Rob Brydon
| Rob Brydon | |
|---|---|
| Llais | Rob Brydon BBC Radio4 Front Row 18 Mar 2012 b01dhl11.flac |
| Ganwyd | Robert Brydon Jones 3 Mai 1965 Baglan |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, digrifwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, actor llais, canwr, cyflwynydd radio |
| Gwobr/au | MBE |
| Gwefan | http://www.robbrydon.com |
Mae Rob Brydon (ganwyd Robert Brydon Jones, 3 Mai 1965 Abertawe) yn actor, digrifwr a dynwaredwr o Gymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran fel Bryn West yn y ddrama gomedi Gavin and Stacey.
Cychwynodd weithio i Radio Wales pan oedd yn 20 oed a daeth yn gyflwynydd radio ar orsaf BBC Radio Wales a BBC Radio 5. Daeth ei lais yn adnabyddus iawn wrth iddo leisio nifer fawr o hysbysebion a chyhoeddi ar deledu a ffilm. Datblygodd ei broffil comedi pan ysgrifennodd a serennodd yn y gyfres Marion and Geoff (2000) a'r gyfres o ddeilliodd o'r gyfres hon The Keith Barret Show. Mae hefyd wedi cyflwyno y rhaglen gwis Rob Brydon's Annually Retentive.
Mae Brydon yn adnabyddus am ei gomedi tywyll rhyfedd ac anghysurus ac mae wedi gweithio gyda nifer o ddigrifwyr ac actorion gyda'r un math o hiwmor ag ef, gan gynnwys Steve Coogan sydd wedi cyfeirio at Brydon fel rhyw fath o arloeswr. Fel Coogan mae ganddo'r ddawn i ddynwared pobl enwog. Mae wedi dangos hyn mewn rhaglenni fel The Trip, lle mae ef a Coogan yn chwarae fersiwn ffuglennol o'u hunain, yn teithio o gwmpas yn adolygu bwytai.
Yn 2003, cafodd ei enwi fel un o 50 act doniolaf ym myd comedi Prydain gan bapur newydd The Observer.
Yn 2018 ymddangosodd fel gwestai arbennig yn y gyfres Trust yn chware ran Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ym mhenod 9 White Car in a Snowstorm [1]
Cyfeiriadau
- ↑ - full credits adalwyd 1 Medi 2018
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.