Lyncs

Lyncs
Lyncs Ewrasiaidd (Lynx lynx)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Felidae
Genws: Lynx
Genera
Lynx amrediadau:
oren = Lyncs Ewrasiaidd (L. Lynx),
porffor = Lyncs Canadaidd (L. canadensis),
coch = Lyncs Iberaidd (L. pardinus),
gwyrdd = Bobgath (L. rufus)

Mae lyncs yn aelod o un o'r pedair rhywogaeth o gath o faint canolig sy'n perthyn i'r genws Lynx.

Cyflwyniad

Mae gan y lyncs gynffon fer, a thuswau nodweddiadol o wallt du ar flaenau'r clustiau. Y lyncs (lluosog: lyncsod) yw un o'r pedair rhywogaeth y genws Lynx, cathod gwyllt cymedrol eu maint. Tardda'r enw o'r Saesneg Canol trwy'r gair Groeg λύγξ,[1] o'r gwreiddyn Indo-Europeaidd leuk- ("golau, disgleirdeb"), cyfeiriad at ymoleuedd ei lygaid adlewyrchol.[2]. Mae'r erthygl hon yn ymdrin yn bennaf â'r lyncs Ewrasaidd, sef y rhywogaeth a fu'n gynhenid i Gymru ar un adeg.

Ymddangosiad

Mae gan y lyncs gynffon fer, siobynnau nodweddiadol o flew duon ar flaenau ei glustiau, pawennau wedi eu clustogi ar gyfer cerdded ar eira, a wisgers ar yr wyneb. Mae crychdorch o dan y gwddf gyda bariau, weithiau'n ymdebygu i dei-bo. Mae lliw y corff yn amrywio'n frown cymedrol i led-wyn, weithiau wedi ei farcio â brychni brown tywyll, yn enwedig ar y coesau. Mae'r nodweddion hyn oll yn amrywio'n fawr yn ôl hinsawdd eu cynefin. Rhywogaethau lleiaf y genws yw'r fobgath a lyncs Canada, a'r mwyaf yw lyncs Ewrasia[3].

Y pedair rhywogaeth o lyncs
Rhywogaeth Pwysau Hyd Uchder (i'r ysgwyddau)
Lyncs Ewrasiaidd
(Lynx Lynx)
gwryw 18–30 kg (40–66 lb) 81–129 cm (32–51 mod) 70 cm (28 mod)
benyw 18 kg (40 lb)
Lyncs Canadaidd
(Lynx canadensis)
8–11 kg (18–24 lb) 80–105 cm (31–41 mod) 48–56 cm (19–22 mod)
Lyncs Iberaidd
(Lynx pardinus)
gwryw 12.9 kg (28 lb) 85–110 cm (33–43 mod) 60–70 cm (24–28 mod)
benyw 9.4 kg (21 lb)
Bobgath
(Lynx rufus)
gwryw 7.3–14 kg (16–31 lb) 71–100 cm (28–39 mod) 51–61 cm (20–24 mod)
benyw 9.1 kg (20 lb)

Ymddygiad a bwyd

Mae'r lyncs fel arfer yn anifail sy'n cadw ei gwmni ei hun, er y gall minteion bychain ohonynt weithiau gyd-hela. Bydd cymaru yn digwydd yn y gaeaf hwyr ac mae'r fenyw yn esgor ar un i bedwar cathan ar ôl cyfebru am 70 niwrnod. Erys y bychain gyda'r fam am aeaf arall, sef naw mis, cyn mynd ar ddisberod fel oedolion ieuanc. Fe grea'r lyncs ei ffau mewn agennau neu o dan silffoedd mewn creigfannau. Bwyta amrediad eang o anifeiliaid, gan gynnwys yng Nghymru ddeiet dybiedig o iyrchod, ceirw cochion, ysgyfarnogod, pysgod, llwynogod, defaid a geifr, gwiwerod cochion, llygod a llygod pengron, grugieir ac adar eraill.

Dosbarthiad a chynefin

Lyncs ar herw

Mae'r lyncs yn mynychu fforestydd mynyddig gyda llysdyfiant trwchus o lwyni, hesg a gwair tal. Er bod y gath hon yn hela ar y ddaear, gall ddringo coed a nofio'n gyflym, gan ddal pysgod. Cychwynnwyd amryw brosiectau i ail-sefydlu lyncsod yn eu cynefinoedd hynafol, a bu rhain yn llwyddiannus mewn amryw ardaloedd yn y Swisdir. Ers yr 1990au ymdrechwyd droeon i'w hailsefydlu yn yr Almaen ac ers 2000 ceir poblogaeth fechan ym mynyddoedd yr Hartz ger Bad Lauterberg.

