Neuralink
The Pioneer Building yn San Francisco, a arferai fod yn gartref i swyddfeydd Neuralink ac OpenAI | |
| Enghraifft o: | busnes, menter |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | Mehefin 2016 |
| Sylfaenydd | Elon Musk, Jared Birchall |
| Gweithwyr | 300 |
| Cynnyrch | neurochip |
| Pencadlys | Pioneer Building, San Francisco, Califfornia |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://neuralink.com/ |
| Dynodwyr | |
Mae Neuralink Corp.[1] yn gwmni niwrodechnoleg Americanaidd sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur y gellir eu mewnblannu (BCI). Lleolir y cwmni yn Fremont, Califfornia, ac fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Elon Musk gyda thîm o saith gwyddonydd.[2][3][4][5]
Ers ei sefydlu, mae'r cwmni wedi cyflogi nifer o niwrowyddonwyr proffil uchel o wahanol brifysgolion.[6] Erbyn Gorffennaf 2019, roedd wedi derbyn $158 miliwn mewn cyllid (gyda $100 miliwn ohono gan Musk ei hun) ac roedd yn cyflogi staff o 90 o weithwyr.[7] Bryd hynny, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn gweithio ar ddyfais "tebyg i beiriant gwnïo" sy'n gallu mewnblannu edafedd tenau iawn (4 i 6 μm o led[8] ) yn yr ymennydd, a dangoswyd system sy'n darllen gwybodaeth o lygoden fawr trwy 1,500 o electrodau. Ym Mai 2023, cawsant eu cymeradwyo i greu treialon dynol yn yr Unol Daleithiau.[9]
Mae'r cwmni wedi wynebu beirniadaeth am arbrofi a lladd llawer iawn o brimatiaid yn dilyn treialon mewn labordai. Roedd cofnodion milfeddygol o'r mwncïod yn dangos nifer o gymhlethdodau gydag electrodau'n cael eu mewnblannu yn eu hymennydd drwy lawdriniaeth.
Cwmni
Sefydlwyd Neuralink yn 2016 gan Elon Musk a thîm sefydlu o saith gwyddonydd a pheiriannydd.[10][11] Roedd y grŵp llogi cychwynnol yn cynnwys arbenigwyr mewn meysydd fel niwrowyddoniaeth, biocemeg a roboteg.[12] Prynwyd y nod masnach "Neuralink" gan ei berchnogion blaenorol ym Ionawr 2017.[13][14]
Yn Ebrill 2017, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn anelu at wneud dyfeisiau i drin clefydau difrifol yn yr ymennydd yn y tymor byr, gyda'r nod yn y pen draw o wella 'r claf, sef yr hyn a elwir weithiau yn drawsddynoliaeth.[15][16][17] Roedd Musk wedi dweud bod ei ddiddordeb yn y syniad yn deillio'n rhannol o'r cysyniad ffuglen wyddonol o “les niwral” fel y caiff ei ddisgrifio yn y bydysawd ffuglennol yn The Culture, cyfres o 10 nofel gan Iain M. Banks a gychwynnodd ei sgwennu yn 1987.[17][18]
Allan o'r saith gwyddonydd cyntaf, erbyn 2022, dim ond dau oedd yn parhau mewn swydd.[19]
Cysylltyddion (y gwifrau)
Mae'r gwifrau (probes) yn cynnwys polyimid yn bennaf, deunydd bio-gydnaws, gyda dargludydd aur neu blatinwm tenau, yn cael eu gosod yn yr ymennydd trwy broses otomataidd a berfformir gan robot llawfeddygol. Sonir am "stribed o blatiwmwn" yn Y Dydd Olaf drosod a drosodd. Mae pob cysylltydd yn cynnwys nifer o wifrau sy'n cynnwys electrodau sy'n gallu lleoli signalau trydanol yn yr ymennydd, ac ardal synhwyraidd lle mae'r wifren yn rhyngweithio â system electronig sy'n chwyddo ac yn 'siarad' gyda signalau'r ymennydd. Mae pob cyswllt yn cynnwys 48 neu 96 o wifrau, pob un ohonynt yn cynnwys 32 electrod annibynnol, gan wneud system o hyd at 3,072 o electrodau fesul ffurfiad.[8]
Robot llawfeddygol
Dywed Neuralink eu bod wedi creu robot llawfeddygol sy'n gallu gosod llawer o wiars ymchwiliol hyblyg yn gyflym yn yr ymennydd, a allai osgoi problemau difrodi'r meinwe a materion hirhoedlog sy'n gysylltiedig â weiars llai hyblyg.[20][21][22] Mae gan y robot llawfeddygol hwn nodwydd gyda diamedr 40 μm wedi'i wneud o twngsten - rheniwm a gynlluniwyd i gysylltu â'r dolenni mewnosod, chwistrellu weiars unigol, a threiddio'r meninges a meinwe'r ymennydd; gall osod hyd at chwe gwifren (192 electrod) y funud.[20]
Profion dynol
Derbyniodd Neuralink gymeradwyaeth yr FDA ar gyfer treialon clinigol dynol ym Mai 2023. Yn 2022 gwrthododd yr FDA cais i fynd ar drywydd treialon clinigol dynol gan nodi "pryderon diogelwch mawr yn ymwneud â batri lithiwm y ddyfais; y potensial i wifrau bychan y mewnblaniad fudo i rannau eraill o'r ymennydd; a chwestiynau ynghylch sut y gellir tynu'r ddyfais heb niweidio meinwe'r ymennydd."[23]
Ar 19 Medi 2023, dechreuodd Neuralink ei dreialon dynol cyntaf gan recriwtio cleifion.[24][25]
Gweler hefyd
- Y Dydd Olaf, nofel Gymraeg gan Owain Owain a shwennwyd yn 1967-8
- Trawsddynoliaeth
Cyfeiriadau
- ↑ "NEURALINK CORP". OpenCorporates. 21 Mehefin 2016. Cyrchwyd 2023-08-02.
