Josephus
| Josephus | |
|---|---|
| Ganwyd | יוסף בן מתתיהו 37 Jerwsalem |
| Bu farw | 100 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, hanesydd |
| Adnabyddus am | The Jewish War, Antiquities of the Jews, The Life of Flavius Josephus, Against Apion |
| Mudiad | Pharisees |
| Tad | Matthias |
| Plant | Flavius Hyrcanus, Flavius Simonides Agrippa, Flavius Justus |

Hanesydd Iddewig yn ysgrifennu mewn Groeg oedd Josephus, Groeg: Ιώσηπος (Iosepos), (37 – ar ôl 100 OC). Pan ddaeth yn ddinesydd Rhufeinig, cymerodd yr enw Titus Flavius Josephus.
Bywgraffiad
Roedd Josephus yn fab i offeiriad o'r enw Matthias. Ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid yn Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain rhwng 66 a 73, ac roedd yn arweinydd yn ardal Galilea. Pan roddwyd caer Yodfat dan warchae gan y Rhufeiniaid yn 67, penderfynodd y garsiwn Iddewig ladd eu hunain yn hytrach nag ildio. Fodd bynnag, ildiodd Josephus ac un o'i filwyr i'r Rhufeiniaid, er bod yr union amgylchiadau yn aneglur. Cymerwyd ef yn garcharor, ac ymddengys iddo ennill ffafr yr arweinwyr Rhufeinig, Flavius Vespasian a'i fab Titus. Rhyddhawyd ef yn 69.
Cyhaeddodd i Rufain yn 71 gyda Titus, a gwnaed ef yn ddinesydd Rhufeinig. Rhoddwyd pensiwn iddo hefyd, ac yn Rhufain dan nawdd Vespasian a Titus yr ysgrifennodd ei weithiau hanesyddol. Credir iddo briodi bedair gwaith i gyd; lladdwyd ei wraig gyntaf a'i rieni yn ystod y gwarchae ar Jerusalem. Cofnodir tri mab iddo, Flavius Hyrcanus, Flavius Justus a Simonides Agrippa.
Gweithiau
- Llyfrau Josephus
- (c. 75) Rhyfeloedd yr Iddewon,
- (c. 94) Hynafiaethau yr Iddewon
- (c. 97) Yn erbyn Apion
- (c. 99) Hunangofiant Flavius Josephus
- Cyfieithiad Cymraeg
- Gweithiau Flavius Josephus: cyfieithedig o'r Groeg a'r Hebraeg ... gan William Whiston; at yr hyn yr ychwanegwyd parhad o hanes yr Iuddewon hyd y dydd hwn gan Dr. Bradshaw a'r Parch J. Mills (Caernarfon : H. Humphreys, 1860).
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.