Pindar
| Pindar | |
|---|---|
| Ganwyd | 517 CC Cynocephalus |
| Bu farw | 437 CC Argos |
| Dinasyddiaeth | Cynghrair Boeotaidd |
| Galwedigaeth | bardd, mythograffydd, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | cerddi buddugoliaeth |
| Tad | Daiphantus |
| Partner | Theoxenus of Tenedos |
Bardd Groegaidd oedd Pindar (Hen Roeg: Πίνδαρος, “Pindaros”), (c. 522 – 443 CC). Ystyrir ef yn un o feirdd mwyaf Groeg.
Ganed Pindar ym mhentref Cynoscephalae yn Boeotia, yn fab i Daiphantus and Cleodice. Priodiodd Megacleia, a chawsant ddwy ferch, Eumetis a Protomache, a mab, Daiphantus. Dywedir iddo farw yn Argos.
Teithiai Pindar ar hyd a lled y byd Groegaidd, o un noddwr i’r llall. Gellir casglu iddo dreulio amser yn llys Hiero I, unben Siracusa, lle cyfansoddodd farddoniaeth i glodfori buddugoliaethau Hiero a Theron yn y Gemau Olympaidd. Ymwelodd â Delffi ac Athen hefyd, ac ymddengys o’i weithiau iddo ymweld ag ynys Aegina. Roedd ganddo dŷ yn ninas Thebai, a chofnodir i’r tŷ hwnnw gael ei arbed gan Alecsander Fawr o barch i’r bardd pan gipiodd ef y ddinas.
Cyfansoddodd Pindar nifer o wahanol fathau o farddoniaeth: gweithiau (Paean) ac emynau eraill ar gyfer gwyliau crefyddol, cerddi moliant i bobl amlwg, marwnadau a cherddi i ddathlu buddugoliaethau yn y Gemau Olympaidd. Dyddia’r cynharaf o’i gerddi sydd ar glawr o tua 498 CC, yn dathlu buddugoliaeth Hippocleas o Thessalia yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn honno.
Gweithiau
Yn ôl un awdur o’r henfyd, rhennid gweithiau Pindar yn 17 llyfr gan ysgolhegion yn Llyfrgell Alexandria:
- 1 llyfr o humnoi - "emynau"
- 1 llyfr o paianes - "paeanau"
- 2 lyfr o dithuramboi - "dithyrhambau"
- 2 lyfr o prosodia - "rhag-gerddi"
- 3 lyfr o parthenia - "cerddi ar gyfer morwynion"
- 2 lyfr o huporchemata - "cerddi ar gyfer dawnsio"
- 1 llyfr o enkomia - "canu mawl"
- 1 llyfr o threnoi - "marwnadau"
- 4 llyfr o epinikia - "cerddi buddugoliaeth"
O’r gweithiau hyn, dim ond yr epinikia, y cerddi i ddathlu buddugoliaethau yn y Gemau Olympaidd, sydd wedi eu cadw yn gyflawn. Dim ond rhannau, yn cynnwys dyfyniadau gan awduron eraill, a gadwyd o’r gweddill.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.