Corinth
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 30,816 |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | yr Apostol Paul |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 102.2 km² |
| Uwch y môr | 10 metr |
| Cyfesurynnau | 37.9386°N 22.9272°E |
| Cod post | 20131, 20132, 20150 |
![]() | |
- Gweler hefyd Corinth (gwahaniaethu)
Dinas hynafol a phorthladd pwysig yn ne canolbarth Gwlad Groeg yw Corinth (Groeg: Korinthos). Fe'i lleolir yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y Peloponnese ar Isthmws Corinth. Sefydlwyd y porthladd presennol i'r de o'r ddinas yn 1858 ger safle'r ddinas glasurol. Gerllaw mae Camlas Corinth sy'n cysylltu Gwlff Saronica a Gwlff Corinth. Corinth yw prifddinas rhanbarth Corinth.
Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod pobl yn byw ar safle Corinth ar ddechrau'r 3ydd mileniwm CC. Datblygodd dinas hynafol Corinth fel canolfan masnach yn yr 8g CC. Tyfodd i fod y ddinas-wladwriaeth ail fwyaf ar dir mawr Groeg a'r cyfoethocaf ohonynt i gyd ar ôl Athen. Y ddinas honno oedd prif gystadleuydd Corinth a'i chynghreiriad Sparta am rym a dylanwad yn y byd Groegaidd ac arweiniodd hynny at y Rhyfel Peloponnesaidd (431-404 CC). Llwyddodd Corinth i wrthsefyll grym yr Ymerodraeth Rufeinig am gyfnod ond fe'i dinistriwyd gan y Rhufeiniaid yn 146 CC. Cafodd ei hailsefydlu fel trefedigaeth Rufeinig yn 44 CC. Blodeuodd eto fel canolfan masnach yn y cyfnod Rhufeinig ond yn ystod y cyfnod Bysantaidd crebychodd i fod yn dref fach ddigon di-nod.
Adeiladau a chofadeiladau
- Camlas Corinth
- Eglwys gadeiriol

Enwogion
- Eumelus, bardd
- Timoleon (c.411 CC-337 CC), gwleidydd a milwr
- Priscilla ac Aquila, ffrindiau Yr Apostol Paul
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
