Candelas
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dod i'r brig | 2009 |
| Dechrau/Sefydlu | 2009 |
| Dynodwyr | |
Mae Candelas yn fand o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.
Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]
Enillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw Bodoli'n Ddistaw.
Enillodd y drymiwr Lewis Williams yr offerynnwr gorau yn ngwobrau y Selar 2013 am ei waith gyda Candelas a Sŵnami. Yn 2016 recordiodd y band ei fersiwn o'r gân "Rhedeg i Paris" fel 'anthem hâf' i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.
Maent hefyd wedi bod yn weithgar yn Dydd Miwsig Cymru.
Aelodau

- Osian Huw Williams (Llais a Gitâr)
- Ifan Jones (Gitâr a Llais Cefndir)
- Gruffydd Edwards (Gitâr a Llais Cefndir)
- Tomos Edwards (Gitâr Fas)
- Lewis Williams (Drymiau)
Disgyddiaeth
Senglau
| Teitl | Rhyddhawyd |
|---|---|
| "Cynt a’n Bellach" | 2014 |
| "Dim Cyfrinach" | 2014 |
| "Ddoe, Heddiw, a 'Fory" | 2017 |
| "Gan Bo Fi'n Gallu" | 2018 |
| "O! Mor Effeithiol" | 2018 |
Albymau ac EP
| Teitl | Hyd | Label | Rhyddhawd |
|---|---|---|---|
| Kim Y Syniad (EP) | 19:40 | cynyrchiadau Peno | 2011 |
| Candelas | 44:33 | cynyrchiadau Peno | 2013 |
| Bodoli'n Ddistaw[4] | 39:56 | I Ka Ching | 2014 |
| Wyt Ti'n Meiddio Dod I Chwarae? | 54:12 | I Ka Ching | 2018 |
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cerddoriaeth Gymraeg; adalwyd 11 Awst 2014.
- ↑ Gwefan iTunes; adalwyd 11 Awst 2014
- ↑ Gwefan y BBC; Archifwyd 2014-08-12 yn archive.today adalwyd 11 Awst 2014.
- ↑ "Llanuwchllyn band rock the cinema to launch new album". Denbighshire Free Press. 23 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2017.
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.