Ruby Evans

Ruby Evans
Ruby ym Mhencampwriaeth Ewrop 2022
Ganwyd17 Mawrth 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgymnast Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Gymnast artistig o Gymru yw Ruby Grace Evans (ganwyd 17 Mawrth 2007). Mae hi'n rhan o dîm Prydain, ac roedd hi'n rhan o'r tim enillodd fedal arian yn Nhwrnament Ewropeaidd 2024 ac mae hi wedi bod yn bencampwr gogledd Ewrop bump gwaith

Bywyd personol

Ganwyd Ruby yng Nghaerdydd yn 2007. Dechreuodd gymnasteg pan oedd yn bump oed.[1] Ei chlwb gymnasteg cyntaf oedd Clwb Gymnasteg Olympaidd Caerdydd. Mae hi'n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.

Gyrfa gymnasteg iau

2019

Cystadlodd Ruby yn ei Phencampwriaeth Cymru cyntaf yn 2019, cipiodd y drydedd wobr gyffredinol yn yr adran espoir. Mis yn ddiweddarach, bu'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain lle chafodd ail ar y llawr a seithfed yn gyffredinol.

2022

Yn gynnar yn 2022, cystadlodd Ruby ym Mhencampwriaeth Cymru a Phrydain, gan ennill y categori iau yn y ddau. Yn mis Gorffennaf, aeth i'r European Youth Olympic Festival lle helpodd Prydain Fawr i orffen yn y chweched safle. Yn unigol, enillodd arian ar y llofnaid. Ym mis Awst, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Ewrop lle helpodd Prydain i orffen yn bedwerydd. Yn unigol, gorffennodd yn bedwerydd a thrydydd ar ddeg yn gyffredinol.

Ym mis Tachwedd, cystadlodd ym mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill fel tîm. Yn unigol, enillodd aur ar y llofnaid.[2]

Gyrfa gymnasteg hŷn

2023

Ers 2023 mae Ruby yn gymwys i gystadlu mewn cystadlaethau gymnasteg 'hŷn'. Gwnaeth ei début hŷn ar gyfer Prydain yng Nghwpan Byd Cottbus lle enillodd arian ar y llofnaid ac efydd ar y llawr.[3] Ym mhencampwriaeth Cymru, roedd Ruby'n ail tu ôl i Poppy-Grace Stickler. Ym mhencampwriaeth Prydain, roedd hi'n bumed yn gyffredinol ac enillodd aur ar y llofnaid.

Yn mis Medi, cafodd Ruby ei dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd 2023 gyda Jessica Gadirova, Alice Kinsella, Ondine Achampong, a Georgia-Mae Fenton. Ruby oedd y fabolgampwraig gyntaf o Gymru mewn 17 mlynedd i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd. Yn y bencampwriaeth, gorffennodd tîm Prydain yn chweched yn y rownd derfynol.

I orffen 2023, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill y gystadleuaeth tîm ac yn unigol enillodd aur yn gyffredinol ac ar y llawr.

2024

Dechreuodd 2024 ym Mhencampwriaeth Cymru, lle bu'n gyntaf yn y gystadleuaeth gyffredinol, ar y llofnaid, barrau anghyflin ac ar y llawr. Cystadlodd fel gwestai ym mhencampwriaeth Lloegr, lle bu'n gyntaf ar y llawr ac yn ail ar y trawst. Ym mhencampwriaeth Prydain, bu'n ail yn gyffredinol. Aeth Ruby i'r Bencampwriaeth Ewropeaidd yn nhîm Prydain gydag Ondine Achampong (yn ddiweddarach wedi amnewid gydag Abigail Martin), Alice Kinsella, Becky Downie, a Georgia-Mae Fenton. Helpodd y tîm i orffen yn ail tu ôl i'r Eidal.

