Bronfraith
| Bronfraith | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Turdidae |
| Genws: | Turdus |
| Rhywogaeth: | T. philomelos |
| Enw deuenwol | |
| Turdus philomelos Brehm, 1831 | |

Mae'r fronfraith (hefyd bronfraith y grug, bronfraith fach; Lladin Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.
Nid yw'r fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.
Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a brych y coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na brych y coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae brych y coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.
Rhai rhywogaethau yn nheulu'r Turdidae
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Mwyalch Adeinlwyd | Turdus boulboul | |
| Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus |
Llenyddiaeth
Cymraeg
Honna rhai[3] mai cerdd am frych y coed Turdus viscivorus ac nid y fronfraith Turdus philomelos roedd goddrych cerdd [Dafydd ap Gwilym] am dan y teitl Y Ceiliog Fronfraith:
Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul[1] i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed[2]
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
Un peth sydd o blaid ceiliog bronfraith fel goddrych y gerdd ydi’r gair “llwyn”. Mae brych y coed yn canu fel hyn[4] o’r coed uchaf fel arfer. Mae’r hen enw gwerinol S. ‘stormcock’ yn addas iawn I gyfleu hyn.
Dolenni allanol
- Cân y Fronfraith Archifwyd 2009-02-25 yn y Peiriant Wayback
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.

