Crys
| Math | top, dillad |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 3000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01n4qj |
Dilledyn a wisgir am ran uchaf y corff a dwy lawes iddo yw crys. Fel arfer mae'r gair "crys" heb ansoddair yn dynodi dilledyn â choler ac agoriad yn y frest a gaeir â botymau; ond mae crys-T, er enghraifft, yn grys heb y nodweddion hyn. Gellir cyfuno crys gyda choler[1] a thei.[2]
Ar un adeg, roedd crysau'n cael eu gwneud heb goleri yn aml, ac roedd y coleri'n eitemau ar wahân (sef coleri rhyddion – coleri caled wedi'u startsio fel arfer) a oedd ynghlwm wrth y dilledyn gan stydiau. Dim ond y crysau mwyaf ffurfiol sydd bellach yn dilyn y patrwm hwn. Gwneir crysau ffurfiol heb fotymau hefyd: mae'r agoriad yn y frest wedi'i gau gyda stydiau ac mae'r cyffiau wedi'u cau gan ddolennau llawes.
Mathau
- chrys chwys – crys llewys hir heb goler na botymau
- crys ffurfiol – crys gyda choler, agoriad yn y blaen yn ymestyn o'r coler i'r godre, llewys gyda chyffiau, weithiau â blaen plygedig
- crys nos – crys hir sy'n ymestyn o dan y pengliniau, wedi'i fwriadu i'w wisgo wrth gysgu
- crys polo – crys llewys byr gyda choler meddal ag agoriad byr â botymau wrth y gwddf
- crys rygbi – crys llewys hir gyda choler meddal ag agoriad byr â botymau wrth y gwddf
- crys-T – crys llewys byr heb goler na botymau
Lliwiau
Gan mai lliain neu gotwm wedi'i gannu oedd y deunyddiau traddodiadol y gwnaed crysau ohonynt, gwyn yw lliw "arferol" crys. Felly mae crys lliw wedi bod yn ffordd syml o ddangos cysylltiad gwleidyddol neu filwrol neu ddangos aelodaeth o dîm chwaraeon, a defnyddir enw'r dilledyn fel trawsenw ar gyfer y bobl sy'n ei wisgo a'r sefydliad neu'r tîm maen nhw'n perthyn iddo.
- Roedd dilynwyr Giuseppe Garibaldi a ymladdodd fel gwirfoddolwyr dros annibyniaeth yr Eidal yn ystod y Risorgimento yng nghanol y 19g yn gwisgo crysau cochion, ac roedden nhw'n cael eu hadnabod fel Camicie rosse ("crysau cochion").[3]
- Roedd dilynwyr Benito Mussolini a ffurfiodd adain barafilwrol y Blaid Ffasgaidd Genedlaethol (Eidaleg: Partito Nazionale Fascista) yn y 1920au yn gwisgo crysau duon, ac fe'u gelwid yn Camicie Nere ("crysau duon"). Roedd mudiadau ffasgaidd mewn sawl gwlad arall, yn enwedig Undeb Ffasgwyr Prydain (Saesneg: British Union of Fascists) yn y Deyrnas Unedig, hefyd yn gwisgo crysau duon ac yn mynd wrth yr un enw. Mabwysiadwyd lliwiau eraill gan fudiadau cyfatebol mewn gwledydd eraill (er enghraifft, glas yn Ffrainc, gwyrdd yn Hwngari, llwyd yn Norwy, aur ym Mecsico, arian yn UDA). Yn ddrwg-enwog, roedd Sturmabteilung Natsïaidd yr Almaen yn gwisgo crysau brown (Almaeneg: Braunhemden).
- Crysau Duon yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd oherwydd lliw eu crysau.
- Dyfernir crysau nodedig i gystadleuwyr buddugol yn y Tour de France: Crys Melyn, Crys Gwyn, Crys Gwyrdd a Chrys Polca Dot (Ffrangeg: Maillot jaune, Maillot vert, Maillot blanc a Maillot à pois rouges.
Cyfeiriadau
- ↑ Joan L. Severa (1995). Dressed for the Photographer: Ordinary Americans and Fashion, 1840-1900. Kent State University Press. t. 183. ISBN 9780873385121.
- ↑ Steven Moore. "The history of the neck tie". The English Manner (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mai 2025.
- ↑ Young, Julia Ditto, "The Rise of the Shirt Waist", Good Housekeeping, Mai 1902, pp. 354–357 (Saesneg)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.