Yn mis Mehefin, cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 gyda Downie, Kinsella, Fenton, and Martin. Ruby yw'r fabolgampwraig cyntaf o Gymru i fynd i'r Gemau Olympaidd ers Sonia Lawrence yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996.[4][5]

2025

Bu'n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd 2025 yn Jakarta, Indonesia.[6] Enillodd fedal arian ar y llawr sy'n golygu taw hi yw'r Gymraes gyntaf erioed i ennill medal unigol ym Mhencampwriaeth y Byd Gymnasteg.[7]

2026

Ym mhencampwriaeth Prydain, bu'n fuddugol yn gyffredinol, a hi oedd y Gymraes gyntaf i hawlio'r teitl ers dros 60 mlynedd.[8][9] Yng Ngemau'r Gymanwlad 2026, gorffennodd Evans yn y chweched safle yng nghystadleuaeth unigol gyffredinol y menywod, ar ôl cwympo,[10] ond enillodd hi'r fedal aur yn y gystadleuaeth gwaith llawr.[11]

Hanes Cystadlu

Blwyddyn Digwyddiad Tîm Yn Gyffredinol Llofnaid Barrau anghyflin Trawst Llawr
Espoir
2019 Pencampwriaeth Cymru 3rd place, bronze medalist(s)
Pencampwriaeth Prydain 7 2nd place, silver medalist(s)
Iau
2021 Elite Gym Massilia 5 13 7
Pencampwriaeth Prydain 1st place, gold medalist(s) 3rd place, bronze medalist(s)
2022 Pencampwriaeth Cymru 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 3rd place, bronze medalist(s) 2nd place, silver medalist(s) 3rd place, bronze medalist(s)
Pencampwriaeth Prydain 1st place, gold medalist(s) 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 6 6
International GymSport 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 2nd place, silver medalist(s)
European Youth Olympic Festival 6 2nd place, silver medalist(s)
Pencampwriaeth Ewropeaidd 4 13 4
Pencampwriaeth Gogledd Ewrop 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
Twrnament Top Gym 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 2nd place, silver medalist(s)
Hŷn
2023 Cwpan Byd Cottbus 2nd place, silver medalist(s) 6 3rd place, bronze medalist(s)
Pencampwriaeth Cymru 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
Pencampwriaeth Prydain 5 1st place, gold medalist(s) 5
Pencampwriaeth y Byd 6
Pencampwriaeth Gogledd Ewrop 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
2024 Pencampwriaeth Cymru 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 4 1st place, gold medalist(s)
Pencampwriaeth Lloegr (gwestai) 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
Pencampwriaeth Prydain 2nd place, silver medalist(s)
Cwpan Byd Doha 2nd place, silver medalist(s)
Pencampwriaeth Ewropeaidd 2nd place, silver medalist(s)
Cwpan her Varna 3rd place, bronze medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
Gemau Olympaidd 4
Rushmoor Rose Bowl 3rd place, bronze medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
2025 Pencampwriaeth Cymru 1st place, gold medalist(s) 1st place, gold medalist(s) 2nd place, silver medalist(s) 1st place, gold medalist(s)
Pencampwriaeth Ewropeaidd 6 10 4
Pencampwriaeth Ewropeaidd, tîm cymysg 2nd place, silver medalist(s) Ddim ar gael
Cwpan her Paris 7
Pencampwriaeth y Byd Ddim ar gael 10 2nd place, silver medalist(s)
Cofeb Arthur Gander 4
2026 Pencampwriaeth Prydain 1st place, gold medalist(s) 4 1st place, gold medalist(s)
Gemau'r Gymanwlad 2026 4 6 7

Cyfeiriadau

  1. "Ruby Evans". www.british-gymnastics.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.
  2. "2022 Northern European Championships Results". The Gymternet (yn Saesneg). 2022-11-21. Cyrchwyd 2024-08-03.
  3. "Ruby Evans". www.british-gymnastics.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.
  4. "Ruby Evans | Team GB". www.teamgb.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.
  5. "Ruby Evans yn 'mynd amdani' yn ei phrofiad Olympaidd gyntaf". BBC Cymru Fyw. 28 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026.
  6. "Y Cymry ifanc i'w gwylio ym myd chwaraeon yn 2026". BBC Cymru Fyw. 27 Rhagfyr 2025. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026.
  7. "'I'm getting stopped for photos in Tesco' – Ruby Evans". BBC Sport (yn Saesneg). 29 Hydref 2025. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026.
  8. "Ruby Evans y cyntaf o Gymru ers degawdau i fod yn bencampwr Prydain". BBC Cymru Fyw. 22 Mawrth 2026. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026.
  9. "Ruby Evans and Joe Fraser crowned British champions". BBC Sport (yn Saesneg). 21 Mawrth 2026. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026.
  10. "Gymnasts Evans and Roper miss out on medals". BBC Sport (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2026. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2026.
  11. "Ruby Evans yn ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad". BBC Cymru Fyw. 28 Gorffennaf 2026. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2026.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.