Louis Prima
| Louis Prima | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Rhagfyr 1910 New Orleans |
| Bu farw | 24 Awst 1978 o gwaedlif ar yr ymennydd New Orleans |
| Label recordio | Capitol Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | trympedwr, canwr, cerddor jazz, cerddor, arweinydd band |
| Arddull | jazz |
| Prif ddylanwad | Louis Armstrong |
| Priod | Unknown, Unknown, Unknown, Keely Smith, Gia Maione |
| Plant | Lena Prima, Louis Prima, Jr. |
| Gwobr/au | Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
| Gwefan | http://www.louisprima.com/ |
Canwr, trympedwr, cyfansoddwr caneuon, a blaenwr band o Unol Daleithiau America oedd Louis Leo Prima (7 Rhagfyr 1910 – 24 Awst 1978) a fu'n un o sêr jazz a swing yr 20g, gyda chryglais nodweddiadol. Ymhlith ei gyfansoddiadau mae "Sing, Sing, Sing (With a Swing)" (1936) a "Jump, Jive, an' Wail" (1956).
Ganed ef yn New Orleans, Louisiana, i fewnfudwyr o Sisili. Fe'i magwyd mewn tŷ cerddorol, a mynychodd clybiau miwsig y ddinas ers ei fachgendod. Dylanwadwyd arno o'r cychwyn gan Dixieland a'r felan-gân, ac yn ei arddegau ffurfiodd fand jazz yn arddull New Orleans, gyda saith o aelodau. Yn y 1930au sefydlodd combo swing, ac yn y 1940au blaenodd un o grwpiau mwyaf poblogaidd oes y big band.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Prima ei ddyfarnu'n anghymwys i wasanaethu yn y lluoedd arfog oherwydd anaf i'w ben-glin. Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, pan oedd anterth y big band ar drai, ymaddasai i ffasiynau a datblygiadau'r cyfnod, gan dynnu ar roc a rôl, rhythm a blŵs, a bwgi-wgi. Prima oedd un o brif ladmeryddion blŵs naid, ac yn y 1950au ymgartrefodd yn Las Vegas ac arloesodd ddull "canu'r lolfa". Prima oedd un o'r cerddorion cyntaf i sefydlu preswylfa gyngerdd ar y Strip, gan berfformio'n rheolaidd yn y casinos a'r clybiau nos yn Las Vegas.
Yn ogystal â'i fedr cerddorol, enillodd Prima enw fel difyrrwr amryddawn, a disgleiriodd ar y llwyfan gyda'i ddigrifwch a'i hwyliogrwydd, a chwmnïaeth ei fand.[1] Prima oedd un o'r cerddorion Eidalaidd-Americanaidd cyntaf i gofleidio'i dreftadaeth ar y llwyfan, a chynnwys ei hunaniaeth Sisilaidd yn ei bersona a'i berfformiadau. Cyfunodd elfennau o gerddoriaeth werin yr Eidal, er enghraifft y darantela, â jazz a swing, a chanai yn yr iaith Eidaleg yn aml, hyn oll mewn oes pan nad oedd difyrwyr y prif ffrwd yn hoff o amlygu'u gwreiddiau ethnig i'r cyhoedd.
Ymddangosodd Prima mewn rôl trympedwr neu flaenwr band mewn sawl ffilm, weithiau'n portreadu ei hun: Rhythm on the Range (1936), You Can't Have Everything (1937), Manhattan Merry-Go-Round (1937), Start Cheering (1938), Rose of Washington Square (1939), a Senior Prom (1958). Cyd-serennodd â'i wraig Keely Smith yn y ffilm gerdd Hey Boy! Hey Girl! (1959), ac efe oedd y prif actor yn The Continental Twist (1961), llun sy'n ymwneud â dawns y twist. Ei rôl enwocaf oedd lleisio'r orangwtang King Louie yn The Jungle Book (1967), un o glasuron animeiddiedig Disney. Portreadodd ei hun unwaith eto yn y ddrama gomedi Rafferty and the Gold Dust Twins (1975).
Bu farw Louis Prima yn New Orleans yn 67 oed, wedi tair blynedd mewn coma.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Louis Prima. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2024.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.