Socrates
| Socrates | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 470 CC Alopeke, Athen |
| Bu farw | 15 Chwefror 399 CC, Mai 399 CC o yfed o'r cegid Athen |
| Man preswyl | Athen yr henfyd |
| Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
| Galwedigaeth | athronydd, athro, ysgrifennwr, moesegydd |
| Prif ddylanwad | Anacsagoras, athroniaeth cyn-Socratig, sophist |
| Tad | Sophroniscus |
| Mam | Phaenarete |
| Priod | Xanthippe, Myrto |
| Plant | Lamprocles, Menexenus |
Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.
Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohono, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.
Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.
Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o gegid.
Ffynonellau
- D. James Jones, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod "Socrates", tt.54–77
Darllen pellach
- Bettany Hughes. The Hemlock Cup: Socrates, Athens and the Search for the Good Life (Jonathan Cape, 2010).
- Plato. Amddiffyniad Socrates, cyfieithwyd o'r Roeg gan D. Emrys Evans. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.