David Edwards

Dave Edwards

Edwards yn chwarae dros Gymru
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDavid Alexander Edwards
Dyddiad geni (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (40 oed)
Man geniPontesbury, Lloegr[1]
Taldra5 tr 11 modf (1.80 m)[1]
SafleCanol Cae
Gyrfa Ieuenctid
1996–2003Shrewsbury Town
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2003–2007Shrewsbury Town120(12)
2007–2008Luton Town19(4)
2008–2017Wolverhampton Wanderers284(41)
2017–2019Reading32(3)
2019–2021Shrewsbury Town44(2)
2021–2023Tref y Bala52(12)
Cyfanswm572(74)
Tîm Cenedlaethol
2006–2008Cymru dan 219(1)
2007–2017Cymru43(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraewr pêl-droed o Gymru ydy David Edwards (ganwyd David Alexander Edwards 3 Chwefror 1986). Mae'n chwarae i Tref y Bala yn yr Uwch Gynghrair Cymru.

Gyrfa clwb

Dechreuodd Edwards ei yrfa fel prentis gyda'i glwb lleol, Shrewsbury Town[2] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd yng ngêm olaf tymor 2002–03 yn erbyn Scunthorpe United.

Treuliodd bedair tymor yn chwarae'n rheolaidd i'r clwb ond wedi iddo wrthod arwyddo cytundeb newydd yn 2007 cafodd ei adael allan o'r tîm chwaraeodd yn erbyn Bristol Rovers yn rownd derfynol gemau ail gyfle Adran 1[3][4]

Ar 26 Mehefin 2007, ymunodd Edwards â Luton Town[5] ond gyda'r clwb yn dioddef problemau ariannol, derbyniodd Luton gynnig o £675,000 amdano gan Wolverhampton Wanderers ym mis Ionawr 2008[6][7].

Ar 10 Mehefin 2021, symudodd Edwards i clwb Uwch Gynghrair Cymru, Tref y Bala.[8]

Gyrfa ryngwladol

Mae Edwards yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd taid Cymreig ac roedd wedi chwarae dros dimau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru cyn iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm llawn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn 2007.[9]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2008). The PFA Footballers' Who's Who 2008–09. Mainstream. ISBN 978-1-84596-324-8.
  2. "Dave's joy at Premier prospect". Shropshire Star. 2009-04-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-25. Cyrchwyd 2015-05-24.
  3. "Edwards forgives Peters for axe". BBC Sport. 2008-04-16.
  4. "Shrewsbury's finest 2000–10". Shropshire Star. 2010-01-06.[dolen farw]
  5. "Edwards Deal Agreed". www.lutontown.co.uk. Cyrchwyd 2007-08-27.[dolen farw]
  6. "Edwards escapes mad-Hatters party". South Wales Echo. 2008-01-13.
  7. "Wolves complete Edwards transfer". BBC Sport. 2008-01-14.
  8. "Dave Edwards Is A Lakesider!". 2021-06-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-04. Cyrchwyd 2021-07-16.
  9. "Koumas penalty saves a point for Wales". The Guardian. 2007-11-17.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.