Michal

Michal
TadSaul Edit this on Wikidata
MamAchinoam Edit this on Wikidata
PriodDafydd, Palti Edit this on Wikidata
Dwy olygfa ger y ffenest
Mae stori Michal yn Llyfr Samuel yn cynnwys dwy olygfa ger y ffenest. [1] Yn 1 Samuel 19, mae Michal yn helpu Dafydd i ddianc rhag Saul trwy ei ollwng trwy ffenest (uchod), tra yn 2 Samuel 6, mae Michal yn gwylio Dafydd yn dawnsio o flaen yr arch (isod).

Tywysoges o Frenhiniaeth Israel oedd Michal /mɪˈxɑːl/ (Hebraeg מִיכַל  [miˈχal] Groeg Μιχάλ) yn ôl Llyfr Cyntaf Samuel, merch ieuenga'r Brenin Saul, a gwraig gynta'r Brenin Dafydd (1 Samuel 18:20-27), brenin cyntaf ar Jwda, ac yna ar holl Israel, gan ei gwneud hi'n frenhines-gymar Israel.

Yn y Beibl

Mae Pennod 1 Samuel 14:49 yn enwi merch hynaf Saul fel Merab a'i ferch ieuengaf fel Michal. Ceir hanes Michal yn Llyfr Cyntaf Samuel lle nodir yn 1 Samuel 18:20 a 18:28 bod Michal yn caru Dafydd. Nid yw'r stori'n nodi os yw Dafydd yn ei charu hithau.[2] Wedi buddugoliaeth Dafydd yn erbyn y cawr Goliath, rhoddwyd Merab yn wraig briod i Adriel.

Wedi priodas Merab gyda Adriel y Meholathiad, gwahoddodd Saul Dafydd i briodi Michal. Atebodd Dafydd, "Dyn tlawd a dibwys ydw i", sy'n golygu nad oedd yn gallu darparu pris priodas. Cynghorodd Saul ef nad oedd angen unrhyw bris priodas ac eithrio blaengroen 100 o Ffilistiaid. Cymerodd Dafydd ran mewn brwydr arall, lle lladdodd 200 o Ffilistiaid, a daeth â'u blaengrwyn i Saul fel pris priodas mwy na'r disgwyl.

Yn y naratif beiblaidd, mae Michal yn dewis lles Dafydd dros ddymuniadau ei thad. Pan mae negeswyr Saul yn chwilio am Dafydd er mwyn ei ladd, mae Michal yn eu hanfon ymaith gan esgus ei fod yn sâl ac yn ei wely. Mae hi'n helpu Dafydd i ddianc drwy'r ffenest.

Tra mae Dafydd yn cuddio er mwyn achub ei fywyd, rhoddodd Saul Michal yn wraig i Palti, mab Laish, a chymerodd Dafydd sawl gwraig arall, gan gynnwys Abigail. [3] Yn ddiweddarach, pan ddaeth Dafydd yn frenin Jwda ac Ish-bosheth (brawd Michal, a mab Saul) yn frenin Israel, mynnodd Dafydd bod Michal yn dychwelyd ato yn gyfnewid am heddwch rhyngddynt. Cydymffurfiodd Ish-bosheth, er gwaethaf protestiadau cyhoeddus Palti. [4]

Ar ôl i Michal ddychwelyd at Dafydd, fe'i beirniadodd am ddawnsio mewn modd anurddasol mewn gorymdaith grefyddol, wrth iddo ddod ag Arch y Cyfamod i'r Jerwsalem gaethedig newydd. [5] Am hyn, mae hi'n cael ei chosbi, yn ôl Samuel, drwy beidio medru esgor ar blant, tan ddiwrnod ei marwolaeth.[6] Yn wahanol i Abigail a Bathsheba, ni ddisgrifir Michal fel un hardd, er bod traddodiad Rabinaidd yn dal ei bod hi o "harddwch hudolus". [7]

Crybwyllir Michal hefyd yn 1 Cronicl 15:29 .

Cyfeiriadau

  1. Ellen White, "Michal the Misinterpreted," JSOT 31.4 [2007] 451–464.
  2. In 1 Samuel 18:26, David is "pleased ... to become the king’s son-in-law" but we are not told whether he was pleased to have married Michal. See Cohen, M., "The Transparency of Saul", European Judaism, volume 39, no. 1, 2006, for a comparison of the transparent presentation of Saul and the opaqueness of David's character in 1 Samuel.
  3. 1 Samuel 25:43-44
  4. 2 Samuel 3:13-16
  5. 2 Samuel 6:14-22
  6. 2 Samuel 6:23
  7. Ginzberg, Louis. "The Family of David". The Legends of the Jews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-12. Cyrchwyd 2025-09-20.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.