David Rees
| David Rees | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Tachwedd 1801 Tre-lech |
| Bu farw | 31 Mawrth 1869 Unknown |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, golygydd, argraffydd, rhwymwr llyfrau |
- Am y mathemategydd, gweler David Rees (mathemategydd).

Roedd y Parchedig David Rees (14 Tachwedd 1801 – 31 Mawrth 1869) yn Weinidog gyda’r Annibynwyr ar Gapel Als, Llanelli, ac yn olygydd y cylchgrawn Anghydffurfiol Y Diwygiwr. Fe’i adnabyddir orau fel ‘Y Cynhyrfwr’, ei safbwyntiau gwleidyddol radical a’i wrthwynebiad i berthynas yr Eglwys Sefydledig â'r wladwriaeth.
Magwraeth
Ganwyd David Rees ar ffermdy Gelli Lwyd ym mhlwyf Tre-lech, Sir Gaerfyrddin. Yn ystod ei blentyndod bu’n gweithio ar y fferm yn ogystal â threulio peth amser gyda’r gof lleol.
Ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol tra’n blentyn heblaw am yr Ysgol Sul a’r addoliad teuluol a gynhaliwyd ar ei aelwyd.
Ym 1818 fe’i derbyniwyd yn aelod yng Nghapel Annibynnol Tre-lech gan y gweinidog Calfinaidd Morgan Jones ac ym 1822, a’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth, aeth i ysgol yn Hwlffordd ac yna’n ddiweddarach ymlaen i ysgol arall yng Nghaerfyrddin.
Dechreuodd bregethu ym 1823 a bu iddo fynychu ysgol baratoi yn y Drenewydd, Powys cyn iddo gael ei dderbyn yn swyddogol i athrofa’r Annibynwyr yno ym 1825. Bu yn yr athrofa yn yr un cyfnod ac Annibynwyr nodedig eraill, yn eu plith Samuel Roberts, Llanbrynmair (S.R.), un a ddaeth yn ddiweddarach i olygu’r cylchgrawn radical Cronicl y cymdeithasau crefyddol.
Bywyd Personol
Bu iddo briodi Sarah Roberts, merch i siopwr llwyddiannus a oedd yn ddiacon gyda’r Bedyddwyr ym 1832 a ganed iddynt bump o blant Bernard, Elizabeth, John Calfin, Luther a Frederic (boddodd y ddau olaf mewn damwain drychinebus pan oeddynt yn eu harddegau cynnar). Bu farw Sarah, ei wraig, hithau yn 1857 ac ail briododd Rees â Mrs. Margaret Phillips, gweddw o Gaerfyrddin, yn 1858.
Gweinidog
Wedi iddo dreulio pedair blynedd yn Y Drenewydd derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Als, Llanelli yn 1829 ac fe barhaodd yn weinidog ar yr eglwys honno hyd at ei farwolaeth ym 1869.
Yn ogystal ag arwain nifer o ymgyrchoedd i adnewyddu ac ehangu Capel Als, bu Rees hefyd yn flaenllaw wrth sefydlu nifer o gapeli Annibynnol eraill yn ardal Llanelli, sef Siloa, Capel Saesneg Y Parc, Capel y Bryn a’r Doc.
Ar ddechrau gweinidogaeth Rees dywedir fod oddeutu 250 o aelodau gan yr eglwys a fod hyn wedi cynyddu i 589 erbyn 1850 er gwaethaf rhannu’r gynulleidfa i ffurfio eglwysi eraill.
Yn ôl tystiolaeth David Rees ei hun ar gyfer Cyfrifiad Crefyddol 1851, roedd y capel wastad yn llawn i’r oedfaon hwyrol ac amcangyfrifodd mai 850 a fyddai’n bresennol yn y capel ar y Sul gan amlaf.
Y Diwygiwr
Sefydlwyd y Diwygiwr gan David Rees ar gais Annibynwyr de orllewin Cymru ym 1835 fel ymateb i’r gogwydd cynyddol geidwadol y tueddai’r Efangylydd (a olygwyd gan Brutus, gwrthwynebydd pennaf Rees mewn blynyddoedd i ddod) tuag ato. Parhaodd i olygu'r cylchgrawn hyd at 1865.
Trwy’r Diwygiwr, cyflwynwyd egwyddorion gwleidyddol yr Anghydffurfwyr yn eglur ac yn angerddol, ac o’r cylchgrawn hwn y daeth y gri a gysylltir agosaf â Rees: ‘Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer! yw ein cais atoch, gydwladwyr ... tra gallom ddal ysgrifell i ysgrifennu, eiliwn ein cais, Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer!’. Addasiad o slogan adnabyddus yr ymgyrchydd gwleidyddol Gwyddelig Daniel O'Connell - "Agitate, Agitate, Agitate" ydoedd hon.
Daeth y Diwygiwr o dan Rees i fod yn offeryn grymus i godi llais yn erbyn yr anghyfiawnderau tybiedig a deimlai'r Anghydffurfwyr ac i geisio annog pobl i wrthsefyll grym anghyfiawn yr Eglwys Sefydledig a’r awdurdodau. Yn ogystal â mynegi syniadau Anghydffurfiol, rhoddodd Rees hefyd ei gefnogaeth i’r egwyddor y tu ôl i fudiadau megis Merched Beca, Y Siartwyr, Y Gymdeithas Ryddhau a’r Gynghrair yn Erbyn y Deddfau Ŷd (er nad yn cydsynio a’u ddulliau hwy oll o weithredu).
Daeth Rees hefyd i enwogrwydd oherwydd ei frwydr eiriol â Brutus (David Owen) a fu’n golygu'r cylchgrawn eglwysig Yr Haul. Yn y dadleuon hyn gwelir fedr a dawn ddeifiol Brutus i ymosod yn fachog, a gallu Rees i ymateb yn glir a heb flewyn ar dafod i amddiffyn yr egwyddorion Cristnogol a gwleidyddol a oedd yn mynd law yn llaw ag Anghydffurfiaeth ac y credai ynddynt mor angerddol.
Llyfryddiaeth
- R.T. Jenkins (Gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953)
- Iorwerth Jones, David Rees Y Cynhyrfwr (Abertawe, 1971)
- T. Davies, Bywyd ac Ysgrifeniadau y Diweddar Barch D. Rees, Llanelli (Llanelli, 1871)
- Huw Edwards, "Capeli Llanelli" (Caerfyrddin, 2009)
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.