Croateg
| Enghraifft o: | amrywiolyn iaith, standard variety, iaith fyw |
|---|---|
| Math | Eastern Herzegovinian, Serbo-Croateg |
![]() | |
| Enw brodorol | hrvatski jezik |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | hr |
| cod ISO 639-2 | hrv |
| cod ISO 639-3 | hrv |
| Gwladwriaeth | Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Montenegro, Awstria, Hwngari, Yr Eidal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Tsiecia |
| System ysgrifennu | Gaj's Latin alphabet |
| Corff rheoleiddio | Institute of Croatian Language |
| Dynodwyr | |


Iaith a siaredir yng Nghroatia a rhai gwledydd cyfagos yw Croateg. Mae'n iaith swyddogol yn Croatia, a cheir nifer sylweddol yn ei siarad ym Mosnia a Hertsegofina hefyd, gyda chyfanswm o 6.2 miliwn trwy'r byd yn ei siarad fel mamiaith.
Mae Croateg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafoneg a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Serbeg a Bosneg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosneg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosneg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

Mae Croateg yn iaith swyddogol Croatia ac ym Mosnia a Hertsegofina, Burgenland (Awstria), a Molise (Yr Eidal)
Tafodieithoedd
Mae tair prif tafodiaith i'r Groateg, sy'n cael eu hadnabod yn ôl y gair ar gyfer y cwestiwn beth? - sef što, ča, neu kaj:
- Štokavski ("što-eg"), a siaradir yn hanner Croatia - yn Slafonia, Zagora, ac ardal Dubrovnik, yn ogystal ag yng nghanolbarth Bosnia a Hertsegofina. Dyma'r dafodiaith sy'n sail i'r iaith Croateg safonol, ac yn sail ar gyfer Bosneg, Serbeg a Montenegreg safonol hefyd.
- Čakavski ("čak-eg"), a siaradir yn Istria, ardal Lika, ar ran fwyaf o ynysoedd Môr Adria, ar yr arfordir i'r gogledd o Dubrovnik, ac ar y tir mawr yn nyffryn Gacka a'r cyffiniau. Y dafodiaith "Čak-eg" hon oedd iaith Teyrnas Croatia rhwng y 12fed ganrif a'r 16eg ganrif
- Kakajkavski ("kaj-eg"), a siaradir yng ngogledd-orllewin a chanol-orllewin y wlad (yn rhanbarthau Zagorje, Prigorje, Turopolje, Gorski Kotar, Međimurje, Podravina, Žumberak, Banija, Moslavina) ac yn ardal Zagreb. Y "Kaj-eg" hon oedd y dafodiaith uchaf ei statws rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif. "Kaj" yw'r gair ar gyfer beth? yn Slofeneg hefyd - mae tafodieithoedd Slafig De-Ddwyrain Ewrop yn ffurfio continwwm tafodieithoedd, gyda thafodieithoedd dwyrain Slofenia yn agos at rai gorllewin Croatia.
Yr wyddor Croateg
-
(a)
-
(be)
-
(ce)
-
(če)
-
(će)
-
(de)
-
(dže)
-
(đe)
-
(e)
-
(ef)
-
(ge)
-
(ha)
-
(i)
-
(je)
-
(ka)
-
(el)
-
(elj)
-
(em)
-
(en)
-
(enj)
-
(o)
-
(pe)
-
(er)
-
(es)
-
(eš)
-
(te)
-
(u)
-
(ve)
-
(ze)
-
(že)
Tabl Cymhariaeth
| Cymraeg | Croateg | Serbeg |
|---|---|---|
| Cymharu | Usporedba | Поређење (Poređenje) |
| Ewrop | Europa | Европа (Evropa) |
| Yr Iseldiroedd | Nizozemska | Холандија (Holandija) |
| Eidalwyr | Talijani | Италијани (Italijani) |
| Bydysawd | Svemir | Васиона (Vasiona) |
| Asgwrn cefn | Kralježnica | Кичма (Kičma) |
| Aer | Zrak | Ваздух (Vazduh) |
| Addysg | Odgoj | Васпитање (Vaspitanje) |
| Wythnos | Tjedan | Седмица (Sedmica) |
| Hanes | Povijest | Историја (Istorija) |
| Pantaloons | Hlače | Панталоне (Pantalone) |
| Bol | Trbuh | Стомак (Stomak) |
| Gwyddoniaeth | Znanost | Наука (Nauka) |
| Yn bersonol | Osobno | Лично (Lično) |
| Persona | Osoba | Лице (Lice) |
| Cenhedloedd Unedig | Ujedinjeni Narodi | Уједињене Нације (Ujedinjene Nacije) |
| Bara | Kruh | Хлеб (Hleb) |
| Artiffisial | Umjetno | Вештачки (Veštački) |
| Croes | Križ | Крст (Krst) |
| Democratiaeth | Demokracija | Демократија (Demokratija) |
| Detection | Spoznaja | Сазнање (Saznanje) |
| Ynys | Otok | Острво (Ostrvo) |
| Swyddog | Časnik | Официр (Oficir) |
| Traffig (ar y ffyrdd) | Cestovni promet | Друмски саобраћај (Drumski saobraćaj) |
| Traffordd | Autocesta | Аутопут (Autoput) |
| Hyd | Duljina | Дужина (Dužina) |
| Cymdeithas | Udruga | Удружење (Udruženje) |
| Ffatri | Tvornica | Фабрика (Fabrika) |
| Cyffredinol | Opće | Опште (Opšte) |
| Crist | Krist | Христoс (Hristos) |
Geirfa syml
| Cymhariaeth rhifau | |
| Cymraeg | Croateg |
|---|---|
| un | jedan |
| dau | dva |
| tri | tri |
| pedwar | četiri |
| pump | pet |
| chwech | šest |
| saith | sedam |
| wyth | osam |
| naw | devet |
| deg | deset |
| Cymhariaeth y misoedd | |
| Croateg | Cymraeg |
|---|---|
| Siječanj | Ionawr |
| Veljača | Chwefror |
| Ožujak | Mawrth |
| Travanj | Ebrill |
| Svibanj | Mai |
| Lipanj | Mehefin |
| Srpanj | Gorffennaf |
| Kolovoz | Awst |
| Rujan | Medi |
| Listopad | Hydref |
| Studeni | Tachwedd |
| Prosinac | Rhagfyr |
| Cyffredin | |
| Croateg | Cymraeg |
|---|---|
| Da/Ne | Ie/Na |
| Dobro Jutro | Bore da |
| Dobar Dan | P'nawn da |
| Laku Noć | Nos da |
| Govorite li Velški? | Ydych chi'n siarad Cymraeg? |
| Ja malo govorim hrvatski jezik. | Dw i ddim yn siarad llawer o Groateg. |
| Dva piva | dau lager |
| Molim | plis |
| Hvala | diolch |
Oče naš, koji jesi na nebesima,
sveti se ime Tvoje.
Dođi kraljevstvo Tvoje,
budi volja Tvoja,
kako na Nebu, tako i na Zemlji.
Kruh naš svagdašnji daj nam danas,
i otpusti nam duge naše,
kako i mi otpuštamo dužnicima našim.
I ne uvedi nas u napast,
nego izbavi nas od zla.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.

