Kos
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Kos |
| Poblogaeth | 33,387 |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Châtenay-Malabry |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dodecanese |
| Lleoliad | Môr Aegeaidd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 290.3 km² |
| Uwch y môr | 846 metr |
| Gerllaw | Môr Aegeaidd |
| Cyfesurynnau | 36.8153°N 27.1103°E, 36.89589°N 27.290468°E |
| Cod post | 853 00–853 99 |
![]() | |


Ynys Roegaidd yw Kos neu Cos (Groeg: Κως; Twrceg: İstanköy; Eidaleg: Coo; Stanchio gynt yn Saesneg), a leolir yn y Dodecanese, yn ymyl Gwlff Cos. Mae'n mesur 40 wrth 8 km, ac yn gorwedd 4 km oddi ar arfordir Bodrum (yr Halicarnassos hynafol), Twrci. Poblogaeth: 30,500. Roedd yn enwog yn yr Henfyd fel man enedigol Hippocrates.
Hanes
Cafodd yr ynys ei choloneiddio gan y Cariaid yn gynnar iawn. Fe'i goresgynnwyd gan y Doriaid yn y 11eg ganrif CC ac ymunodd â Chynghrair Delios. Dwywaith yn ystod y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r Persiaaid fe'i meddianwyd ond i gael ei rhyddhau yn ddiweddarach. Yn 366 CC codwyd tref Kos ei hun, ac yn fuan wedyn daeth yr ynys yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac ar ôl hynny yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Am gyfnod cafodd ei meddiannu gan Fenis a'i gwerthu i'r Ysbytwyr o Rhodes. Yna am 440 mlynedd bu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Cafodd ei throsglwyddo i'r Eidal yn 1912. Ar ôl cyfnod byr ym meddiant yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd, a'r Deyrnas Unedig ar ôl hynny, fe'i ildiwyd i Wlad Groeg yn 1947.
Hippocrates
Credir i Hippocrates, "Tad Meddygaeth", gael ei eni yn Kos. Yng nghanol y dref ceir coeden hynafol a elwir Planwydden Hippocrates; dywedir ei bod yn dynodi safle hen deml. Mae Kos yn gartref i'r Sefydliad Hippocratig Rhyngwladol a'r Amgueddfa Hippoctratig a gysegir i'r ffisegydd enwog. Ger y Sefydliad mae adfeilion Asklepeion, lle hyfforddwyd Hippocrates gan Herodicus, yn ôl traddodiad.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
