Jonathan Winters
| Jonathan Winters | |
|---|---|
| Ganwyd | Jonathan Harshman Winters III 11 Tachwedd 1925 Dayton |
| Bu farw | 11 Ebrill 2013 Montecito |
| Label recordio | Columbia Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llais, sgriptiwr, ysgrifennwr, arlunydd, golygydd ffilm, digrifwr |
| Adnabyddus am | The Smurfs, The Smurfs 2, The Flintstones |
| Prif ddylanwad | Irwin Corey |
| Tad | Jonathan Harshman Winters |
| Mam | Alice Kilgore Rodgers |
| Priod | Eileen Schauder |
| Gwobr/au | Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Gwobr Grammy am yr Albwm Comedi Gorau, Gwobr Primetime Emmy am Actor Cefnogol Eithriadol mewn Cyfres Gomedi, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Grammy Award for Best Children's Music Album, Amateur Cartoonist Extraordinary Award |
| Gwefan | http://www.jonathanwinters.com |
Digrifwr ac actor Americanaidd oedd Jonathan Harshman Winters III (11 Tachwedd 1925 – 11 Ebrill 2013).[1]
Ganwyd yn Dayton, Ohio, yn unig blentyn. Ymunodd â Chorfflu'r Môr-filwyr yn 17 oed a gwasanaethodd am ddwy flynedd yn ne'r Cefnfor Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dychwelodd i Ohio a mynychodd Athrofa Celfyddyd Dayton, a phriododd ei gyd-fyfyriwr Eileen Schauder ym 1948. Cychwynnodd ei yrfa ar radio, a symudodd i Ddinas Efrog Newydd i berfformio comedi.
Roedd Winters yn un o arloeswyr comedi ar ei sefyll Americanaidd yn y 1950au. Yn hytrach na dweud jôcs traddodiadol bu'n defnyddio arddull "llif ymwybod", gydag elfen swreal i'w hiwmor. Roedd yn berfformiwr bywiog oedd yn britho ei ymsonion gydag effeithiau sŵn ac ystumiau wynebol. Roedd ganddo ddawn am ddynwared a chreu cymeriadau difyfyr.[2] Ymhlith ei ffilmiau mae It’s A Mad, Mad, Mad, Mad World (1963), ac ymddangosodd ar deledu yn Mork & Mindy (1978–82).
Roedd ganddo anhwylder deubegwn a bu'n dioddef o waeleddau nerfol.[3] Cafodd ddau blentyn gyda'i wraig, Eileen, a fu farw yn 2009. Bu farw Jonathan Winters yn 87 oed yn ei gartref ym Montecito, Califfornia, yn 2013.[4][5]
Enillodd Wobr Mark Twain am Hiwmor gan Ganolfan Kennedy ym 1999.[2] Dywedodd y cyflwynydd sioe sgwrs Jack Parr amdano: "bwys am bwys, y dyn mwyaf ddoniol yn fyw".[6]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Grimes, William (12 Ebrill 2013). Jonathan Winters, Unpredictable Comic and Master of Improvisation, Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 23 Ebrill 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Obituary: Jonathan Winters. The Daily Telegraph (14 Ebrill 2013). Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Buerger, Megan (12 Ebrill 2013). Jonathan Winters, comedian behind memorable characters on late-night TV, dies at 87. The Washington Post. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Dagan, Carmel (12 Ebrill 2013). Comedian Jonathan Winters Dead at 87. Variety. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Byrge, Duane (12 Ebrill 2013). Comedian Jonathan Winters Dies at 87. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Jonathan Winters. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Jonathan Winters ar wefan Internet Movie Database
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.