Daniel Keyes
| Daniel Keyes | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Awst 1927 Brooklyn |
| Bu farw | 15 Mehefin 2014 Boca Raton |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | nofelydd, awdur ffuglen wyddonol, sgriptiwr, academydd, awdur ffeithiol, ysgrifennwr, newyddiadurwr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Flowers for Algernon |
| Arddull | gwyddonias |
| Gwobr/au | Gwobr Nebula am y Nofel Orau, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Author Emeritus |
| Gwefan | http://www.danielkeyesauthor.com/ |
Awdur o'r Unol Daleithiau yn yr iaith Saesneg oedd Daniel Keyes (9 Awst 1927 – 15 Mehefin 2014) sydd yn nodedig am ei nofel ffuglen wyddonol Flowers for Algernon (1966). Mae nifer o'i weithiau yn ymwneud â themâu seicolegol, yn enwedig hunaniaethau'r bersonoliaeth hollt.
Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Iddewig. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Efrog Newydd cyn iddo ymaelodi â Gwasanaeth Arforol yr Unol Daleithiau yn 17 oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor mewn seicoleg o Goleg Brooklyn ym 1950.[1][2]
Cafodd swydd yn is-olygydd ffuglen gyda'r cwmni cyhoeddi Stadium Publications, a oedd yn arbenigo mewn cylchgronau rhad (pulp) megis Marvel Science Stories, ac yno ysgrifennodd Keyes ar gyfer Atlas Comics. Gweithiodd hefyd yn athro Saesneg mewn uwchysgolion yn Brooklyn, a chyfrannai sgriptiau comics dan y ffugenwau Kris Daniels a AD Locke ar gyfer y cylchgronau Psychoanalysis, Shock Illustrated, a Confessions Illustrated.[1]
Cyhoeddwyd ei waith enwocaf, Flowers for Algernon, yn gyntaf ar ffurf stori fer yn The Magazine of Fantasy and Science Fiction ym 1959, ac enillodd Wobr Hugo am y stori fer orau. Addasodd Keyes ei stori yn nofel gyfan a gyhoeddwyd ym 1966. Enillodd Wobr Nebula am y nofel orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm o'r enw Charly (1968) yn serennu Cliff Robertson, a dderbyniodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei bortread o'r prif gymeriad.
Mae ei ail nofel, The Touch (1968), yn ymwneud â'r straen seicolegol sydd yn effeithio ar oroeswyr damwain niwclear, a'i drydedd, The Fifth Sally (1980), yn adrodd stori merch sydd yn dioddef anhwylder aml-bersonoliaeth. Ymhlith ei nofelau eraill mae The Minds of Billy Milligan (1981) ac Unveiling Claudia (1986), y ddwy yn seiliedig ar achosion go iawn. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Algernon, Charlie and I, yn 2000, a'i nofel olaf, The Asylum Prophecies, yn 2009.
Dechreuodd addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Daleithiol Wayne, Detroit, Michigan, ym 1962, a fe'i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Ohio, Athens, ym 1966. Cafodd ei ddyrchafu'n athro Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Ohio ym 1972, a bu yno nes iddo ymddeol yn y 1990au.[1] Bu farw yn Boca Raton, Florida, yn 86 oed o ganlyniad i gymhlethdodau o niwmonia.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Steve Holland, "Daniel Keyes obituary", The Guardian (18 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Hydref 2021.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2014-06-28 yn y Peiriant Wayback", The Daily Telegraph (18 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) Daniel E. Slotnik, "Archifwyd 2014-06-18 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (17 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Hydref 2021.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.