Stuart Burrows
| Stuart Burrows | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Chwefror 1933 Cilfynydd |
| Bu farw | 29 Mehefin 2025 Caerdydd |
| Label recordio | Decca Records, Philips Records |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | canwr opera, canwr |
| Arddull | opera |
| Math o lais | tenor |
| Gwobr/au | OBE |
Canwr opera tenor o Gymru oedd Stuart Burrows OBE (7 Chwefror 1933 – 29 Mehefin 2025). Daeth yn fyd-enwog am ganu oratorios ac operâu, yn enwedig darnau clasurol Puccini, Verdi, Donizetti a Mozart. Gelwid ef 'y tenor Mozart gorau erioed' gan Rhys Meirion.[1]
Bywyd cynnar
Ganwyd Stuart yn 19 William Street, ym mhentre Cilfynydd ger Pontypridd, sef yr un stryd a seren arall y byd opera - Syr Geraint Evans. Dechreuodd ganu yn ddeg oed yng nghôr y capel a bu'n cystadlu mewn amryw o eisteddfodau.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959 enillodd Wobr Goffa David Ellis a hynny ar ei ymgais gyntaf.[1]
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa fel athro mewn ysgol gynradd ym Margoed. Yn 1963 pasiodd glyweliad ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a throdd yn gantor broffesiynol. Yn 1978 perfformiodd am y tro cyntaf yn nhŷ opera byd-enwog La Scala ym Milan.
Teithiodd y Dwyrain Pell gyda'r Opera Cenedlaethol yn 1979 a chanodd gyda'r cwmni yn yr Ŵyl Olympaidd yn Los Angeles yn 1984.
Yn ystod ei yrfa perfformiodd yn y tai opera mwyaf yn cynnwys Opera San Francisco a Covent Garden.
Cyhoeddwyd recordiau yn canu yn Gymraeg a ieithoedd eraill.
Yn ogystal a'i waith ar lwyfan, perfformiodd ar sioeau radio a theledu hefyd. Daeth â chanu operatig at gynulleidfa ehangach gyda'i gyfres teledu Stuart Burrows Sings ar BBC Two a redodd am 8 cyfres.[2] Yn yr 1980au cafodd gyfres ei hun ar S4C o'r enw Gwlad y Gân.
Anrhydeddau
Derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Cymru ym 1981, Cymrodoriaeth Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ym 1989, ac fe dderbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Aberystwyth hefyd.
Yn 2007 fe dderbyniodd OBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth.
Bywyd personol
Roedd yn byw ym mhentre Sain Ffagan.[2]
Bu farw yn 92 mlwydd oed wedi cyfnod byr o waeledd.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Y tenor byd-enwog Stuart Burrows wedi marw yn 92 oed". BBC Cymru Fyw. 2025-06-29. Cyrchwyd 2025-06-29.
- ↑ 2.0 2.1 "BBC - Wales - Music - Stuart Burrows - Stuart Burrows". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-06-29.
- ↑ "Y canwr opera Stuart Burrows wedi marw'n 92 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-06-29. Cyrchwyd 2025-06-29.
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol
- Disgyddiaeth Stuart Burrows ar Discogs
- Stuart Burrows ar wefan Internet Movie Database
Gweler hefyd
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
