David Mushet
| David Mushet | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 Hydref 1772 Dalkeith |
| Bu farw | 7 Mehefin 1847 Trefynwy |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Galwedigaeth | peiriannydd, metelegwr |
| Tad | William Mushet |
| Mam | Margaret Cochrane |
| Priod | Agnes Wilson |
| Plant | Robert Forester Mushet |
Peiriannydd o'r Alban oedd David Mushet (2 Hydref 1772 – 7 Mehefin 1847),[1] sy'n adnabyddus am ei ddyfeisiadau ym maes meteleg a glo.
Bywyd cynnar
Ganwyd Mushet ar 2 hydref 1772 yn Dalkeith ger Caeredin; ef oedd mab ieuengaf Margaret Cochran a William Mushet.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Dalkeith.
Gwaith


Yn 1800, cymerodd batent ar y broses o gynhyrchu haearn gyr, a gwerthodd y patent i gwmni o Sheffield am £3000. Daeth ei gyflogwyr (Clyde Iron Works) yn eiddigeddus iawn ohono a diswyddwyd ef yn yr un flwyddyn. [3]
Y flwyddyn ganlynol, gyda chymorth partneriaid, prynodd ac ailadeiladwyd y Gwaith Haearn Calder, lle y parhaodd gyda'i arbrofion. Dyma ble wnaeth ei ail ddarganfyddiad mawr, yn 1801, pan y profodd y gellid defnyddio 'Haearnfaen band-du,'[4]) i gynhyrchu haearn, mewn modd economaidd iawn. Yn flaenorol, edrychid ar y math hwn o lo fel glo diwerth. Daeth yn ddyn cyfoethog iawn dros nos ac arweiniodd at ehangu diwydiant haearn yr Alban ar raddfa mawr gan ddod â miliynau o bunnoedd o elw i diwydianwyr yr Alban.(pp121,127)
Erbyn 1805 cyhoeddodd Mushet ddeg ar hugain o bapurau yn Philosophical Magazine. Yn ei lyfr, Dyn o Haearn - Man of Steel, dywed yr hanesydd Ralph Anstis bod pobl yn edrych i fyny at Mushet: "as an authority both at home and abroad on matters connected with iron and steel making. Not unnaturally, perhaps, he was becoming dissatisfied with the limitations imposed by the Calder Iron Works and, restive for wider experience and greater opportunities, decided to move on".
Cyfeiriadau
- ↑ Joel Mokyr. The Oxford Encyclopedia of Economic History (Oxford University Press, 2003),. t. 461
- ↑ The Mushets of Dalkeith
- ↑
. Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
- ↑ http://www.scottishmining.co.uk/Indexes/Barrowman.html
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.