Llain Gaza

Llain Gaza
Mathtiriogaeth dan feddiant, allglofan, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina, rhanbarth, dadl diriogaethol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDinas Gaza Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-غزة.wav, En-ca-Gaza.mp3 Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Gaza Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,141,643 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwladwriaeth Palesteina, Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, tiriogaethau Palesteinaidd a feddianwyd gan Israel Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, tiriogaethau Palesteinaidd a feddianwyd gan Israel, Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, occupation of the Gaza Strip by the United Arab Republic Edit this on Wikidata
Arwynebedd365 km² Edit this on Wikidata
GerllawBesor River, Môr y Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Aifft, Israel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.45°N 34.4°E Edit this on Wikidata
GZZ Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Map
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Llain Gaza
Canol Dinas Gaza
Rhan o'r "Ffens Ddiogelwch" Israelaidd sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Israel a Llain Gaza

Llain o dir ar arfordir Môr y Canoldir yw Llain Gaza (Arabeg: قطاع غزة‎ Qiṭāʿ Ġazzah; Hebraeg:רצועת עזה‎ Retzu'at 'Azza), rhwng yr Aifft i'r de-orllewin ac Israel i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r Tiriogaethau Palesteinaidd sy'n destun Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r Aifft.

Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef Gaza. Rheolir y llain gan lywodraeth Hamas ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn Ymgyrch Colofn o Niwl pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.

Dinasoedd

Dan warchae

Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[1] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[2]

Baner Llain Gaza, sy'n dangos teyrngarwch ei dinasyddion i'r Aifft.

Gwersylloedd ffoaduriaid

Ceir 8 gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yn Llain Gaza sy'n gartref i tua 478,854 o ffoaduriaid ers 1948-49:

Iechyd

Fel yn achos nifer o wledydd llai cyfoethog, digon elfennol yw'r gwasanaethau iechyd yn Llain Gaza. Mae'r diriogaeth yn ddibynnol i raddau helaeth ar gyflenwadau meddygol gan asiantaethau dyngarol ond dim ond yn ysbeidiol mae hyn wedi cyrraedd ers i Israel osod embargo a gwarchae economaidd ar y Llain. Ysbyty Al-Shifa yn ninas Gaza yw ysbyty mwyaf y diriogaeth.

Cyfeiriadau

  1. "Red Cross: Israel trapping 1.5m Gazans in despair". Haaretz. 2009-06-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-30. Cyrchwyd 2012-12-05.
  2. "ICRC says Israel's Gaza blockade breaks law". BBC News. 14 Mehefin 2010.

Gweler hefyd

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.