Fyrsil
| Fyrsil | |
|---|---|
| Ganwyd | 15 Hydref 70 CC Andes, Mantova |
| Bu farw | Brindisi |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | Bugeilgerddi Fyrsil, Georgics, Aenëis |
| Arddull | arwrgerdd, pastoral poetry |
| Prif ddylanwad | Aulus Furius Antias, Homeros, Theocritos |
| Mudiad | Augustan poetry |
| Mam | Magia Polla |
| Perthnasau | Vergilia Vera |
Roedd Publius Vergilius Maro, Fyrsil neu Fferyll yn Gymraeg (15 Hydref 70 CC – 21 Medi 19 CC) yn fardd yn yr iaith Ladin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'r arwrgerdd yr Aenëis. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r bardd Groeg cynnar Homeros ac yn adrodd hanes yr arwr Aeneas, a ddihangodd o Gaerdroea i sefydlu dinas a oedd yn rhagflaenydd i Rufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwr Cesar Awgwstws er mwyn hyrwyddo'r Ymerodraeth Rufeinig newydd. Mae gweithiau eraill Fyrsil yn cynnwys yr Eclogae a'r Georgicon.
Gwaith Fyrsil
- Bucolica, neu'r Eclogae, mewn 10 llyfr, sy'n fugeilgerddi.
- Georgicon, mewn 4 llyfr, sy'n ymdrin ag amaethyddiaeth.
- Aenëis, mewn 12 llyfr.
Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enw Appendicis Vergilianae:
Fyrsil yn yr Oesoedd Canol
Yn yr Oesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiad Crist.
Cyfieithiadau
Ym 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodydd Syr John Denham, o'r enw The Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.