Mae'r lyncs yn fwy cyffredin yng ngogledd Ewrop na'r rhelyw o wledydd, yn enwedig yn Norwy, Sweden, Estonia, Y Ffindir a pharthau gogleddol Rwsia. Amcangyfrifir y boblogaeth Swedaidd yn 1200-1500 unigolyn, a phoblogaeth y Ffindir yn 1900-2100, lle bu'r niferoedd yn cynyddu'n flynyddol ers 1992. Ystyrir y boblogaeth yn y Ffindir yn fwy bellach nag a fu erioed. Difawyd poblogaeth gwledydd Prydain yn yr 17eg ganrif, ond bu galwadau am ei hailsefydlu i reoli niferoedd ceirw.[4][5]

Ecoleg

Mae'r lyncs fel arfer yn anifail unig, er y gall grŵp bach o lyncs deithio a hela gyda'i gilydd yn achlysurol. Mae paru yn digwydd ar ddiwedd y gaeaf ac unwaith y flwyddyn mae'r fenyw yn rhoi genedigaeth i rhwng un a phedair cath fach. Mae amser beichiogrwydd y lyncs tua 70 diwrnod. Mae’r cathannod yn aros gyda’r fam am un gaeaf arall, cyfanswm o tua naw mis, cyn symud allan i fyw ar eu pen eu hunain fel oedolion ifanc. Mae'r lyncs yn creu ei ffau mewn agennau neu o dan silffoedd creigiau. Mae'n bwydo ar ystod eang o anifeiliaid o geirw cynffon wen, ceirw, iwrch, ceirw bach coch, a chamois, i ysglyfaeth llai, mwy arferol: ysgyfarnogod, pysgod, llwynogod, defaid, gwiwerod, llygod, tyrcwn ac adar eraill , a geifr. Mae hefyd yn bwyta grugieir gwynion, llygod pengrwn, a grugieir.

Mae'r gwir berthynas rhwng lyncsod a llwynogod yn aros yn anghlir, a chafwyd bod moch daear yn ymddangos yn ddifater i bresenoldeb y lyncs mewn astudiaeth o Sbaen[6]. .

Hanes yng Nghymru a Phrydain

Nid oes amheuaeth am bresenoldeb y lyncs fel anifail gwyllt ym Mhrydain, ac felly yn ôl pob tyb, yng Nghymru, yn y cyfnod ôl-rewlifol a chyn-hanesyddol. Ym Mhrydain ystyrid y lyncs Ewrasiaidd fel anifail o Epoc y Pleistosen ond a fethodd a chyrraedd yr Holosen. Erbyn hyn fe wyddom fod hyn yn gwbl anghywir. Gwyddom i'r lyncs fyw yn Lloegr a de Iwerddon mor ddiweddar â 9000 o flynyddoedd cyn y presennol. Cafwyd sbesimenau o Ddyfnaint ac o Swydd Derby a ddarganfuwyd trwy ddull Dyddio Carbon yn dyddio o 8800-9500 flynyddoedd yn ôl).[7] Nid oes rheswm i amau felly bod yr anifail hefyd yn troedio tir Cymru yn ogystal. Fodd bynnag, yn 1997 daeth y newyddion syfrdanol ar y pryd bod lyncsod Ewrasaidd wedi goroesi yn yr Alban hyd mor ddiweddar a'r 3g OC.[8]

Ymddengys erbyn hyn bod ffynonellau Cymraeg eu hiaith yn dyfod a hanes y lyncs fwyfwy i'r presennol, yn gyntaf i 8g yr Hen Ogledd, (de'r Alban neu Gymbria heddiw), ac wedyn, mor ddiweddar a'r 15g, i ogledd Cymru. Mae'r hwiangerdd enwog Pais Dinogad yng nghorff y gerdd arwrol, treisgar a gwaedlyd Y Gododdin, yn cyfeirio at lew ac at 'llewyn':

Peis dinogat e vreith vreith
O grwyn balaot ban wreith
Chwit chwit chwidogeith
Gochanwn gochenyn wyth geith
Pan elei dy dat ty e helya
Llath ar y ysgwyd llory eny llaw
Ef gelwi gwn gogyhwch
Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc
Ef lledi bysc yng corwc
Mal ban llad llew llywywc
Pan elei dy dat ty e vynyd
Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd
Penn grugyar vreith o venyd
Penn pysc o rayadyr derwennyd
O'r sawl yd gyrhaeddai dy dad di a'i gigwain
O wythwch a llewyn a llwynain
Nid angai oll ni fai oradain[9]

Mae'r ffynhonnell fwy diweddar yn fwy pendant. Mae David Hetherington yn ecolegydd sydd yn ymchwilio i hanes y lyncs ym Mhrydain.[10] Darganfu gyfeiriad mewn cywydd gan y bardd o'r 15g Dafydd Nanmor at llew brych. Anodd yw credu meddai, i'r fath derm (speckled lion iddo fe) olygu dim arall ond lyncs.[11]. Dyma ran o'r cywydd hwn yn clodfori'r uchelwr Rhys ap Rhydderch ap Rhys o’r Tywyn:

Chwannog vydd yr hydd yr haf
[awyddus fydd hydd yn yr haf]
A’r llew brych, i’r llwybr vcha
[a'r llewbrych {fynd} i'r llwybr uchaf]
Aed bric a blodev j bren,
[fe a flodau i frig pren ]
Aed eryr i vric derwenn.
[fe a eryr i frig derwen]
Ar vric y bendevigaeth,
[ar frig y bendefigaeth]
Yr wyd, Rhys, val môr ar draeth
[yr wyt Rhys fel môr ar draeth]

