Ceffalecsin
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | cephalosporin antibiotic |
| Màs | 347.093977 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₁₆h₁₇n₃o₄s |
| Clefydau i'w trin | Heintiad e.coli, niwmonia bacterol, haint yn yr uwch-pibellau anadlu, dolur gwddw, heintiad y llwybr wrinol, haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion gram, clefyd staffylococol, llid yr isgroen |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04mdzq |
| CAS | 15686-71-2 |
| PubChem CID | 27447, 6560168 |
| ChEBI | 3534 |
| ChEMBL | Chembl1727 |
| ChemSpider | 25541 |
| UNII | 5sff1w6677 |
| ATC | J01db01 |
| KEGG | C06895, d00263 |
| Llawlyfr Ligand | 4832 |
| Rhif EC | 239-773-6 |
| Cofrestr Beilstein | 4238892, 965503 |
| Drugbank | Db00567 |
| ECHA | 100.036.142 |
| HMDB | Hmdb0014707 |
| RxNorm CUI | 1299782, 2231 |
| NDF-RT | N0000147185 |
| IEDB Epitope | 117132 |
Mae ceffalecsin yn wrthfiotic y gellir ei ddefnyddio i drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₆H₁₇N₃O₄S.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae cefalexin yn lladd bacteria gram-gadarnhaol ac ambell i facteriwm gram-negyddol trwy amharu ar wal eu celloedd. Mae cefalexin yn antibiotig beta-lactam o fewn y dosbarth o gephalosporinau genhedlaeth gyntaf. Mae'n gweithio'n debyg i asiantau eraill o fewn y dosbarth hwn, gan gynnwys cefazolin mewnwythiennol, ond gellir cymryd cefalexin trwy'r genau
Defnydd
Gall cefalexin drin heintiau bacteriol, gan gynnwys rhai'r glust ganol, yr esgyrn a'r cymalau, y croen a'r llwybr wrinol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer rhai mathau o niwmonia, llid y ffaryncs, ac i atal endocarditis bacteriol. Nid yw cefalexin yn effeithiol yn erbyn heintiau a achosir gan Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin (MRSA), Enterococcus, neu Pseudomonas. Fel gwrthfiotigau eraill, ni all cefalexin drin heintiau firaol, fel y ffliw, broncitis nac annwyd cyffredin. Gall y rhai sydd ag alergedd ysgafn neu gymedrol i benisilin defnyddio cefalexin ond nid yw'n cael ei argymell yn y rhai sydd ag alergedd difrifol.[2]
Sgil effeithiau
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys poen bôl a'r dolur rhydd. Mae adweithiau alergaidd neu gael heintiau â Chlostridium difficile, sy'n achosi dolur rhydd, hefyd yn bosibl. Nid yw'n ymddangos bod y defnydd yn ystod beichiogrwydd neu fwydo ar y fron yn niweidiol i'r babi. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant[3] a'r rhai dros 65 oed. Efallai y bydd angen gostyngiad yn y dos mewn cleifion sydd â phroblemau arennau.
Hanes
Datblygwyd ceffalecsin ym 1967. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Defnydd meddygol
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ceffalecsin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
- ↑ Pubchem. "Ceffalecsin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Medicines Cefalexin 500mg Capsules adalwyd 27 Chwefror 2018
- ↑ Medicines for children Cefalexin for bacterial infections Archifwyd 2018-01-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Chwefror 2018
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.