Mwsogl
| Mwsoglau | |
|---|---|
| Migwyn (Sphagnum) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Bryophyta |
| Dosbarthiadau[1] | |
Planhigion anflodeuol bychan o'r rhaniad Bryophyta yw mwsoglau. Mae tua 12,000 o rywogaethau yn y byd.[1] Fel arfer maent yn tyfu ar ffurf matiau neu glympiau mewn lleoedd llaith neu gysgodol. Mae mwsoglau'n blanhigion anfasgwlaidd heb feinwe sylem a ffloem i gludo dŵr. Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau ond mae ganddynt ddail syml, un gell o ran trwch ar fonyn nad yw'n arbennig o dda am dynnu dŵr a maeth.
Fel rheol, maent yn 0.2–10 cm (0.1–3.9 modf.) o daldra, ond mae rhai rhywogaethau'n llawer mwy na hyn: Dawsonia, yw'r math talaf, a gall dyfu i hyd at 50 cm (20 modf.) o uchter.
Defnydd gan y werin

- Sebon Teiliwr: "Bu Mrs Heulwen Roberts o Faentwrog yn son wrthym'[2] 'am fwsogl sy’n tyfu ar lannau pyllau a alwai’n “sebon teiliwr. Cofiai deilwriaid yn ei gasglu yn ystod ei ieuenctid i smwddio i mewn i ddillad i'w startsio. Ni wyddom at ba fwsogl y cyfeiriai, os mwsogl o gwbl ond fe gafwyd, ar ôl rhywfaint o ymchwil, ei bod yn bosibl mai cen cerrig oedd y planhigyn, e.e. Ramalina calicaris."
- Mwsoglu - yr arferiad o hel a defnyddio mwsogl gan y werin bobl.
- Llyffethair o fwsogl: "Glywoch chi am neud rhaff o'r sidan bengoch [Polytrichum commune]? Mi ddangosodd 'newyrth i fi dros ugain mlynedd yn ôl sut i neud llyffethair ohono - peth handi iawn i allu i neud ar y mynydd. Ar ôl rhyddhau's pishys o sidan bengoch o wrth ei gilydd a'u neud yn bentwr, mi fachodd nhw a bys un llaw trwy'r llaw arall (oedd ar ffurf arwydd 'ok' dros y twmpath). Wrth eu troi a'u plethu, roedd y gorden a nawd yn cael ei dala yng nghanol y llaw oedd yn troi, ar siâp malwen (h.y. yn cyfyngu ar ei gallu i droi yn rhydd). I fennu, mi ddyblodd y rhaff (a thrwy hynny wrthwneud grym y troi wrth gwrs) a wedyn agor y bleth er mwyn rhoi un pen trwy blethau'r llall. Wrth feddwl, dim llyffethair sensu stricto oedd e, ond cylch - torch oedd ei enw amdano. Mi'i rhoid rownd gwddwg y ddafad er mwyn rhoi ei throed drwyddi."[3] (Carchar yw'r term am llyffethair yn Arfon)
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Goffinet, Bernard; William R. Buck (2004). "Systematics of the Bryophyta (Mosses): From molecules to a revised classification". Monographs in Systematic Botany. Molecular Systematics of Bryophytes (Missouri Botanical Garden Press) 98: 205–239.
- ↑ "Bruce Griffiths ac Ann Corkett ym Mwletin 23 (Llên Natur)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-15. Cyrchwyd 2019-01-17.
- ↑ "Gwyn Jones, Bwletin Llên Natur rhifyn 38" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-15. Cyrchwyd 2019-02-08.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.