Otello
| Enghraifft o: | gwaith drama-gerdd |
|---|---|
| Gwlad | Yr Eidal |
| Iaith | Eidaleg |
| Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
| Dechrau/Sefydlu | 1884 |
| Genre | opera |
| Cymeriadau | Iago, Cassio, Roderigo, Lodovico, Montano, Herald, Desdemona, Emilia, Otello, Corws |
| Libretydd | Arrigo Boito |
| Lleoliad y perff. 1af | La Scala |
| Dyddiad y perff. 1af | 5 Chwefror 1887 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Cyprus |
| Hyd | 2.25 awr |
| Cyfansoddwr | Giuseppe Verdi |
| Sgriptiwr | William Shakespeare |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0l2d3 |
Mae Otello yn opera a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi rhwng 1884 a 1886 gyda libreto Eidaleg gan Arrigo Boito. Mae'r opera yn seiliedig ar ddrama Shakespeare Othello.[2]
Perfformiad cyntaf
Perfformiwyd Otello am y tro cyntaf yn La Scala ar 5 Chwefror 1887 o dan arweiniad Franco Faccio. Chwaraewyd rhan Otelo gan Francesco Tamagno a rhan Desdemona, ei wraig, gan Romilda Pantaleoni yn y perfformiad cyntaf.
Cymeriadau
| Cymeriad | Llais | |
|---|---|---|
| Otello, Cadfridog Mwraidd | tenor | |
| Desdemona, ei wraig | soprano | |
| Iago, llumanwr Otello | bariton | |
| Emilia, gwraig Iago a morwyn Desdemona | mezzo-soprano | |
| Cassio, Capten Otello | tenor | |
| Roderigo, bonheddwr o Fenis | tenor | |
| Lodovico, llysgennad gweriniaeth Fenis | Baswr | |
| Montano, cyn llywodraethwr Ciprys | Baswr | |
| Herodr | Baswr | |
| Corws: Milwyr a morwyr Fenis; trefolion a phlant Cypris | ||
Plot
Crynodeb fer o Otello[3]
Act 1
Ar ddiwedd y 15g, ar ynys Ciprys ym Môr y Canoldir, mae Otello, yn gadfridog yn y fyddin Fenisaidd, yn dinistrio llynges Twrci. Mae Otello yn ddyn du Affricanaidd ac yn Fŵr.
Mae Iago, un o is swyddogion Otello, yn dal dig yn erbyn Otello, oherwydd bod Otello wedi codi Cassio yn ddirprwy iddo. Mae Iago yn gweld Cassio fel ei brif gystadleuydd iddo wrth geisio dringo rhengoedd y fyddin. Mae Iago yn wneud i Cassio meddwi a gwneud ffŵl ohono'i hun. Mae Otello yn diswyddo Cassio.
Act 2
Mae Iago yn awgrymu wrth Cassio y dylai ofyn i wraig Otello, Desdemona, am ei adferiad i swydd y dirprwy, gan fod gan Desdemona dylanwad mawr ar ei gŵr. Ychydig wedyn mae Iago'n ddweud wrth Otello y dylai cadw golwg ar y berthynas agos sy'n cael ei ffurfio rhwng Desdemona a Cassio.
Act 3
Mae Emilia, gwraig Iago yn gweithio fel morwyn i Desdemona. Mae Iago'n gorfodi ei wraig i ddwyn un o hancesi Desdemona ar ei gyfer. Wedi cael gafael ar yr hances mae Iago yn ei roi yng nghartref Cassio
Mae Otello yn gweld Cassio ym meddiant hances Desdemona. Mae'r ffaith bod yr hances ym meddiant Cassio yn brawf bod Desdemona wedi rhoi arwydd o serch i Cassio. Mewn ffit o genfigen mae'n penderfynu ei lladd hi.
Act 4
Mae Desdemona yn gweddïo cyn clwydo. Wrth iddi weddïo mae hi'n cael teimlad argoelus bod rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd. Mae Otello ym mynd i mewn i'w llofft ond cyn iddi gael cyfle i egluro mae Otello yn ei thagu i farwolaeth
Mae Emilia yn rhuthro i mewn i'r ystafell, ac yn dweud wrth Otello bod Iago wedi gorfodi iddi fod yn rhan o'i gynllwyn ffiaidd, a bod popeth yn rhan o dwyll Iago. Ond mae hi'n rhy hwyr.
Mae Otello yn anobeithio am weld ei wraig ffyddlon eto, ac mae'n lladd ei hun gyda dagr.
Detholiad
| Teitl y gân | Clip sain | Artist |
|---|---|---|
| Niun mi tema (Morte d'Otello) | Francesco Tamagno | |
| Ave Maria | Rosa Ponselle | |
| Credo | Enrico Nani | |
| Sì, pêl ciel marmoreo giuro | Enrico Caruso a Titta Ruffo |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Archivio Storico Ricordi, Archivio Storico Ricordi opera ID 76, Wikidata Q3621644, http://www.archivioricordi.com, adalwyd 20 Hydref 2021
- ↑ Budden, Julian (2002). The Operas of Verdi. Vol 2: From Il trovatore to La forza del destino (2nd ed.). (Llundain: Cassell)
- ↑ Opera Summery & Comment Otello adalwyd 1 Hydref 2018
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.