Jason Mohammad
| Jason Mohammad | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Tachwedd 1975 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, television journalist |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | doethuriaeth er anrhydedd |
Cyflwynydd a darlledwr radio a theledu o Gymru yw Jason Mohammad (ganwyd 17 Medi 1973)[1][2]
Bywgraffiad
Ganwyd a magwyd Mohammad yng Nghaerdydd yn fab i dad Pacistanaidd, Afzal Mohammad, a mam Gymreig.[3][4]
Dechreuodd ddysgu Cymraeg tra roedd yn saith mlwydd oedd ac yn mynychu ysgol cynradd cyfrwng Saesneg.[5] Yna, aeth Jason i Ysgol Uwchradd Glyn Derw.[6] Aeth i Goleg Glan Hafren yn 1990 i astudio lefel A mewn astudiaethau cyfryngau.[5]
Fe astudiodd Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe,[7] yna bu'n gwneud diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.[8]
Gyrfa
Teledu
Ymunodd Mohammad a'r BBC yn 1997 fel gohebydd ar BBC Wales Today cyn dod yn brif gyflwynydd Wales on Saturday. Yn 2013, daeth yn gyflwynydd Final Score ar BBC One. Mae hefyd yn cyflwyno Scrum V ar BBC 2 Wales ac mae'n un o gyflwynwyr rhaglenni snwcer ar y BBC. Mae'n un o gyflwynwyr Crimewatch ar BBC One.[9]
Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni dogfen am y dwyrain canol.[10][11] Mae'n un o gyflwynwyr DNA Cymru.[12]
Radio
Mae Mohammad yn cyflwyno sioe fore wythnosol ar BBC Radio Wales.[9]
Bywyd personol
Mae'n briod a Nicola ac mae ganddynt tri o blant, Lili, Max a Poppy.[9]
Cyfeiriadau
- ↑ @jasonmohammad (17 September 2015). "Thanks to my amazing @BBCRadioWales team for the birthday cake and card. 21 today" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ @jasonmohammad (29 November 2013). "Happy Birthday to Ryan Giggs. I am also still playing Welsh 5-a-side pitches at the age of 40. Must be a Cardiff thing" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ walesonline Administrator (7 Tachwedd 2009). "Don't mind your P's and Q's: Broadcaster Jason Mohammad". walesonline.
- ↑ northwales Administrator (7 Tachwedd 2009). "Jason Mohammad finds peace on religious journey". northwales.
- ↑ 5.0 5.1 Sands, Katie (2023-08-05). "Being Jason Mohammad: Success, family and the 2009 trip that changed his life". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-10.
- ↑ "BBC NEWS - UK - Wales - News Academy for young reporters". bbc.co.uk.
- ↑ Notable alumni Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback[dead link]
- ↑ "The TV Room +". thetvroomplus.com.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Cook, Sam (2022-07-30). "Jason Mohammad talks about the racist abuse he suffered". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-10.
- ↑ Jerwsalem: Tir Sanctaidd; Adalwyd 2015-11-29
- ↑ Y Gohebwyr: Jason Mohammed; Adalwyd 2015-11-19
- ↑ "Press | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-09-10.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.