Colera
| Enghraifft o: | math o glefyd |
|---|---|
| Math | clefyd coluddol heintus, clefyd a gludir gan ddŵr, clefyd heintus bacterol cychwynnol, anthroponotic disease, clefyd heintus fibrio, pandemic and epidemic-prone diseases |
| Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
| Symptomau | Dolur rhydd, chwydu, dadhydriad, hypovolemia, gwingiad, anghysur, isbwysedd, oligwria, dulasedd, syched, tyndra’r cyhyrau |
| Achos | Vibrio cholerae |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/024c2 |
| Thesawrws y BNCF | 41833 |
| OMIM | 166600 |
| MeSH | D002771 |
Haint a achosir gan y bacteriwm Vibrio cholerae yw Colera neu Y geri marwol. Fel arfer, trosglwyddir yr haint trwy yfed dŵr amhur, er y gall gael ei drosglwyddo gan fwyd hefyd.
Mae'r bacteriwm Vibrio cholerae yn cynhyrchu tocsin sy'n effeithio ar yr epitheliwm ar wyneb mewnol y coluddion. Mae hyn yn arwain at ddeiaria difrifol, sy'n arwain at farwolaeth trwy golli dŵr o'r corff. Gellir atal yr afiechyd i raddau helaeth trwy sicrhau cyflenwad o ddŵr glan.
Roedd yr haint yn wreiddiol yn India, a lledodd ar hyd llwybrau masnach i Rwsia ac yna i orllewin Ewrop. Cafwyd nifer o ymosodiadau o'r haint yn Ewrop yn ynstod y 19g, gyda miloedd yn marw. Er enghraifft yn haint 1832, by farw 20,000 ym Mharis a 6,536 yn Llundain. Effeithiwyd ar y ddwy ddinas yma eto yn 1849, gyda 14,137 yn marw yn Llundain; bu farw 5,308 yn Lerpwl yr un flwyddyn. Lledodd i'r Unol Daleithiau yr un flwyddyn, ac ymhlith y rhai a fu farw roedd yr Arlywydd, James K. Polk. Bu farw 10,738 yn Llundain yn 1853-4 a 3,500 (5.5% o'r boblogaeth) yn Chicago yn 1854. Y tro diwethaf i nifer fawr o bobl farw o'r haint yn Ewrop oedd 1892, pan fu farw 8,600 yn Hamburg. Mae'r haint yn parhau i fod broblem ddifrifol mewn rhannau o'r trydydd byd.
Pobl enwog fu farw o'r colera
- Pyotr Ilyich Tchaikovsky, cyfansoddwr
- James K. Polk, arlywydd yr Unol Daleithiau
- Georg Wilhelm Friedrich Hegel, athronydd
- Carl von Clausewitz
- August von Gneisenau
- Ando Hiroshige, arlunydd
- Alexandre Dumas
- Charles X, brenin Ffrainc
- Muhammad Ahmad al-Mahdi
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.