- ↑ Winkler, Rolfe (27 Mawrth 2017). "Elon Musk Launches Neuralink to Connect Brains With Computers". Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.
- ↑ "Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 Ebrill 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.
- ↑ Statt, Nick (27 Mawrth 2017). "Elon Musk launches Neuralink, a venture to merge the human brain with AI". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
- ↑ "Elon Musk's Brain Tech Startup Is Raising More Cash" (yn Saesneg). 11 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2019. Cyrchwyd 12 Mai 2019.
The company has hired away several high-profile neuroscientists
- ↑ Markoff, John (16 Gorffennaf 2019). "Elon Musk's Company Takes Baby Steps to Wiring Brains to the Internet". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2019.
- ↑ 8.0 8.1 Elon Musk unveils Neuralink’s plans for brain-reading ‘threads’ and a robot to insert them.
- ↑ Sharma, Akriti; Levy, Rachel (25 Mai 2023). "Elon Musk's Neuralink says has FDA approval for study of brain implants in humans". Reuters.
- ↑ Kolodny, Lora (2021-05-02). "Neuralink co-founder Max Hodak leaves Elon Musk's brain implant company". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mai 2021. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ "Neuralink co-founder departs Musk-backed startup -sources". Reuters (yn Saesneg). 2022-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 Ebrill 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.Masunaga, Samantha ( 21 Ebrill 2017).
- ↑ "Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2022-07-19."Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It".
- ↑ Levy, Rachael (2022-12-01). "Elon Musk expects Neuralink's brain chip to begin human trials in 6 months". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 2022-12-02.
- ↑ Urban, Tim (20 Ebrill 2017). "Neuralink and the Brain's Magical Future". Wait But Why. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 Ebrill 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017. Masunaga, Samantha (21 Ebrill 2017).
- ↑ 17.0 17.1 Newitz, Annalee (27 Mawrth 2017). "Elon Musk is setting up a company that will link brains and computers". Ars Technica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.
- ↑ Cross, Tim (31 Mawrth 2017). "The novelist who inspired Elon Musk". The Economist. 1843 Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2017.
- ↑ "Inside Neuralink, Elon Musk's mysterious brain chip startup: A culture of blame, impossible deadlines, and a missing CEO". Fortune (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Medi 2022. Cyrchwyd 2022-01-31.
- ↑ 20.0 20.1 Musk, Elon; Neuralink (Oct 2019). "An integrated brain-machine interface platform with thousands of channels" (yn en). J Med Internet Res. 21 (10): e16194. doi:10.2196/16194. PMC 6914248. PMID 31642810. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6914248.
- ↑ Biran, Roy; Martin, David C.; Tresco, Patrick A. (2005-09-01). "Neuronal cell loss accompanies the brain tissue response to chronically implanted silicon microelectrode arrays" (yn en). Experimental Neurology 195 (1): 115–126. doi:10.1016/j.expneurol.2005.04.020. ISSN 0014-4886. PMID 16045910.
- ↑ Hanson, Timothy L.; Diaz-Botia, Camilo A.; Kharazia, Viktor; Maharbiz, Michel M.; Sabes, Philip N. (2019-03-14). "The "sewing machine" for minimally invasive neural recording" (yn en). bioRxiv: 578542. doi:10.1101/578542. https://www.biorxiv.org/content/10.1101/578542v1. Adalwyd 10 Rhagfyr 2020.
- ↑ "U.S. regulators rejected Elon Musk's bid to test brain chips in humans". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2023-03-02.
- ↑ Singh, Maanvi (19 Medi 2023). "Elon Musk's Neuralink approved to recruit humans for brain-implant trial". The Guardian.
- ↑ Studio, Play. "Neuralink's First-in-Human Clinical Trial is Open for Recruitment | Blog". Neuralink (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
Dolenni allanol
- Video ar YouTube gan Neuralink; 16 Gorffennaf 2019
- Video ar YouTube gan Neuralink; 1 Rhagfyr 2022
- Andrew Huberman: "Dr. Matthew MacDougall: Neuralink & Technologies to Enhance Human Brains" (cyfweliad gyda phrif llawfeddyg Neuralink, Ebrill 2023)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.