Kenneth Griffith
| Kenneth Griffith | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Hydref 1921 Dinbych-y-pysgod |
| Bu farw | 25 Mehefin 2006 o clefyd Alzheimer Penalun |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, casglwr stampiau, actor ffilm, actor teledu, sgriptiwr |
Actor a gwneuthurwr ffilmiau dogfen o Gymru oedd Kenneth Ewen Griffith (12 Hydref 1921 – 25 Mehefin, 2006). Cafodd ei eni yn Ninbych-y-Pysgod ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Penalun, Sir Benfro.
Actor
Ymddangosodd mewn dwsinau o ffilmiau. Ef oedd y cymeriad 'Jack Phillips' a oedd yn gweithio'r radio ar y Titanic yn y ffilm "A Night to Remember", ac ef oedd 'Whitey' y meddyg hoyw yn "Wild Geese" (1978). Gwerthfawrogir ei waith ar y rhaglen teledu "The Prisoner" gan feirniaid ffilm. Ef yw'r 'hen ddyn dwl' yn "Four Weddings and a Funeral" (1994), y Parch Jones yn "The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain" (1995) a'r 'gweinidog' yn "Very Annie Mary" (2001).
Gwneuthurwr ffilmiau dogfen
O'r chwedegau ymlaen daeth yn adnabyddus am greu ffilmiau dogfen, rhai ohonoynt yn ddadleuol iawn. Gwnaeth ffilm ddogfen am fywyd a marwolaeth y gweriniaethwr Gwyddelig Michael Collins o'r enw Hang up your Brightest Colours; mae'r teitl yn tarddu o linell allan o lythyr oddi wrth George Bernard Shaw at un o chwiorydd Collins. Gwaharddwyd y ffilm am 20 mlynedd.[1]
Dogfen arall a gynhyrfodd y dyfroedd oedd dogfen am Zola Budd, y rhedwraig o Dde Affrica.
Galwodd ei dŷ yn Llundain yn "Michael Collins House"
Ffilmiau
- Blue Scar (1949)
- Private's Progress (1956)
- A Night to Remember (1958)
- I'm All Right Jack (1959)
- Only Two Can Play (1962)
- The Wild Geese (1978)
- The Sea Wolves (1980)
- Four Weddings and a Funeral (1994)
- The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1995)
- Very Annie Mary (2001)
Teledu
- Buddenbrooks (1965)
- The Prisoner (1968)
- Hang Up Your Brightest Colours
- Curious Journey
- The Perils of Pendragon (1974)
Cyfeiriadau
- ↑ ballinagree.freeservers.com; Gweler hefyd cofnodion yr Orsedd. Adalwyd 29 Mawrth 2016.
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.