Julian

Julian
Ganwyd17 Tachwedd 331 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 363 Edit this on Wikidata
Mesopotamia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, pontifex maximus, Caesar, Augustus, tribune of the plebs, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAccount of the campaign against the Nardini, Misopogon, Cesars, Account of the battle of Strasburg Edit this on Wikidata
TadJulius Constantius Edit this on Wikidata
MamBasilina Edit this on Wikidata
PriodHelena Edit this on Wikidata
PlantFlavius Edit this on Wikidata
PerthnasauProcopius, Flavius Dalmatius, Flavius Hannibalianus, Cystennin I, Constantius II, Helena, Fausta, Hannibalianus, Dalmatius, Constantius Gallus, Constantina, Cystennin II, Constans, Flavia Julia Constantia, Gaius Valerius Licinianus Licinius, Licinius II Edit this on Wikidata
Llinachllinach Cystennin Edit this on Wikidata

Flavius Claudius Julianus (331/33226 Mehefin 363) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 361 a'i farwolaeth. Weithiau gelwir ef yn Iwlian II[1] i wahaniaethu rhyngddo ef a Didius Julianus (193).

Ganed Iwlian yng Nghaergystennin yn fab i Julius Constantinus, hanner brawd yr ymerawdwr Cystennin I. Pan oedd Iwlian yn blentyn lladdwyd llawer o'i deulu gan filwyr yn dilyn gorchymyn yr ymerawdwr cristionogol Constantius II yn 337. Yn ôl yr hyn a ddywedodd ef ei hun yn nes ymlaen, trodd hyn ef yn erbyn Cristionogaeth. Cadwyd ef a'i frawd Gallus yn y palas ymerodrol yn Macellum yn Cappadocia am chwe blynedd, gan gael eu haddysgu fel Cristionogion.

Yn ddiweddarach cafodd Iwlian addysg yng Nghaergystennin a Nicomedia, ac wedi ei benodi'n "Gesar" (is-ymerawdwr) bu'n astudio Neoplatoniaeth dan nifer o athrawon. Penderfynodd Iwlian droi at baganiaeth, er na chyhoeddodd hynny ar y pryd.

Gwnaed ei frawd Constantius Gallus yn ymerawdwr y dwyrain yn 351 ond dienyddiwyd ef y flwyddyn wedyn gan Constantius II. Galwyd Iwlian i Milan i gyfarfod yr ymerawdwr, ac yn Nhachwedd 355 cyhoeddwyd ef yn Gesar gyda chyfrifoldeb am ran orllewinol yr ymerodraeth. Priododd a Helena, chwaer Constantius.

Bu Iwlian yn ymladd yn erbyn y llwythau Almaenaidd oedd yn bygwth ffiniau'r ymerodraeth. Cafodd gryn lwyddiant, ac adenillodd lawer o diriogaeth, gan ennill buggugoliaeth fawr ger Argentorata. Erbyn 360 roedd y ffin ar Afon Rhein yn ddiogel. Erbyn hyn roedd y berthynas rheng Iwlian a Constantinus yn gwaethygu, a pan hawliodd Constantinus draean o filwyr Iwlian ar gyfer ei ymgyrch ei hun yn erbyn Persia, gwrthryfelodd Iwlian. Cyhoeddwyd ef yn "Augustus" gan ei filwyr

Cychwynodd Iwlian a'i fyddin am y dwyrain i ymladd am yr orsedd, ond yna derbyniodd y newydd fod Constantius wedi marw o dwymyn yn Tarsus. Fel ymerawdwr roedd Iwlian yn rhydd i gyhoeddi ei fod yn bagan, ac ail-agorwyd temlau duwiau traddodiadol Rhufain. Ceisiodd wanhau'r Cristionogion mewn gwahanol ffyrdd. Yn 362 pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg, ac alltudiwyd rhai esgobion megis Athanasius.

Yn 363 cychwynnodd Iwlian tua'r dwyrain gyda byddin o 65,000 i ddechrau'r ymgyrch yn erbyn y Persiaid oedd wedi ei chynllunio gan Constantius. Dywedir ei fod yn ei gyffelybu ei hun i Alecsander Fawr. Roedd wedi gwneud cynghrair ag Arsaces, brenin Armenia. Roedd Hormisdas, brawd Sapor II, bernin Persia, wedi ffoi at y Rhufeiniaid yn 324, a'r bwriad oedd gosod Hormisdas ar yr orsedd yn lle ei frawd. Enillodd Iwlian fuddugoliaeth dros y Persiaid a chyrraedd at eu prifddinas Ctesiphon. Mewn ysgarmes ar 26 Mehefin 363 anafwyd Iwlian gan waywffon, ac er gwaethaf ymdrechion ei feddyg Oribasius o Pergamon, bu farw o'r clwyf.

Cyhoeddodd y fyddin swyddog ieuanc o Gristion, Jovian, ym ymerawdwr yn ei le. Roedd Jovian yn awyddus i ddychwelyd i diriogaeth Rufeinig i ddiogelu ei safle, felly gwnaeth heddwch a'r Persiaid gan ddychwelyd iddynt y rhan fwyaf o'r diriogaeth yn Armenia a goncwerwyd gan Diocletian yn 298. Claddwyd Iwlian yn Tarsus.

Rhagflaenydd:
Constantius II
Ymerawdwr Rhufain
361363
Olynydd:
Jovian

Nodiadau

  1. Geiriadur yr Academi, d.g. [Julian: Julian the Apostate].

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.