Claudius
| Claudius | |
|---|---|
| Ganwyd | Tiberius Claudius Drusus 1 Awst 10 CC Lugdunum |
| Bu farw | 13 Hydref 0054 o gwenwyniad Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, ysgrifennwr |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Censor, Conswl Rhufeinig, Augur |
| Adnabyddus am | De vita sua |
| Tad | Nero Claudius Drusus |
| Mam | Antonia Minor |
| Priod | Plautia Urgulanilla, Aelia Paetina, Messalina, Agrippina Yr Ieuengaf |
| Partner | Calpurnia, Cleopatra, Livia Medullina, Aemilia Lepida |
| Plant | Tiberius Claudius Drusus, Claudia Julia, Claudia Antonia, Claudia Octavia, Britannicus, Nero |
| Perthnasau | Nero |
| Llinach | llinach Iŵl a Claudius, Claudii Nerones |
Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus neu Claudius (1 Awst 10 CC – 13 Hydref 54) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.
Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.[1]
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal â choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.
Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.
| Rhagflaenydd: Caligula |
Ymerawdwr Rhufain 25/26 Ionawr 41 OC – 13 Hydref 54 OC |
Olynydd: Nero |
Cyfeiriadau
- ↑ Barbara Levick (2001). Claudius (yn Saesneg). Routledge. t. 1. ISBN 9780415166195.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.