Cytsain
Sain lleferydd a gynhyrchir drwy gau neu drwy achludo ffrwd yr anadl sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd llwybr y llais yw cytsain. Gan fod mwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn yr wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull ysgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:
- dull cynanu: sut mae'r gytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal dylif yr anadl yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio ffrwd yr anadl yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
- lle cynanu: lle ar hyd llwybr y llais y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod
- os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais megis /p t k f θ/.
- amser dechrau lleisio
- dull y mae'r awyr yn llifo
- hyd y gytsain
Ceir hefyd gytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn llwybr y llais sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).
Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.
Pan ceir mwy nag un cystsain yn dilyn eu gilydd, fe'i gelwir yn glwstwr cytseiniaid. Mae rhain yn gyffredin yn y Gymraeg, ymysg y rhain mae geiriau fel sglefrfwrdd a llyfrgell.
Cytseiniaid y Gymraeg
| di-llais | lleisiol | |
|---|---|---|
| ffrithol | /f/ <ff> neu <ph>
/θ/ <th> /ɬ/ <ll> /s/ <s> /ʃ/ <si> neu <sh> /x/ <ch> /h/ <h> |
/v/ <f>
/ð/ <dd> |
| ffrwydrol | /p/ <p>
/t/ <t> /k/ <c> |
/b/ <b>
/d/ <d> /g/ <g> |
| trwynol | /m̥/ <mh>
/n̥/ <nh> /ŋ̊/ <ngh> |
/m/ <m>
/n/ <n> /ŋ/ <ng> |
| eraill | /r̥/ <rh> | /r/ <r>
/l/ <l> /w/ <w> |
Gweler hefyd
- Cytsain ddwywefusol
- Clwstwr cytseiniaid
- Seineg
- Abjad - wyddor gystain (gan fwyaf) a ddefnyddir i ysgrifennu Arabeg a Hebraeg
Dolenni
- 'Cyflwyniad i Ieithyddiaeth Golygyddion: Sarah Cooper a Laura Arman ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
