Edith Wharton

Edith Wharton
GanwydEdith Newbold Jones Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1862 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1937 Edit this on Wikidata
Saint-Brice-sous-Forêt Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd, The Mount, Castel Sainte-Claire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, bardd, cyfieithydd, rhyddieithwr, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances, Old New York Edit this on Wikidata
Arddullrhamant Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenry James, Vernon Lee Edit this on Wikidata
TadGeorge Frederic Jones Edit this on Wikidata
MamLucretia Stevens Rhinelander Edit this on Wikidata
PriodEdward Robbins Wharton Edit this on Wikidata
PerthnasauMary Mason Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer i Nofelwyr Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures o Americanes o linach Gymreig oedd Edith Wharton neu i'w ffrindiau: Pussy Jones (24 Ionawr 1862 - 11 Awst 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel nofelydd, bardd, cyfieithydd ac awdur rhyddiaith. Roedd o deulu cyfoethog iawn o Efrog Newydd a disgrifiodd y gymdeithas honno yn ei llyfrau. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Pulitzer am lenyddiaeth, a hynny yn 1921 a'r Hall of Fame yn 1996.[1]

Magwraeth

Wharton yn ferch ifanc, gan Edward Harrison Mai (1870)

Ganed Edith Newbold Jones yn Ninas Efrog Newydd ar 24 Ionawr 1862; George Frederic Jones a Lucretia Stevens Rhinelander oedd ei rhieni. Dywedir fod y dywediad Saesneg "keeping up with the Joneses" yn wreiddiol yn cyfeirio at deulu ei thad.[2][3]

Ganed a maged Wharton yn ystod Rhyfel Cartref America (1861–1865); er nad yw Wharton ei hun, tra'n disgrifio bywyd ei theulu, yn crybwyll y Rhyfel - ac eithrio bod eu teithiau i Ewrop ar ôl y Rhyfel yn ganlyniad i ddibrisio arian cyfred America. O 1866 i 1872, ymwelodd y teulu Jones â Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a Sbaen. Yn ystod ei theithiau, daeth yr Edith ifanc yn rhugl mewn Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg. Pan oedd yn naw oed, dioddefodd o dwymyn y teiffoid, a fu bron â'i lladd hi.

Bu farw yn Saint-Brice-sous-Forêt o strôc ac fe'i claddwyd yn Cimetière des Gonards.[4][5][6][7][8][9]

Y llenor

Yn 15 oed, cyhoeddodd gyfieithiad o gerdd Almaeneg "Was die Steine Erzählen" ("Yr Hyn a Ddywed y Cerrig") gan Heinrich Karl Brugsch. Talwyd $50 iddi amdano. Nid oedd ei theulu am i'w henw ymddangos mewn print gyda'r gerdd, gan nad oedd ysgrifennu yn cael ei ystyried yn alwedigaeth briodol i fenyw o gymdeithas uchel ei chyfnod.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances ac Old New York.

Llinach Gymreig?

Un cofnod pwysig o'i llinach yw The descendants of John Jones and John Mason (1913) sydd ar gael yma. Cofnod arall yw'r catalog Underhill Society lle nodir fod gan John Jones ddwy dabl achyddol. Mae copi llawn ar Internet Archive yma.

Mae ei llinach, o bosib, yn mynd yn ôl at Dr Edward Jones o'r Bala, Meirionnydd, un o sefydlwyr y Wladfa ym Merion, a thrwy ei wraig Mary Wynne at deulu arall o Gymru, sef teulu Dr Thomas Wynne o Ysceifiog, Sir y Fflint.

Aelodaeth

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd. [10][11]

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Chevalier de la Légion d'Honneur, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1996), Gwobr Pulitzer i Nofelwyr (1921)[12][13] .

Gweithiau

Ffynhonnell: Campbell, Donna M. "Works by Edith Wharton". Washington State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-02. Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.

Cyfeiriadau

  1. National Women's Hall of Fame, Edith Wharton
  2. Lee 2008, t. 22.
  3. Benstock 1994, t. 216.
  4. Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 11929115r, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
  5. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index17.html.
  6. Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 11929115r, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
  7. Dyddiad geni: "Edith Wharton". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Brockhaus Enzyklopädie. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Vegetti Catalog of Fantastic Literature. Wharton [née Newbold Jones], Edith. subject named as: Edith Wharton [née Newbold Jones]. "Edith Wharton". Gran Enciclopèdia Catalana. "Edith Wharton". GeneaStar. "Edith Jones". Roglo. "Edith Wharton". Babelio. https://cs.isabart.org/person/65265. The Fine Art Archive. retrieved: 1 Ebrill 2021. external ID: 65265.
  8. Dyddiad marw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 11929115r, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 "Edith Wharton". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Brockhaus Enzyklopädie. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Vegetti Catalog of Fantastic Literature. Wharton [née Newbold Jones], Edith. subject named as: Edith Wharton [née Newbold Jones]. "Edith Wharton". Gran Enciclopèdia Catalana. "Edith Wharton". GeneaStar. "Edith Jones". Roglo. "Edith Wharton". Babelio. https://cs.isabart.org/person/65265. The Fine Art Archive. retrieved: 1 Ebrill 2021. external ID: 65265.
  9. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 http://www.nytimes.com/2004/10/01/books/01WHAR.html?fta=y.
  10. Galwedigaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1154, OL2727330W, Wikidata Q18328141 https://cs.isabart.org/person/65265. The Fine Art Archive. retrieved: 1 Ebrill 2021. external ID: 65265. Lina Mainiero; Langdon Lynne Faust (1979) (yn en), American Women Writers, Wikidata Q106787730 Charles Dudley Warner, ed. (1897) (yn en), Library of the World's Best Literature, Wikidata Q19098835, https://www.bartleby.com/lit-hub/library Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1154, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1154, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1154, OL2727330W, Wikidata Q18328141 (yn en) Dictionary of Art Historians, dynodwr DAH whartone, Wikidata Q17166797, http://arthistorians.info/, adalwyd 23 Ebrill 2022
  11. Anrhydeddau: "Edith Wharton". 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod. http://www.pulitzer.org/awards/1921. retrieved: 21 Hydref 2015.
  12. "Edith Wharton". 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod.
  13. http://www.pulitzer.org/awards/1921. retrieved: 21 Hydref 2015.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.