Sirosis
| Enghraifft o: | math o glefyd |
|---|---|
| Math | clefyd yr afu, cirrosis |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws NCI | C2951 |
| Freebase | /M/097ns |
| Thesawrws y BNCF | 20788 |
| MeSH | D008103 |
| UMLS CUI | C0023890, c0239946 |
| Quora | Liver-cirrhosis |
Cyflwr yw sirosis ble nad yw'r afu yn gweithio yn iawn oherwydd difrod tymor hir. Nodweddir y difrod hwn gan feinwe yn cael ei gyfnewid gan feinwe greithiol. Fel arfer, mae'r clefyd yn datblygu yn araf dros fisoedd neu flynyddoedd. Yn aml, nid oes symptomau yn y cyfnod cynnar. Wrth i'r clefyd waethygu, gall person ddod yn flinedig, yn wan, coslyd, gael chwyddo yng ngwaelod y coesau, datblygu clefyd melyn, cleisio'n hawdd, cael hylif yn casglu yn yr abdomen, neu ddatblygu gwaedlestri tebyg i gorynnod ar y croen. Gall y casgliad o hylif yn yr abdomen gael ei heintio'n ddigymell. Mae cymhlethdodau eraill gynnwys enseffalopathi hepatig, gwaedu o gwythiennau lledagroed yn y oesophagus neu wythiennau ystumog lledagored, neu ganser yr afu. Mae enseffalopathi hepatig yn achosi dryswch ac yn gallu arwain at anymwybyddiaeth.[1]
Achosion mwyaf cyffredin sirosis yw alcohol, hepatitis B, hepatitis C, a chlefyd afu brasterog di-alcohol.[2] Fel arfer, mae angen mwy na dau neu dri diod alcoholaidd y dydd dros gyfnod o flynyddoedd i achosi siroris alcoholaidd. Mae nifer o achosion i glefyd afu brasterog di-alcohol, gan gynnwys bod dros bwysau, clefyd y siwgr, brasterau gwaed uchel, a phwysedd gwaed uchel. Mae nifer o achosion llai cyffredin o sirosis i'w cael, gan gynnwys hepatitis hunanimíwn, primary biliary cholangitis bustlaidd cynradd, hemochromatosis, meddyginiaethau penodol, a cherrig bustl. Mae diagnosis yn seiliedig ar brofion gwaed, delweddu meddygol, a biopsi afu.
Mae rhai o achosion sirosis, megis hepatitis B, yn gallu cael eu hatal trwy frechiad. Mae triniaeth yn dibynnu yn rhannol ar yr achos sylfaenol, ond y nod yn aml yw atal gwaethygiad a chymhlethdodau. Argymhellir osgoi alcohol ym mhob achos o sirosis. Gellir trin hepatitis B ac C gyda meddyginiaethau gwrth-feirol. Gellir trin hepatitis hunanimiwn gyda meddyginiaethau steroid. Gall ursodiol fod yn ddefnyddiol os yw'r clefyd o ganlyniad i dwythellau bustl. Gall meddyginiaethau eraill fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymhlethdodau megis chwyddo yn yr abdomen neu goesau, enseffalopathi hepatig, a gwythiennau oesophagaeal lledagored. Mewn achosion dwys o sirosis, gall trawsblannu'r afu fod yn opsiwn.
Mae tua 2.8 miliwn o bobl yn dioddef o sirosis ac arweiniodd y cyflwr at 1.3 miliwn o farwolaethau yn 2015. O'r rhain, achoswyd 348,000 gan alcohol, 326,000 gan hepatitis C, a 371,000 gan hepatitis B. Yn yr Unol Daleithiau, mae mwy o ddynion nag o fenywod yn marw o sirosis. Ceir y disgrifiad cyntaf at y cyflwr gan hippocrates yn y 5g CC.
Cyfeiriadau
- ↑ "Cirrhosis". 23 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2015. Cyrchwyd 19 Mai 2015.
- ↑ GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 Rhagfyr 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.