Neal Spackman
| Neal Spackman | |
|---|---|
| Dinasyddiaeth | |
| Adnabyddus am | Prosiect Al Baydha |
Mae Neal Spackman (ganed yn nhalaith Alberta, Canada a magwyd yn Minnesota, Unol Daleithiau America) [1] yn ecolegydd ymarferol sy'n llunio ac yn lladmeru ar ran amaethyddiaeth ar hyd canllawiau paramaethu. Golyga hyn, cryfhau ecosystem naturiol ardal ac amaethu gan weithio gyda'r tir a'r bywyd a'r hinsawdd naturiol.
Bywyd ac Addysg

Ysbrydolwyd Spackman i ddysgu am systemau paramaethu gan y llyfr "Natural Capitalism" gan Amory Lovins a Paul Hawken, yna "Cradle to Cradle," gyda diddordeb arbennig mewn adeiladau sustainable cynnaliadwy.
Graddiodd o Ysgol Fusnes i Raddedigion Prifysgol Stanford ac yn 2010 enillodd dystysgrif cwrs Permaculture Design Certificate (PDC) gan y paramaethydd byd-enwog, Geoff Lawton ar leoliad yn ardal y Môr Marw yng Ngwlad yr Iorddonen. Yn 2018 gwnaethpwyd ef yn Gymrawd Sloan o'r Stanford University Graduate School of Business.[2]
Dosbarth Meistr Cynllunio Cynnaladwy
Yn 2015 bu'n sefydlydd y Sustainable Design Masterclass. Mae'n gwrs 3 mlynedd ar y rhyngrwyd sy'n addysgu myfyrwyr ar gynllunio defnydd o dir, rheoli gwahanfa ddŵr (watershed), amaethyddiaeth a rheoli gwastraff.[3]
Rheoli Prosiect Al Baydha
Yn 2011 dechreuodd reoli Prosiect Al Baydha sy'n ardal 700 km sgŵar i'r de o ddinas Meca yn Sawdi Arabia. Mae rhan bychan o'r ardal, darn tir 28 yn ardal arddangos ar gyfer y prosiect lle dysgir a datblygir ar egwyddion paramaethu cyn eu lledu i weddill y rhanbarth.
Mae'n dadlau fod angen creu system amaethyddol a thirlun sy'n defnyddio llai o ddŵr a hefyd yn cynorthwyo cynyddu dŵr.[4] Mae ardal Al Baydha yn derbyn 2-3 modfedd o ddŵr glaw y flwyddyn.
Dolenni
- Neal Spackman ar wefan Permaculture Voices Archifwyd 2018-05-27 yn y Peiriant Wayback
- Cyfweliad gyda Neal Spackman ar Earth Repair Radio arlein
Cyfeiriadau
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-15. Cyrchwyd 2018-12-17.
- ↑ https://www.linkedin.com/in/neal-spackman-29674710[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-03-15.
- ↑ https://soundcloud.com/user-193856180/episode-002-neal-spackman
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.