Ray Reardon
| Ray Reardon | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Hydref 1932 Tredegar |
| Bu farw | 19 Gorffennaf 2024 o canser |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | chwaraewr snwcer |
| Gwobr/au | MBE, Snooker Hall of Fame |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr snwcer o Gymru oedd Ray Reardon MBE (8 Hydref 1932 – 19 Gorffennaf 2024).[1] Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r chwaraewr snwcer gorau erioed. Cafodd y llysenw 'Dracula' oherwydd steil ei wallt.
Bywyd cynnar
Cafodd ei eni yn Nhredegar. Cychwynodd weithio fel glöwr cyn ei fod yn bymtheg, gan ddilyn ôl-traed ei dad, Ben. Yn nghanol y 1950au, gorfodwyd y teulu i symud er mwyn chwilio am waith. Sefydlodd y teulu yn Swydd Stafford lle cafodd Ben a'i fab Ray waith ym mhwll glo Florence. Yn 1957, roedd mewn damwain pwll glo pan gwympodd traws mewn twnnel. Cymerodd hi ddeuddeg dyn i gloddio'r rwbel o'r ffordd ac roedd Ray yn sownd am dair awr cyn ei achub. Yn 1960 ymunodd Ray a'r heddlu yn Stoke-on-Trent.[2]
Gyrfa
Enillodd bencampwriaeth y byd chwe gwaith rhwng 1970 a 1978. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i fod yn safle "rhif un yn y byd" pan gyflwynwyd rhestr safloedd byd yn ystod 1976-1977, a pharhodd yn y safle cyntaf am bum mlynedd.[3]
Ymddeolodd o chwarae snwcer yn 1991 pan oedd yn 58 mlwydd oed. Yn ddiweddarach gweithiodd fel ymgynghorydd i chwaraewyr snwcer iau yn cynnwys Ronnie O'Sullivan.
Cyfeiriadau
- ↑ "Ray Reardon: Six-times world snooker champion dies aged 91". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-07-20. Cyrchwyd 2024-07-20.
- ↑ Knapper, Dave (2024-07-20). "How Ray Reardon survived Potteries colliery disaster and became snooker legend". Stoke on Trent Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-21.
- ↑ "Y cyn-chwaraewr snwcer Ray Reardon wedi marw yn 91 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-20. Cyrchwyd 2024-07-20.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.