Maimonides
| Maimonides | |
|---|---|
| Ganwyd | 30 Mawrth 1138, 30 Mawrth 1135 Córdoba |
| Bu farw | 13 Rhagfyr 1204 Cairo |
| Galwedigaeth | athronydd, meddyg ac awdur, rabi, seryddwr, Dayan, ysgrifennwr, meddyg |
| Swydd | nagid yr Aifft |
| Adnabyddus am | Mishneh Torah, The Guide for the Perplexed, Pirush Hamishnayot, Epistle to Yemen, Sefer ha-Mitzvot, Hakdamot HaRambam, Treatise in Eight Chapters, Treatise on logic |
| Prif ddylanwad | Avicenna, Farabi, Muhammad ibn Yaḥyá ibn Bājjah,, Aristoteles, Averroes |
| Tad | Maimon ben Yossef HaDayan |
| Plant | Abraham ben Moses ben Maimon |
| Perthnasau | Chananel ben Shmuel, Isaiah HaLevi ben Mishaʾel |
| llofnod | |
Athronydd a chyfreithegwr Iddewig, ysgolhaig y Tora a'r Talmwd, meddyg, a seryddwr o Al-Andalus oedd Moses Ben Maimon Ben Joseph a adwaenir gan yr enw Maimonides (30 Mawrth 1135 – 13 Rhagfyr 1204).[1]
Ganed yn Córdoba yn ne penrhyn Iberia, yn Ymerodraeth yr Almorafidiaid, a leolir bellach yn Andalucía, Sbaen. Dechreuodd ymddiddori yn athroniaeth a'r gwyddorau naturiol yn ei ieuenctid, a darllenodd yn frwd weithiau'r ysgolheigion Islamaidd yn ogystal â chyfieithiadau Arabeg o athronwyr Groeg yr Henfyd. Nodweddai ei feddwl o'r cychwyn gan resymoledd gryf a chyfundrefnol ac atgasedd at gyfriniaeth ac aneglurder. Yn sgil gorchfygiad yr Almorafidiaid gan Galiffiaeth yr Almohadiaid yng nghanol y 12g, ffoes Maimonides a'i deulu i Fès yng ngogledd-orllewin Affrica, a gorfu iddynt droi'n Fwslimiaid.
Aeth Maimonides ar daith yn 1165 i'r Tir Sanctaidd, ac ymwelodd ag Acre, Jeriwsalem, ac Hebron cyn iddo ymsefydlu gyda'i frawd yn Fustat, Hen Gairo, yn yr Aifft. Daeth Swltaniaeth yr Ayyubid i rym yno yn 1171, a dan lywodraeth y Swltan Saladin nid oedd yn rhaid i'r Iddewon guddio'u ffydd. Enillodd Maimonides ei damaid fel gemydd a meddyg, tra'n dal at ei astudiaethau athronyddol a chrefyddol. Yn 1177 cydnabuwyd Maimonides yn bennaeth ar y gymuned Iddewig yn yr Aifft, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn un o feddygon llys Saladin. Bu farw yn Fustat yn 68 oed, a chleddir ei gorff yn Tiberias.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Moses Maimonides. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2020.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.