Goewin
| Goewin | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 g |
| Man preswyl | Caer Dathyl |
| Dinasyddiaeth | |
Merch sy'n ymddangos yn y Pedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, Math fab Mathonwy, yw Goewin (amrywiad, Goewyn).
Yn y chwedl mae hi'n ferch i Pebin o Ddol Pebin yn Arfon. Ni allai'r brenin Math fab Mathonwy fyw heb fod a'i draed yn ei harffed hi, heblaw mewn amser rhyfel:
- Ac yn yr oes honno Math fab Mathonwy ni fyddai fyw, namyn tra fai ei ddeudroed ym mhlyg croth morwyn... Sef oedd yn forwyn gyd ag ef, Goewin ferch Pebin o Ddol Pebin yn Arfon. A honno tecaf morwyn oedd yn ei hoes o'r a wyddid yno.[1]
Arosai Goewin gyda Math yn wastad, ond ymserchodd Gilfaethwy fab Don, brawd Gwydion, ynddi. Arweiniodd hynny at gynllun gan Wydion i ddechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Dyfed er mwyn cael Math i adael y forwyn yn ei lys yng Nghaer Dathyl a rhoi cyfleu i Gilfaethwy ei chael. A dyna a wnaethant. Treisia Gilfaethwy y forwyn yng ngwely Math. Pan ddychwela'r brenin mae Goewin yn torri'r newydd iddo:
- "Arglwydd," heb y Goewyn, "cais forwyn a fo is dy draed weithion. Gwraig wyf fi.".[2]
Cosbir Gwydion a Gilfaethwy am eu hanfadwaith trwy eu rhithio'n anifeiliaid am gyfnod ac mae Math yn cymryd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
Mae rhai, yn dilyn awgrym W. J. Gruffydd yn ei lyfr Math vab Mathonwy, yn meddwl mae gwraig Math oedd Goewin yn wreiddiol. Ond ceir awgrym hefyd o fersiwn arall. Yn ôl y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527), oedd yn hyddysg yn yr hen chwedlau, Arianrhod ac nid Goewin oedd y forwyn a ddaliai draed Math yn ei harffed, sy'n awgrymu fod y bardd yn gyfarwydd â fersiwn amgen o chwedl Math fab Mathonwy sydd ar goll bellach:
Mae 'nghwyn am forwyn yn fwy
no Math Hen fab Mathonwy.
Braich un ddi-wair, brechwen, ddoeth,
fu'i obennydd ef beunoeth:
Arianrhod,—ni bu'r unrhyw—
ni byddai Fath hebddi fyw.[3]
Cyfeiriadau
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.