Decius
| Decius | |
|---|---|
| Ganwyd | 201 Martinci |
| Bu farw | 1 Gorffennaf 251 Abritus |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain, Praefectus urbi, seneddwr Rhufeinig |
| Priod | Herennia Etruscilla |
| Plant | Herennius Etruscus, Hostilian, Messia Decia |
Gaius Messius Quintus Traianus Decius (c. 201 – 1 Gorffennaf 251) oedd ymerawdwr Rhufain o 249 hyd 251. Cymerodd yr enw "Traianus" oherwydd ei edmygedd o'r ymerawdwr Trajan.
Ganed Decius yn Budalia gerllaw Sirmium yn Pannonia Isaf, dinas Sremska Mitrovica heddiw. Tua 245 penodwyd ef yn bennaeth y llengoedd yn ardal Afon Donaw gan yr ymerawdwr Philip yr Arab. Yn 248 neu 249 bu'n ceisio rhoi diwedd ar wrthryfel y llengoedd yn nhaleithiau Moesia a Pannonia. Fodd bynnag mynnodd y llengoedd gyhoeddi Decius yn ymerawdwr.
Wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr cychwynodd Decius a'i fyddin tua Rhufain. Gorchfygasant Philip gerllaw Verona, a lladdwyd ef yn y frwydr. Cydnabyddwyd Decius yn ymerawdwr gan y Senedd. Gwelai Decius fod yr ymerodraeth yn llwgr, a chredai mai un rheswm am hyn oedd fod yr hen werthoedd wedi eu colli. Ceisiodd ail-sefydlu yr hen arferiad o offrymu i'r hynafiaid trwy'r ymerodraeth. Daeth hyn ag ef i wrthdrawiad a'r Cristionogion, oedd yn gwrthod cymryd rhan, ac oherwydd hynny erlidiwyd hwy gan Decius. Yn 251 cyhoeddoedd ei fab Herennius Etruscus yn gyd-ymerawdwr.
Bu Decius yn ymladd yn erbyn y Gothiaid oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a Thracia. Roedd y Gothiaid yn gwarchae dinad Nicopolis ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.
Roedd y Gothiaid wedi colli llawer o'u milwyr wrth gipio Filiopolis, a chynigiasant adael y ddinas heb gymeryd carcharorion nac ysbail os gadawai'r Rhufeiniaid lonydd iddynt. Fodd bynnag yr oedd Decius wedi llwyddo i'w hamgylchynu, a gwrthododd y cynnig. Ym mrwydr Attrio y Gothiaid a gafodd y fuddugoliaeth, a lladdwyd yr ymerawdwr a'i fab ar faes y gad. Enwodd y Senedd yn Rhufain fab ieuengaf Decius, Hostilian, fel ymerawdwr, ond cyhoeddodd llengoedd Afon Donaw Trebonianus Gallus yn ymerawdwr.
| Rhagflaenydd: Philip yr Arab |
Ymerawdwr Rhufain 249 – 251 |
Olynydd: Hostilian |
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.