a chofio'r darfodedig.[2]
Y Fenic
Mae'r "fenic" (venik) yn fwndel neu ysgyb o ganghennau planhigion wedi'u clymu a ddefnyddir ar gyfer tylino yn y bania (veničnyi massaž), i bersawru'r awyr, i chwistrellu dŵr ar y gwresogydd dŵr, i wasgaru stêm, ac at ddibenion eraill. Gellir ei wneud gyda changhennau bron unrhyw goeden neu lwyn sy'n hyblyg, heb ddrain, ac nad yw'n rhyddhau sylweddau gludiog neu niweidiol. Y mathau mwyaf cyffredin o blanhigion ar gyfer y fenic yw bedw, derw, gwern, ewcalyptws, a phinwydd.
Gwahaniaeth rhwng bania a sawna
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng bania a sawna yw bod gan y bania, fel ystafell stêm, stêm o ddŵr anwedd a bod y rhan fwyaf o sawnâu yn defnyddio aer sych.
Iechyd
Gan ddechrau yn y 1800au, penderfynodd meddygon a gwyddonwyr astudio'r bania. Roedd ganddyn nhw syniad eisoes ei fod yn dda i iechyd. Nid oedd y rhan fwyaf o'u hastudiaethau'n dda yn ôl rheolau gwyddonol heddiw, ond dywedasant wrth lawer o bobl am fynd i'r bania er mwyn eu hiechyd.[2]
Llên gwerin
Yn mytholeg Slafaidd mae ysbryd o'r enw bannik sy'n byw yn y bania o dan y fainc. Mae'r bannik yn taflu dŵr poeth neu gerrig poeth at ymdrochwyr anghwrtais.[5]
Gweled hefyd
- Ystafell stêm (gelwir hefyd yn 'Baddon stêm')
- Sawna
Dolenni allanol
- What is a Banya? Erthygl a fideo ar y profiad o fynd i bania
- Benefits of Banya Erthygl ar fanteirion iechyd y bania
Cyfeiriadau
- ↑ Ethan Pollock (2019). Without the Banya We Would Perish: A History of the Russian Bathhouse (Abstract). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/oso/9780195395488.001.0001. ISBN 9780195395488. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Tatyana Leonov (4 Awst 2020). "The significance of the Russian 'banya'". BBC Travel. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2021.
- ↑ 3.0 3.1 Aaland, Mikkel (1998). "The Russian Bania. History of the Great Russian Bath". Cyber-Bohemia.
- ↑ The Russian Bania, History of the Great Russian Bath
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Suemedha Sood (November 29, 2012). "The origins of bathhouse culture around the world". BBC Travel.
- ↑ 6.0 6.1 "An Easy Guide to Russian Banya Steam Bath". Vegan Trekker (yn Saesneg). 2019-02-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-10. Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ Дачник, Андрей (12 Awst 2015). Баня: очерки этнографии и медицины (yn Rwseg). Андрей Дачник.
- ↑ Katie Warren (7 Awst 2019). "I visited a 200-year-old Russian bathhouse in Moscow, where I paid $85 to be whacked with branches and doused in ice-cold water". Business Insider. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2021.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.