Sebastian Vettel
| Sebastian Vettel | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Gorffennaf 1987 Heppenheim (Bergstraße) |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
| Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym, motorsports competitor |
| Taldra | 176 centimetr |
| Pwysau | 63 cilogram |
| Gwobr/au | German Sportspersonality of the Year, Silbernes Lorbeerblatt |
| Gwefan | http://www.sebastianvettel.de/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Red Bull Racing, Scuderia Ferrari, BMW Sauber, Scuderia Toro Rosso, Aston Martin Racing |
| Gwlad chwaraeon | Yr Almaen |
| llofnod | |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Almaen yw Sebastian Vettel (ganed 3 Gorffennaf 1987).[1]
Fe'i ganwyd yn Heppenheim. Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Ferrari. Mae ei gontract presennol yn rhedeg hyd o leia diwedd 2017.[2] Mae Vettel wedi bod yn Bencampwr Byd Fformiwla Un bedwar gwaith, ar ôl ennill y bencampwriaeth rhwng 2010 a 2013 gyda thîm Red Bull Racing.[3] Mae'n cael ei ystyried fel un o'r gyrwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Fformiwla Un.[4][5][6][7]
Yn ei flwyddyn cyntaf yn gyrru Red Bull yn 2009, gorffennodd Vettel y tymor fel y gyrrwr ieuengaf erioed i fod yn ail orau ym Mhencampwriaeth Gyrwyr y Byd. Y flwyddyn ganlynol, aeth ymlaen i fod y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill Pencampwriaeth Gyrwyr y Byd yn 23 mlwydd oed. Yn yr un flwyddyn bu'n helpu Red Bull i ennill Pencampwriaeth Adeiladwyr Byd cyntaf y tîm. Dilynodd ei bencampwriaeth cyntaf gyda thri o deitlau mwy, gan ddod yn bencampwr ieuengaf yn y byd i fod yn bencampwr dwbl, triphlyg a pedwarplyg yn Fformiwla Un.[8] Gadawodd Vettel Red Bull Racing a daeth ei gysylltiad hir-dymor i ben gyda'r cwmni ar ôl tymor 2014 a llofnododd gytundeb gyda Ferrari ar gyfer 2015, ar ôl gweithredu'r cymal i derfynu ei gontract Red Bull yn gynnar.[9]
Mae Vettel mae wedi dal niferus o recordiau "ieuengaf" eraill yn Fformiwla Un, yn eu plith: y gyrrwr ieuengaf i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer swyddogol o Grand Prix (tan Max Verstappen yn y Grand Prix 2014 Japaneaidd), i sgorio pwyntiau pencampwriaeth (tan Daniil Kvyat yn Grand Prix 2014 Awstralia), i arwain mewn ras, i sicrhau'r y safle cyntaf[10] ac i ennill ras.[11] Yn 2016 roedd'n e'n dal y record am ennill y mwyaf o bwyntiau yn ei yrfa, gan drechu Fernando Alonso yn Grand Prix Eidal 2015. mae e hefyd yn bedwerydd ymysg y rhestr o enillwyr ras gorau erioed.[12]
Cyfeiriadau
- ↑ "Sebastian Vettel". Formula1.com. Formula One Administration. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2012.
- ↑ "Welcome Sebastian". Scuderia Ferrari. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2014.
- ↑ "Vettel beyond reach in India". Federation Internationale de l'Automobile. 27 Hydref 2013. Cyrchwyd 29 Hydref 2013.
- ↑ "Vettel makes Formula One history with eighth successive victory". Irish Independent. 17 Tachwedd 2013.
- ↑ http://www.theguardian.com/sport/2013/oct/27/sebastian-vettel-wins-f1-title-indian-gp
- ↑ http://www.bbc.co.uk/sport/0/formula1/24426625
- ↑ http://www.theguardian.com/sport/2013/oct/26/sebastian-vettel-f1-champion-indian-grand-prix
- ↑ Benson, Andrew (25 Tachwedd 2012). "Sebastian Vettel wins his third F1 world championship for Red Bull". BBC. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2012.
- ↑ Noble, Jonathan (4 Hydref 2014). "Sebastian Vettel in Ferrari frame after announcing Red Bull exit". Autosport. Cyrchwyd 23 Mawrth 2015.
- ↑ "Vettel makes history in taking pole at Italian Grand Prix". The Sports Network. 13 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-08. Cyrchwyd 13 Medi 2008.
- ↑ "Vettel makes history with Italian Grand Prix win". The Sports Network. 14 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-09. Cyrchwyd 14 Medi 2008.
- ↑ "Statistics drivers – Wins by number". Stats F1. Cyrchwyd 29 Mawrth 2015.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.