Hillary Clinton
| Hillary Clinton | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 21 Ionawr 2009 – 1 Chwefror 2013 | |
| Dirprwy | James Steinberg William Joseph Burns |
|---|---|
| Arlywydd | Barack Obama |
| Rhagflaenydd | Condoleezza Rice |
| Olynydd | John Kerry |
| Cyfnod yn y swydd 3 Ionawr 2001 – 21 Ionawr 2009 | |
| Rhagflaenydd | Daniel Patrick Moynihan |
| Olynydd | Kirsten Gillibrand |
| Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1993 – 20 Ionawr 2001 | |
| Arlywydd | Bill Clinton |
| Rhagflaenydd | Barbara Bush |
| Olynydd | Laura Bush |
| Geni | 26 Hydref 1947 Chicago, Illinois, UDA |
| Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
| Priod | Bill Clinton |
| Plant | Chelsea Clinton |
| Llofnod | |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009. Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.
Personol
Fe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Gymreig a Seisnig[1] a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau,[2] a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.[1][3]
Ymgeisydd am Arlywyddiaeth 2016
Yng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Roberts, Gary Boyd. "Notes on the Ancestry of Senator Hillary Rodham Clinton". New England Historic Genealogical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mehefin 2013. Cyrchwyd November 10, 2012.
- ↑ Bernstein 2007, tt. 17–18.
- ↑ Smolenyak, Megan (Mai 2015). "Hillary Clinton's Celtic Roots". Irish America.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2013-02-10 yn y Peiriant Wayback
| Rhagflaenydd: Barbara Bush |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1993 – 2001 |
Olynydd: Laura Bush |
| Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Daniel Patrick Moynihan |
Seneddwr dros Efrog Newydd gyda Charles Schumer 2001 – 2009 |
Olynydd: Kirsten Gillibrand |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Condoleezza Rice |
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau 2009 – 2013 |
Olynydd: John Kerry |
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.