Cosofo
| Republika e Kosovës (Albaneg) | |
| Math | gwladwriaeth unedol, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad, gwladwriaeth sofran |
|---|---|
| Prifddinas | Prishtina |
| Poblogaeth | 1,586,659 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Ewrop |
| Pennaeth llywodraeth | Albin Kurti |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Albaneg, Serbeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia |
| Lleoliad | Balcanau |
| Arwynebedd | 10,909 km² |
| Yn ffinio gyda | Albania, Gogledd Macedonia, Montenegro, Serbia |
| Cyfesurynnau | 42.55°N 20.83°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Cosofo |
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gwladwriaeth Cosofo |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cosofo |
| Pennaeth y wladwriaeth | Albulena Haxhiu |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cosofo |
| Pennaeth y Llywodraeth | Albin Kurti |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $9.412 biliwn, $9.429 biliwn |
| Arian | Ewro |
| Cyfartaledd plant | 1.87 |
Gwlad yn y Balcanau yn ne-ddwyrain Ewrop yw Cosofo[1][2] (Albaneg Kosovë/Kosova, Serbeg Косово и Метохија / Kosovo i Metohija). Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan Cosofo boblogaeth o 1,586,659 (2024)[3], sef tua hanner poblogaeth Cymru.
Hyd 17 Chwefror 2008 bu'n dalaith yn ne Serbia ac, fel Serbia ei hun, roedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia. Ar ôl gwrthdaro chwerw rhwng Serbiaid ac Albaniaid yn y 1990au a achoswyd gan densiynau ethnig, mae'r dalaith yn cael ei gweinyddu gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNMIK (United Nations Interim Administration Mission in Kosovo) ers diwedd Rhyfel Cosofo (1999). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd llywodraeth Albanaidd y dalaith annibyniaeth, ond mae Serbiaid lleol (tua 10% o'r boblogaeth) yn gwrthod hynny.[4]
Y bobl
Mae mwyafrif y boblogaeth, tua 90%, yn Albaniaid. Mae canran yr Albaniaid wedi codi yn sgil Rhyfel Cosofo. Mae mwyafrif yr Albaniaid yn Fwslemiaid, er bod nifer ohonyn nhw'n Babyddion neu aelodau o'r Eglwys Uniongred. Mae'r Serbiaid yn gyffredinol yn Uniongredwyr.
Gwleidyddiaeth a statws gwleidyddol

Yn ôl penderfyniad rhif 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, sefydlwyd gweinyddiaeth dros dro yng Nghosofo o dan arweinyddiaeth y Cenhedloedd Unedig i weinyddu'r dalaith, hybu hunanlywodraeth, cynorthwyo penderfyniad am statws dyfodol Cosofo, cynnal cyfraith a threfn, hybu hawliau dynol a helpu ffoaduriaid i ddychwelyd. Pennaeth yr UNMIK yw Cynrychiolydd Arbennig Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Joachim Rücker. Y cyn-benaethiaid yw Bernard Kouchner (Gorffennaf 1999 tan Ionawr 2001), Hans Haekkerup (Chwefror 2001 tan Rhagfyr 2001), Michael Steiner (Ionawr 2002 tan Gorffennaf 2003) Harri Holkeri (Awst 2003 tan Mehefin 2004), a Søren Jessen-Petersen (2004 tan Mehefin 2006).
Yn ôl cytundeb Rambouillet (Mawrth 1999), buasai Cosofo wedi hunanlywodraeth er iddi aros yn rhan o Serbia. Buasai Serbia wedi cytuno i gynnal etholiadau rhydd ac i adeiladu llywodraeth a system cyfreithiol teg. Gwrthododd Serbia llofnodi'r cytundeb, gan arwain at ymosodiadau gan awyrennau NATO yn ystod Mawrth-Mehefin 1999. O 2001 ymlaen, mae UNMIK wedi bod yn trosglwyddo pwerau i sefydliadau hunanlywodraethol Cosofo. Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Cynulliad Cosofo ym mis Tachwedd 2001, a enillwyd gan Gynghrair Democrataidd Cosofo (LDK). Daeth Ibrahim Rugova, oedd wedi arwain gwrthwynebiad i reolaeth Serbia yn ystod y 1990au, yn arlywydd, a Bajram Rexhepi (Plaid Ddemocrataidd Cosofo) yn brif weinidog.
Yr arlywydd presennol yw Behgjet Pacolli sy'n Annibynnwr. Yr arlywydd o 2006 hyd 2010 oedd Fatmir Sejdiu, arweinydd Cynghrair Democrataidd Cosofo. Bu farw ei flaenorydd, Ibrahim Rugova, ym mis Ionawr 2006. Y prif weinidog yw Agim Çeku, cyn-gadlywydd yn y Fyddin dros Ryddhâd Cosofo (KLA). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd yr arlywydd a'r prif weinidog ill dau annibyniaeth lwyr oddi wrth Serbia yn dilyn pleidlais yn senedd Cosofo.
Cyfeiriadau
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1718 [787: Kosovo].
- ↑ BBC Cymru'r Byd
- ↑ https://askapi.rks-gov.net/Custom/1d268e37-5934-4bd5-bbd1-34a9965cff92.pdf.
- ↑ Reuters/Yahoo: Kosovo yn datgan annibyniaeth
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