Diystyriodd Raye y posibilrwydd mai lyncs oedd 'llew brych'[12] gan i bapur Norwyaidd ddweud nad yw lyncsod yn dilyn ceirw mudol. Ystyriai hefyd ffynhonnell o'r 15g. yn rhy ddiweddar. Barn Hetherington ar yr amseriad fodd bynnag yw, gan y bu lyncsod yn eitha lluosog yn ardaloedd mynyddig amhoblog Ewrop hyd canol y 19g. pam nad felly ym Mhrydain. Yn ychwanegol, nid yw lyncsod yn dilyn llysyswyr fel ceirw i'r mynyddoedd yn yr haf yn cyfrif fel ymfudo yn gymaint â symud syml ychydig fetrau i'r uchelderau wrth iddynt fanteisio ar borfa ir a ffres. Mae'n sefyll i reswm, meddai Hetherington, y byddai lyncsod yn ffocysu eu gweithgaredd ar y rhannau o'u libart lle ceir prae addas. Ychwanega: "To my non-Welsh reading eyes, I'd struggle to explain what else a 'speckled lion' would be!" a bod William Harrison, yn ysgrifennu yn y 1570au yn disgrifio sut y bu ar un adeg "many lions" ym mharthau gogleddol yr Alban, ond ni chlyw neb amdanynt mwy.

Cyfyd y cwestiwn erbyn hyn ai lyncs oedd pob "llew" neu "lion" ym marddoniaeth gynnar y canoloesedd? "Llew bychan" fyddai llewyn mewn Cymraeg modern wrth gwrs (gw. Pais Dinogad uchod). Gallai tarddiad "llew" fod o'r Lladin leo (dehongliad nad yw heb ei broblemau - sut oedd bardd Pais Dinogad yn gwybod am lew yn yr 8g.?) neu, yn ôl yr ysgolhaig Adrian Price, o lugh, sef lyncs yn yr Hen Aeleg (cyn AD900) ac yn gytras a geiriau yn golygu golau pefriol (hy. golau llygaid y lyncs, sef union etymoleg y gair lyncs ei hun). Mae'n werth efallai cyfeirio at Lleu, lleufer, lleuad yn y cyswllt hwn[13].

Y lyncs eiconaidd

Mae'r lyncs yn anifail cenedlaethol i Ogledd Macedonia[14][15] ac fe'i dangosir ar du ôl y darn arian 5 denar.[16]. Mae'n anifail cenedlaethol Rwmania hefyd.[17]

Cyfeiriadau

  1. Diffiniad lynx o Eiriadur (Saesneg) Rhydychen
  2. "lynx — Diffiniad o Longman English Dictionary Online. Geiriadur (Saesneg) Longman
  3. addasiad o erthygl https://en.wikipedia.org/wiki/Lynx#cite_ref-WCoW_12-1
  4. "Ilves". y Ffindir: Riista- ja kalatalouden tutkimuslaitos. 14 Hydref 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 30 Mai 2011.
  5. Moore, Matthew (13 Chwefror 2009). "Lynx 'should be reintroduced to Britain to cull deer'". London: Telegraph.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.
  6. https://scholar.google.com/scholar?hl=en&as_sdt=0%2C5&q=lynx+and+badgers&btnG=#d=gs_qabs&t=1682841536431&u=%23p%3DUT-94gA-SNsJ>
  7. Coard & Chamberlain 1999, Bronk Ramsey et al. 2002 yn http://scienceblogs.com/tetrapodzoology/2008/04/21/european-cats-part-iii/
  8. http://scienceblogs.com/tetrapodzoology/2008/04/21/european-cats-part-iii/
  9. [Y Gododdin. Duncan gwirio sillafiad y rhan mewn italig
  10. Hetherington, D. & Geslin, L. (2018), The Lynx and Us Cyh:Scotland The Big Picture'
  11. Lee Ray (2016), "The Forgotten Beasts in Medieval Britain" (Traethawd doethuriaeth Prifysgol Abertawe) yn E. Rowlands (1976), Poems of the Cywyddwyr (Dublin Institute of Advanced Studies)
  12. Raye,L. (2016) The Forgotten Beasts in Medieval Britain - a study in extinct fauna inmedieval sources Traethawd doethuriaeth, Prifysgol Abertawe
  13. http://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn107.pdf[dolen farw] tudalen 3
  14. Testorides, Konstantin (4 Tachwedd 2006). "Macedonia Wildcats Fight for Survival". Washington Post. Associated Press. Cyrchwyd 30 Mai 2011.
  15. Mironski, Jasmina (25 Chwefror 2009). "On the trail of the Balkan Lynx". Eathimerini. Agence France-Presse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 30 Mai 2011. The lynx is one of the most endangered wild species and is considered as a national symbol of the country
  16. "National Bank of Macedonia – Coins in circulation". Nbrm.mk. 15 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.
  17. "Animalul national – Rasul – Sapte simboluri nationale ale Romaniei mai putin cunoscute". 9AM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-30. Cyrchwyd 2018-05-10.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.