Kate Sheppard

Kate Sheppard
GanwydCatherine Wilson Malcolm Edit this on Wikidata
10 Mawrth 1847 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Riccarton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethymgyrchydd dros hawliau merched, gweithredydd gwleidyddol, economegydd, cyhoeddwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ffeminist, gwleidydd Edit this on Wikidata
PriodWilliam Lovell-Smith Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist o Loegr a Seland Newydd, o dras Albanaidd, oedd Katherine Wilson Sheppard (10 Mawrth 1848 - 13 Gorffennaf 1934); hi yw'r aelod amlycaf o fudiad etholfraint merched Seland Newydd a hi yw swffragét enwocaf y wlad. Oherwydd ei rôl fel arweinydd de facto mudiad etholfraint Seland Newydd, ystyrir Sheppard gan lawer fel un o ffigurau amlycaf Seland Newydd. Disodlodd ei llun Brenhines Elizabeth II, o Loegr, ar flaen papur deg-doler Seland Newydd ym 1991.[1]

Ganed Catherine Wilson Malcolm yn Lerpwl ar 10 Mawrth 1848 a bu farw yn Christchurch. Ymfudodd i Seland Newydd gyda'i theulu ym 1868. Yno daeth yn aelod gweithgar o wahanol sefydliadau crefyddol a chymdeithasol, gan gynnwys Undeb Dirwestol y Menywod (WCTU). Yn 1887 fe'i penodwyd yn Uwch-arolygydd Cenedlaethol WCTU ar gyfer Masnachfraint a Deddfwriaeth, swydd a ddefnyddiodd i hyrwyddo achos etholfraint menywod yn Seland Newydd. Albawyr oedd eu rhieni Jemima Crawford Souter ac Andrew Wilson Malcolm. Ganed ei thad yn yr Alban yn 1819, ac fe'i disgrifiwyd mewn papurau amrywiol fel: cyfreithiwr, banciwr, a chlerc. Priododd Souter ar Ynysoedd Mewnol Heledd ar 14 Gorffennaf 1842.[2][3][4][5][6][7]

Yr ymgyrchydd

Sheppard a 5 o'i chyd-ymgyrchwyr ar gerflu efydd yn Christchurch.

Hyrwyddodd Kate Sheppard bleidlais menywod drwy drefnu deisebau a chyfarfodydd cyhoeddus, trwy ysgrifennu llythyrau at y wasg, a thrwy gysylltu â gwleidyddion. Hi oedd golygydd The White Ribbon, y papur newydd cyntaf i'w gynhyrchu gan ferched yn Seland Newydd. Trwy ei hysgrifennu medrus a'i siarad cyhoeddus argyhoeddiadol, llwyddodd i hyrwyddo pleidlais menywod. Cafodd ei phamffledi Deg Rheswm Pam y dylai Menywod Seland Newydd Bleidleisio ac A ddylai Merched Bleidleisio? effaith bositif a dylanwadol ar achos menywod. Arweiniodd y gwaith hwn at ddeiseb gyda 30,000 o lofnodion yn galw am bleidlais i fenywod ac fe'i cyflwynwyd i'r senedd. O ganlyniad, Seland Newydd oedd y wlad gyntaf i sefydlu etholfraint gyffredinol (universal suffrage). [8]

Sheppard oedd llywydd cyntaf Cyngor Cenedlaethol Menywod Seland Newydd, a sefydlwyd ym 1896, a helpodd i ddiwygio'r sefydliad ym 1918. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, teithiodd i Brydain a chynorthwyo y mudiad etholfraint yno. Gyda'i hiechyd yn methu, dychwelodd i Seland Newydd, lle daliodd ati i ysgrifennu ar hawliau menywod, er iddi ddod yn llai gweithgar yn wleidyddol. Bu farw ym 1934, yn ddi-blant.

Aelodaeth

Bu'n aelod o Gyngor Cenedlaethol Menywod Seland Newydd am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau


Cyfeiriadau

  1. Devaliant 1992, t. 5.
  2. Cyffredinol: Colin Matthew; David Cannadine, eds. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 53522, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 1028855079, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Awst 2015
  4. Dyddiad geni: "Katherine Wilson Sheppard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.britannica.com/biography/Kate-Sheppard.
  5. Dyddiad marw: "Kate Sheppard". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Katherine Wilson Sheppard". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Colin Matthew; David Cannadine, eds. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 53522, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  7. Man claddu: "Sheppard, Katherine Wilson". Dictionary of New Zealand Biography. Cyrchwyd 22 Awst 2020. Kate Lovell-Smith died at her home at Riccarton, Christchurch, on 13 July 1934, and was buried in Addington cemetery with her mother, a brother and a sister.
  8. Galwedigaeth: A Biographical Dictionary of Women Economists. ISBN 1-85278-964-6. OL 9896096M. Wikidata Q108639285. Colin Matthew; David Cannadine, eds. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 53522, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 1028855079, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.