Jimmy Carter
| yr Arlywydd James Earl Carter, Jr. | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1977 – 20 Ionawr 1981 | |
| Is-Arlywydd(ion) | Walter Mondale |
|---|---|
| Rhagflaenydd | Gerald Ford |
| Olynydd | Ronald Reagan |
| Geni | 1 Hydref 1924 Plains, Georgia, UDA |
| Marw | 29 Rhagfyr 2024 (100 oed) |
| Plaid wleidyddol | Democratwr |
| Priod | Rosalynn Carter |
| Llofnod | |
39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981 oedd James Earl "Jimmy" Carter, Jr. (1 Hydref 1924 – 29 Rhagfyr 2024).[1] Yn 2002 enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith dros hawliau dynol.
Cafodd Carter ei eni yn nhalaith Georgia. Bu farw yn ei dref enedigol, Plains.[2] Enillodd Carter Gwobr Heddwch Nobel yn 2002.[1]
Perthynas â Chymru
Roedd Jimmy Carter yn hoff iawn o waith Dylan Thomas a gwnaeth sawl ymweliad â Chymru. Ym Mehefin 1986, daeth ar wyliau i Dregaron, a mynd i bysgota gyda’r arbenigwr pysgota, Moc Morgan a’i fab Hywel.[3]. Ym 1995, daeth Carter i Abertawe i agor Canolfan Dylan Thomas, ac yn ddiweddarach defnyddiwyd ei lais mewn taith glyweled yn man geni Thomas.[4]
Llyfryddiaeth
Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd y mae Palestine: Peace Not Apartheid.
Bywyd personol
Roedd yn briod a Rosalynn am 77 mlynedd cyn ei marwolaeth yn Nhachwedd 2023. Bu farw yntau yn 100 mlwydd oed ar 29 Rhagfyr 2024. Roedd ganddynt bedwar o blant.[5] Dywedodd ei fab Chip bod Jimmy Carter yn arwr i bawb sy'n gwerthfawrogi heddwch.[2] Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, bod Carter yn “ddyn rhyfeddol”.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Harold Jackson (29 Rhagfyr 2024). "Jimmy Carter obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mehefin 2025.
- ↑ 2.0 2.1 "Cyn-arlywydd America, Jimmy Carter, wedi marw'n 100 oed". Newyddion S4C. 30 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Cofio mynd i bysgota gyda Jimmy Carter yn 1986". BBC Cymru Fyw. 2024-10-01. Cyrchwyd 2024-12-29.
- ↑ "Jimmy Carter to welcome visitors to Dylan Thomas house". BBC News (yn Saesneg). 9 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Y cyn-arlywydd Carter, a fu'n pysgota yng Nghymru, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2024-12-30. Cyrchwyd 2024-12-30.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
