Kate Lambert
| Kate Lambert | |
|---|---|
| Ffugenw | Kato |
| Ganwyd | 16 Medi 1983 Cymru |
| Man preswyl | Loma Linda |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | model, dylunydd ffasiwn |
| Gwefan | https://stylerotica.com/ |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Model o Gymru ydy Kate Lambert (ganwyd 16 Medi 1983)[1] sy'n cael ei hadnabod gyda'r llysenw "Kato". Mae hefyd yn ddylunydd ffasiwn ac yn wraig busnes. Cafodd ei geni yn Llanbrynmair, Powys a'i magu yng Nghymru, ond symudodd i Unol Daleithiau'r America yn 2007.
Un o brif wynebau steampunk ydy Kato, ac yn y gorffennol mae wedi cael ei galw yn "uwchfodel steampunk" ("the supermodel of steampunk")[2][3] Cafodd arwres y comic Steampunk - Lady Mechanika - ei henwi ar ei hôl.[4] Mae ei gwaith i'w weld drwy holl lyfau celf a ffasiwn steampunk yn cynnwys International Steampunk Fashions, ble mae ei ffotograff i'w weld ar y clawr.[5]
Ymddangosodd Kato hefyd ar glawr Awst 2014 o'r cylchgrawn Bizarre,[6] a roddodd yr enw "steampunk idol" arni ac mae'n ei galw'n "Pin-up legend". Ymddangosodd hefyd ar glawr Gwanwyn 2012 o FEY,[7] a chlawr Medi 2012 o Ladies of Steampunk[8] ac Ebrill 2013 o LoSP Bronze Age (NSFW)[9]. Yng Ngorffennaf 2016 roedd ei gwyneb i'w weld ar glawr Phantasm ble y galwyd hi'n "The Queen of Steam".[10]

Cefndir
Hi oedd 3edd merch y peintiwr celf Terence Lambert a Glenys (née Hulme) ei wraig, a oedd yn brifathrawes. Cafodd ei magu yn Hafodyllan [11], cyn-reithordy Llanbrynmair a oedd yn sefyll y tu ôl i fynwent o'r 13g[12]. Mae wedi dweud mai dyma oedd y sbardyn iddi ddefnyddio llawer o bethau Victorianaidd yn ei gwisgoedd.[13] Gadawodd yr ysgol uwchradd pan oedd yn 16 oed ac aeth i'r tec lleol i arbenigo mewn celf.[14] Wedyn, gwnaeth gwrs mewn ffasiwn a thecstiliau yng Nghaerfyrddin ble y graddiodd hi. Cychwynodd werthu dread hair falls mewn marchnadoedd yma ac acw drwy Dde Cymru ac arlein; o dipyn i beth tyfodd ei busnes yn llwyddiannus.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Mynegai genedigaethau Y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, Chwarter 3 1983; Gogledd Ceredigion Cyfrol 24, Tud 1262: KATHARINE AMY LAMBERT, cyfenw morwynol y fam HULME.
- ↑ "2014 Calendar Store". Ladies of Steampunk Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-20. Cyrchwyd 2016-09-11.
- ↑ Frame, Wilhelmina (28 Mai 2013). "An Interview with Kato". Steampunk Chronicle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-23. Cyrchwyd 2016-09-11.
- ↑ "Joe Benitez's Lady Mechanika". Aether Emporium. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-07. Cyrchwyd 2016-09-11.
- ↑ Ramey., Paul (31 Mawrth 2013). ""Victoriana Lady" Lisa Griffiths Publishes Book on Steampunk Fashion". Nine Muse Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2016-09-11.
- ↑ "New Issue!". Bizarre Magazine.
- ↑ "FAE issue 18 spring 2012". FEY magazine.
- ↑ "Ladies of Steampunk Magazine: Volume 1, Issue 1". Sean Makiney.
- ↑ "LoSP: Bronze Age, Issue 3 NSFW". Sean Makiney.
- ↑ "Phantasm Magazine, Issue 10". MagCloud.
- ↑ Cyngor Sir Powys, Cofrestr Etholiadau Llanbrynmair 2002. Hafodyllan, Etholwyr: Frith Lambert, Glenys Lambert, Hannah Lambert, Terence Lambert, Katherine A Lambert
- ↑ Hafod y Llan, also known as the Old Rectory, Llanbrynmair
- ↑ Phillips, Marissa (9 Chwefror 2012). "Steampunk Couture". Gothic Beauty Magazine.
- ↑ Sukie (23 Mai 2011). "Bad Candy talks jewellery with Steampunk Couture Clothing". Bad Candy. Cyrchwyd 4 Ebrill 2014.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Portffolio
- (Saesneg) Model Mayhem
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.